Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae diogelwch adeiladau yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Felly rydym wedi gweithio'n agos gyda'n cymheiriaid yn Llywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn gymwys yng Nghymru mewn perthynas â diogelwch tân drwy Ddeddf Diogelwch Tân y Swyddfa Gartref a Bil Diogelwch Adeiladau'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Y diwygiadau deddfwriaethol hyn yw dechrau'r daith y byddwn yn ei dilyn er mwyn sicrhau y caiff adeiladau yn y dyfodol eu hadeiladu, eu cynnal a'u cadw a'u rheoli mewn ffordd sy'n blaenoriaethu diogelwch preswylwyr.

Nid dim ond canolbwyntio ar y dyfodol y mae ein Rhaglen Waith, ac rydym hefyd wrthi’n nodi’r adeiladau hynny sydd eisoes yn bodoli ac sy'n cael eu heffeithio gan faterion diogelwch tân a'r gwaith cyweirio sydd ei angen i leihau risgiau i drigolion.  Mynegi diddordeb ar gyfer cyllid Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru yw'r cam cyntaf hanfodol er mwyn cael cymorth gan Lywodraeth Cymru. Gwahoddir Personau Cyfrifol i gyflwyno gwybodaeth a fydd yn caniatáu cynnal arolwg digidol ar eich rhan, ac os yw'n briodol, bydd rhagor o waith arolygu ymwthiol yn cael ei wneud. Mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim, a bydd yn helpu i nodi unrhyw risgiau, a'r mesurau a'r camau gweithredu sydd eu hangen i leihau risgiau tân a diogelu bywydau ac eiddo.

Deallwn efallai na fyddwch yn gwybod pwy yw’r Person Cyfrifol am eich adeilad mewn rhai achosion. Os yw hynny’n wir, byddem yn eich annog i gysylltu â Thîm Diogelwch Adeiladau Cymru drwy e-bostio:   welshbuildingsafetyfund@llyw.cymru

Nodau'r Gronfa Diogelwch Adeiladau

Dyma amcanion Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru:

  • nodi'r mesurau sydd eu hangen i sicrhau gwelliant priodol o ran diogelwch tân, heb gyfaddawdu ar gysur ac iechyd defnyddwyr yr adeilad na gallu’r adeilad i wrthsefyll tân;
  • mabwysiadu dull adeilad cyfan i leihau risg tân gan osgoi'r angen am waith ychwanegol yn ddiweddarach a chanlyniadau anfwriadol eraill;
  • nodi sut y byddai gwaith yn mynd i'r afael â materion sy'n peri pryder ac yn datrys problemau sy'n ymwneud â diogelwch personol, yswiriant, gwerthiant eiddo.

Bydd y canllawiau ategol isod yn eich helpu i gwblhau'r ffurflen mynegi diddordeb ar gyfer cyllid y Gronfa Diogelwch Adeiladau.

Sut i wneud cais

Bydd y canllawiau ategol isod yn eich helpu i gwblhau'r ffurflen mynegi diddordeb ar gyfer cyllid y Gronfa Diogelwch Adeiladau.

Ni fyddwn yn derbyn unrhyw ffurflenni Mynegi Diddordeb a gwblhawyd gan Lesddeiliaid, Tenantiaid na Phreswylwyr adeiladau.

Dim ond y Personau Cyfrifol neu bobl ag awdurdod gan y Person Cyfrifol a all lenwi'r ffurflen.

Mae’r gwaith arolygu yn amodol ar y Person Cyfrifol yn cytuno i rannu adroddiadau gyda phreswylwyr / lesddeiliaid / datblygwyr.

Canllawiau ar gyfer cwestiynau’r ffurflen mynegi diddordeb

Rhan A – Manylion Personol

A1 Ai chi yw'r Person Cyfrifol ar gyfer yr adeilad hwn/yr adeiladau hyn?
  • Dewiswch Ie / Nage
A2 Os nad chi yw'r Person Cyfrifol, nodwch pa awdurdod sydd gennych i lenwi'r ffurflen hon ar gyfer yr adeilad(au)?
  • Os nad chi yw'r Person Cyfrifol, nodwch pa awdurdod sydd gennych i lenwi'r ffurflen hon. Gallai hyn olygu Personau Cyfrifol a benodwyd/ Perchnogion Adeiladau/ Asiantiaid Rheoli neu Ddatblygwyr.
A3 Rhowch eich enw cyswllt.
  • Enw llawn y person sy'n llenwi'r ffurflen
A4 Rhowch enw eich sefydliad, os yw'n berthnasol.
  • Os ydych yn gweithredu ar ran sefydliad, rhowch enw'r sefydliad
A5 Rhowch gyfeiriad eich e-bost.
  • Rhowch gyfeiriad e-bost y gellir ei ddefnyddio i gysylltu â'r Person Cyfrifol.
A6 Rhowch y rhif cyswllt gorau i gysylltu â chi.
  • Rhowch rif cyswllt y gellir ei ddefnyddio i gysylltu â'r Person Cyfrifol
A7 Rhowch gyfeiriad eich gwefan, os yw'n berthnasol.
  • Gallai hyn fod yn gyfeiriad gwefan yr adeilad neu’r sefydliad.

Rhan B: gwybodaeth am yr adeilad

B1 Rhowch enw’r adeilad
  • Rhowch enw’r adeilad  
B2 Rhowch gyfeiriad a chod post yr adeilad
  • Rhowch y cyfeiriad llawn a’r cod post  
B3 Rhowch Gyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN) yr adeilad.
  • Rhowch yr UPRN ar gyfer eich adeilad. Os nad oes UPRN gennych, ewch i wefan www.findmyaddress.co.uk i ddod o hyd i’r UPRN.
B4 Dewiswch ardal yr Awdurdod Lleol y mae'r adeilad wedi'i leoli ynddi.
  • h.y. Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Caerdydd.
B5 Rhowch uchder yr adeilad hyd at lefel llawr y llawr uchaf mewn metrau, os yw'n hysbys.
  • Uchder yr adeilad i'w fesur o lefel isaf allanol y ddaear i lefel llawr y llawr uchaf (nid y to), os yw'n hysbys.
B6 Sawl llawr uwchben lefel y ddaear sydd gan yr adeilad?
  • Cyfrifir nifer y lloriau sydd uwchben lefel y ddaear. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw loriau islaw lefel y ddaear, megis islawr. Os yw'r safle'n addas ar gyfer lefel y ddaear sydd ar amryw-lefel, cyfrifwch y lloriau uwchben lefel y ddaear isaf, h.y. safle ar amryw-lefelau.
Image
Diagram C6 Height of top storey in building


Ffynhonnell: https://llyw.cymru/canllawiau-ar-reoliadau-adeiladu-rhan-b-diogelwch-tan

B7 Rhowch y flwyddyn y cwblhawyd y gwaith o adeiladu'r adeilad, os yw'n hysbys.
  • Dyma'r flwyddyn y cwblhawyd gwaith adeiladu'r adeilad. 
B8 Rhowch enw datblygwr yr adeilad, os yw’n hysbys?
  • Datblygwyr a adeiladodd yr adeilad a/neu eraill sydd wedi cynnal unrhyw waith ôl-weithredol.
B9 Faint o fflatiau sydd yn yr adeilad?
  • Rhowch nifer y fflatiau preswyl yn yr adeilad.
B10 A yw deiliadaeth yr adeilad yn gymdeithasol, preifat neu gymysg?
  • A yw deiliadaeth yr adeilad yn ddeiliadaeth gymdeithasol, preifat neu gymysg?
B11 A oes unrhyw eiddo masnachol wedi'i leoli yn yr adeilad?
  • Nodwch a oes unrhyw eiddo masnachol.

Rhan B: cladin

B12 A oes cladin allanol wedi’i osod ar yr adeilad?
  • Dewiswch Oes neu Nac oes.
B13 A osodwyd y cladin fel rhan o'r gwaith adeiladu gwreiddiol neu a osodwyd y cladin ar ôl y gwaith adeiladu gwreiddiol?
  • A yw'r cladin presennol ar yr adeilad yn rhan o'r gwaith adeiladu gwreiddiol, neu a yw wedi'i osod ar ôl y gwaith adeiladu gwreiddiol fel rhan o waith adnewyddu ers adeiladu'r adeilad?
B14 Rhowch fanylion elfennau'r System Cladin allanol a osodwyd ar yr adeilad drwy ddewis o blith yr opsiynau yn y gwymplen ym mhob rhes ar gyfer yr holl fathau o gladin sy'n berthnasol. Er enghraifft, os oes un math o gladin allanol wedi'i osod ar yr adeilad, llenwch res Cladin Math 1.
Cladin Math 1 – Y Mathau o Ddeunyddiau a Ddefnyddiwyd fel Cladin
  • Pa fath o ddeunydd yw’r cladin?
Cladin Math 1 – Maint y Cladin a Ddefnyddiwyd
  • Pa ganran o’r adeilad sydd wedi’i gorchuddio â’r cladin?
Cladin Math 1 – Y Math o Ddeunydd Inswleiddio
  • Pa fath o ddeunydd inswleiddio a ddefnyddiwyd ar yr adeilad?

Rhan B: problemau a nodwyd sy’ ymwneud â’r adeilad

B15 A oes problemau sy'n ymwneud â diogelwch yr adeilad eisoes wedi'u nodi yn yr adeilad hwn?
  • Rhowch wybod inni os oes unrhyw hysbysiadau gorfodi neu a oes gan yr adeilad staff hyfforddedig ar batrôl i warchod y preswylwyr pe byddai tân [‘waking watch’’]?
B16 Os nad oes problemau, beth yw eich sail resymegol dros gyflwyno datganiad o ddiddordeb?
  • Rhowch wybod inni pam yr ydych wedi cyflwyno’r datganiad o ddiddordeb hwn?
B17 A oes Asesiad Risg Tân presennol ar gyfer yr adeilad?
  • Dylai asesiad risg tân nodi'n systematig yr holl beryglon sy'n gysylltiedig â thân ar y safle, a gwerthuso sut y gallai'r peryglon hynny effeithio'n andwyol ar yr adeilad a defnyddwyr yr adeilad. Dylai nodi lefel y risg y gallai'r peryglon hynny ei chyflwyno a hefyd nodi mesurau rheoli addas ar gyfer unrhyw ganfyddiadau arwyddocaol.
  • Os ydych yn darparu copi o'r Asesiad Risg Tân ar gyfer yr adeilad, sicrhewch nad yw'n torri unrhyw gytundeb sy'n ymwneud â rhannu dogfennau neu gyfrinachedd cytundebol, cyn lanlwytho copi ohono.
B18 Os nad oes gennych gopi o Asesiad Risg Tân blaenorol, rhowch fras amcan o’r dyddiad y cynhaliwyd yr Asesiad Risg Tân diwethaf ar yr adeilad.
  • Rhowch wybod am ddyddiad yr Asesiad Risg Tân diwethaf. Os nad ydych yn gwybod, rhowch Amherthasol
B19 A oes Asesiad Risg presennol o’r Cladin ar gyfer yr adeilad?
  • Bydd yr Asesiad Risg o'r Cladin wedi rhoi syniad da ichi o'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r gweithgaredd, ynghyd â'r risgiau a'r mesurau rheoli y dylech fod yn meddwl amdanynt.
  • Os ydych yn darparu copi o'r Asesiad Risg o’r Cladin ar gyfer yr adeilad, sicrhewch nad yw'n torri unrhyw gytundeb sy'n ymwneud â rhannu dogfennau neu gyfrinachedd cytundebol, cyn lanlwytho copi ohono.
B20 Os nad oes gennych gopi o Asesiad Risg blaenorol o’r Cladin, rhowch fras amcan o’r dyddiad y cynhaliwyd yr Asesiad Risg diwethaf o’r Cladin ar gyfer yr adeilad.
  • Rhowch wybod am ddyddiad yr Asesiad Risg diwethaf o’r Cladin. Os nad ydych yn gwybod, rhowch Amherthasol.
B21 A oes un neu fwy o Ffurflenni ar System y Waliau Allanol (EWS1) wedi’u llenwi gyfer yr adeilad?
  • Ffurflen a ddefnyddir i gofnodi canlyniadau'r Adolygiad o Risgiau Tân y Waliau  Allanol yw ffurflen EWS1. Cynhelir arolygon ar waith adeiladu’r waliau allanol mewn adeiladau a chanddynt naill ai pryder penodol, neu adeiladau sydd ag uchder o 18 metr neu fwy uwchben lefel y ddaear.
  • Os ydych yn darparu copi o'r Ffurflen(ni) EWS1 ar gyfer yr adeilad, sicrhewch nad yw'n torri unrhyw gytundeb sy'n ymwneud â rhannu dogfennau neu gyfrinachedd cytundebol, cyn lanlwytho copi o Ffurflen(ni) EWS.
B22 Os nad oes gennych gopi o EWS1 flaenorol, rhowch fras amcan o’r dyddiad y cafodd EWS1 ei llenwi ddiwethaf ar gyfer yr adeilad a chanlyniad yr asesiad.
  • Rhowch wybod am ddyddiad yr Asesiad Risg Tân diwethaf. Os nad ydych yn gwybod, rhowch Amherthasol.
B23 A gafwyd dyfynbrisiau ar gyfer cyweirio’r cladin allanol a osodwyd ar yr adeilad?
  • Dewiswch Do neu Naddo

Rhaid ichi gyflwyno’r holl ddogfennau sy’n ymwneud ag Asesiad Risg Tân, Asesiad Risg o’r Cladin neu EWS1 i welshbuildingsafetyfund@llyw.cymru gan ddyfynnu eich cyfeirnod unigryw ar gyfer mynegi diddordeb.

Os nad yw'r isod ar gael nawr ond maent yn dod ar gael yn ystod y broses ymgeisio, yna dylid eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach.

B24 Rhowch wybod inni am unrhyw wybodaeth bellach sy’n berthnasol yn eich barn chi.
  • Rhowch wybod am unrhyw wybodaeth bellach a allai fod yn berthnasol yn eich barn chi?
B25 A ydych chi wedi cael anhawster wrth geisio cael sicrwydd yswiriant adeiladau o ganlyniad i broblemau diogelwch sy’n ymwneud â’ch adeilad?
  • Mae dau fater o ran yswiriant adeiladau mewn perthynas ag adeiladau uchel sy'n risg uchel, sef argaeledd (o ran a all adeiladau gael dyfynbris ar gyfer yswiriant) a fforddiadwyedd (y pris). Dewiswch Ydw neu Nac ydw.
B26 A ydych chi wedi cysylltu â Rhoddwyr Benthyciadau / Yswirwyr i nodi risgiau prisio ac yswirio a allai gael / a fyddai’n cael eu lliniaru gan waith cyweirio?
  • Dewiswch Ydw neu Nac ydw
B27 Os ydych wedi ateb ‘Ydw’ i B27, a oes unrhyw waith cyweirio a nodwyd wedi’i gynnal?
  • Dewiswch Oes neu Nac oes
B28 A ydych chi am ychwanegu adeilad arall?
  • Cliciwch 'Ydw' i ychwanegu adeilad arall (gellir ychwanegu nifer o adeiladau). Cliciwch 'Nac ydw'i barhau i Ran C.

Rhan C – Gwaith Adfer

C1 A oes gennych chi neu’r datblygwr unrhyw gynlluniau i ymgymryd â gwaith diogelwch adeiladau fel rhan o'ch amserlen cynnal a chadw adeiladau presennol?  Os felly, a wnewch chi amlinellu’r rhain?

Rhan D – Ymgysylltu â Phreswylwyr a Lesddeiliaid

D1 A oes polisi presennol ar waith mewn perthynas â chyfathrebu â phreswylwyr / lesddeiliaid?
  • A oes polisi presennol ar waith mewn perthynas â chyfathrebu â phreswylwyr / lesddeiliaid? Gallai hynny gynnwys rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i breswylwyr yn rheolaidd, cylchlythyrau ac ati.
D2 Beth yw eich strategaeth ar gyfer parhau i feithrin cysylltiadau â phreswylwyr / lesddeiliaid a sut y bydd y strategaeth honno’n ymgorffori’r gwaith hwn.
  • Rhowch wybod a fyddwch yn paratoi strategaeth gyfathrebu ar gyfer ymgysylltu â phreswylwyr/lesddeiliaid wrth symud ymlaen.
D3 Rhowch wybod os bu unrhyw gysylltiad blaenorol â'r datblygwr ynghylch cyweirio'r adeilad.
  • Rhowch unrhyw wybodaeth flaenorol sydd ar gael am drafodaethau neu gytundebau gyda'r datblygwr ynghylch cyweirio'r adeilad.

Cwestiynau Cyffredin

Beth sy’n dod o dan gylch gwaith cyllid Cam 1?

Rydym yn gwneud gwaith arolygu ar ran Personau Cyfrifol. Mae hyn yn cynnwys arolwg desg cynhwysfawr, ac os yw'n briodol arolwg diogelwch tân ymwthiol o'r waliau allanol, yn ogystal â'r mannau cyffredin a drysau mynediad i fflatiau . Bydd adroddiad o’r gwaith arolygu ymwthiol yn darparu asesiad o unrhyw ddiffygion diogelwch tân a geir yn yr adeilad neu arno, a’r camau y dylid eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â nhw.

Pa adeiladau sy'n gymwys i gael cyllid Cam 1?

Bydd adeiladau preswyl amlfeddiannaeth sy'n 11m neu fwy o uchder (neu’n 4 llawr a mwy) yn gymwys i gael cyllid.  Noder y byddai 11 metr fel arfer yn cynrychioli 4 llawr a mwy.

A yw hyn yn gymwys i'r sector preifat a'r sector cyhoeddus?

Ydy. Mae adeiladau preswyl amlfeddiannaeth sy'n 11m neu fwy o uchder (neu’n 4 llawr a mwy) o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat yn gymwys i wneud cais. Mae hyn yn cynnwys adeiladau defnydd cymysg.

Pa mor gyflym y gellir cynnal arolwg diogelwch tân?

Mae Llywodraeth Cymru wedi caffael ymgynghorwyr i gynnal gwaith arolygu.  Cynhelir yr arolygon desg yn syth, ac yna bydd gwaith arolygu ymwthiol pellach yn cael ei drefnu yn seiliedig ar asesiad risg o’r adeilad a'r trefniadau mynediad gofynnol. 

Sut mae gwneud cais?

Dylai ceisiadau am gyllid gael eu gwneud gan bersonau cyfrifol, perchenogion adeiladau, asiantiaid rheoli neu ddatblygwyr adeiladau cymwys. Bydd y datganiad o ddiddordeb yn rhan o broses yr arolwg i nodi pa adeiladau sydd angen arolygon ymwthiol.

Fodd bynnag, os nad ydych yn gwybod pwy yw’r Person Cyfrifol ar gyfer eich adeilad, yna cysylltwch â blwch negeseuon e-bost Tîm Diogelwch Adeiladu Cymru:  welshbuildingsafetyfund@llyw.cymru