Neidio i'r prif gynnwy

Mae cronfa werth £250,000 gan Lywodraeth Cymru i gefnogi plant y lluoedd arfog mewn ysgolion bellach yn agored i geisiadau gan ysgolion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y mis diwethaf y byddai'r Gronfa Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg i Gymru yn cael ei hymestyn i 2019-20. Derbyniodd 27 o ysgolion ledled Cymru gyllid ar gyfer prosiectau y llynedd.

Mae'r Gronfa’n helpu ysgolion i ddarparu cymorth ychwanegol i blant o deuluoedd personél y lluoedd arfog. Gall yr heriau gynnwys effaith symud o un ysgol i'r llall oherwydd lleoliad y penodiad a’r  effaith pan fydd rhieni neu warcheidwaid yn y lluoedd arfog yn cael eu hanfon oddi cartref, naill ai ar weithrediad neu ar gyfer ymarfer hyfforddi hirdymor. 

Gweinyddir y Gronfa gan y prosiect Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg ac fe'i cynhelir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

Y dyddiad cau i ysgolion gyflwyno ceisiadau yw 30 Medi.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae sicrhau mynediad cyfartal at addysg i bob plentyn a pherson ifanc yn un o'm prif flaenoriaethau ac rwy'n cydnabod yr heriau penodol y gall plant y lluoedd arfog eu hwynebu.

“Mae'r Gronfa Cefnogi Plant yng Nghymru wedi bod yn hynod lwyddiannus, ac felly rwy’n falch o allu parhau â'r cyllid am flwyddyn arall. Mae’r cyllid wedi cefnogi llawer o brosiectau diddorol ac arloesol ar gyfer plant y Lluoedd Arfog mewn ysgolion ledled Cymru.

Ychwanegodd Ant Metcalfe, Rheolwr Ardal y Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghymru:

“Mae parhad y gronfa hon yn newyddion gwych. Gwyddom y gall plant personél y lluoedd arfog wynebu heriau penodol fel symud ysgol yn aml neu'r ansicrwydd emosiynol sy'n dod yn sgil cael rhiant oddi cartref ar leoliad, ac felly mae'n iawn bod ysgolion yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o gefnogi'r plant hynny'n well.

“Rydyn ni eisoes wedi gweld cynigion llwyddiannus gwych ym mlwyddyn gyntaf y Gronfa, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut bydd yr arian hwn cael ei ddefnyddio eleni i helpu plant y lluoedd arfog yng Nghymru.”

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Addysg:

"Mae pawb sy'n ymwneud â’r Gronfa, a gynhelir gan CLlLC, yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bod yn parhau. Mae ysgolion yng Nghymru yn gwneud gwaith gwych o ran adnabod heriau y mae plant y Lluoedd Arfog yn eu hwynebu mewn addysg a gweithio gyda SSCE Cymru i sicrhau nad ydynt o dan anfantais oherwydd eu ffordd o fyw. Bydd Cronfa Cymru’n o help mawr i sicrhau bod y gwaith hwn yn parhau a bod enghreifftiau o arfer da yn cael eu rhannu."

Gall ysgolion gyflwyno ceisiadau yma: 

https://www.sscecymru.co.uk/cyllid