Wrth iddi gyrraedd ei charreg filltir tair blynedd, mae Cronfa Triniaethau Newydd Llywodraeth Cymru, gwerth £80 miliwn, wedi lleihau’r amser cyfartalog y mae'n ei gymryd i feddyginiaethau newydd eu hargymell ddod ar gael i gleifion cymaint ag 85%, o 90 o ddiwrnodau i ddim ond 13.
Mae'r Gronfa’n cyflymu mynediad at driniaethau newydd sy'n gwella ac yn achub bywydau trwy grantiau blynyddol gwerth £16 miliwn i Fyrddau Iechyd Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre.
Mae’r Gronfa'n ei gwneud yn ofynnol i bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru sicrhau bod meddyginiaethau sydd newydd eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) ar gael i gleifion o fewn 60 diwrnod. Mae’r Byrddau Iechyd wedi perfformio'n llawer gwell na'r targed hwn, gyda'r amserlen ar gyfartaledd ar gyfer sicrhau bod y triniaethau diweddaraf ar gael i gleifion bellach yn 13 diwrnod. Mae 226 o feddyginiaethau yn awr ar gael o dan y Gronfa Triniaethau Newydd*, ar gyfer dros 100 o wahanol gyflyrau iechyd gan gynnwys:
Canser y Fron
Osteoporosis
Clefyd Crohn’s
Hepatitis C
HIV
Canser yr Arenau
Ffeibrosis Systig
Lymffoma
Asthma
Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint
Canser y Prostad
Lewcemia
Diabetes
Psoriasis
Canser yr Ofari
Sglerosis Ymledol
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:
Mae'r gronfa hon yn gwneud yn union beth yr oeddem wedi bwriadu iddi ei wneud - cyflymu mynediad at driniaethau newydd waeth ble'r ydych chi'n byw yng Nghymru. Mae'n ein galluogi i drawsnewid y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu. I rai cleifion mae'r meddyginiaethau yn achub eu bywydau, ac i eraill maent yn gwella ansawdd eu bywydau yn sylweddol.
Un enghraifft ddiweddar yw'r cyffur epilepsi Epidyolex™, a wnaed ar gael i gleifion yng Nghymru dros bum wythnos yn gynharach na'r targed o 60 diwrnod. Mae rhagori ar y targed hwn yn gyson yn dipyn o gamp ac yn gwneud gwahaniaeth o bwys i fywydau pobl. Rwy'n benderfynol, drwy sicrhau parhad y gwaith agos rhwng y GIG yng Nghymru a'r diwydiant fferyllol, y bydd y gronfa hon yn dal i roi mynediad parhaus i gleifion yng Nghymru at y triniaethau arloesol diweddaraf.
Dywedodd Jacinta Abraham, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre:
Mae'r gronfa triniaethau newydd yn golygu y gall rhai cleifion yng Nghanolfan Ganser Felindre dderbyn triniaethau sydd ar flaen y gad cyn gynted â phosibl. Mae llawer o driniaethau newydd wedi cael eu darparu ers i'r Gronfa gael ei chyflwyno ac mae cleifion yn byw'n hirach oherwydd y triniaethau hyn. Yn Felindre, rydym wedi ymrwymo i wella canlyniadau i'n cleifion ac mae cael y driniaeth gywir ar yr adeg iawn yn allweddol.