Canllawiau: Y Gronfa Rheoli Llifogydd yn Naturiol (2020–2022)
Canllawiau i Awdurdodau Rheoli Risg sy’n edrych am gyllid ar gyfer cynlluniau Rheoli Llifogydd yn Naturiol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn ei Datganiad Ysgrifenedig ar 3 Ebrill, y byddai’r Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn cynnwys o leiaf £1 miliwn o gyllid ar gyfer cynlluniau Rheoli Llifogydd yn Naturiol (NFM).
Mae Llywodraeth Cymru yn annog Awdurdodau Rheoli Risg (RMA) i ddefnyddio ymyriadau Rheoli Llifogydd yn Naturiol. Mae’r Canllawiau ar Achosion Busnes ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn nodi y dylid ystyried mesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol ar gyfer pob cynllun. Fodd bynnag, am nifer o resymau, mae’r defnydd o fesurau o’r fath wedi bod yn gyfyngedig.
Hoffem gynyddu ein dealltwriaeth o ddulliau rheoli llifogydd yn naturiol, ac er mwyn annog cynlluniau sy’n defnyddio dulliau o’r fath, rydym yn cynnig cyllid gwerth 100% o bob cam o’r broses ddatblygu:
- arfarnu
- dylunio
- adeiladau
- monitro
Ni fydd angen i ddatblygwyr wneud cyfraniad at gost cyflawni cynlluniau Rheoli Llifogydd yn Naturiol, na’r elfennau Rheoli Llifogydd yn Naturiol mewn cynlluniau hybrid. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddant am ychwanegu cyllid i ddarparu manteision ychwanegol neu geisio cymorth gan drydydd partïon sydd am wneud cyfraniad.
Ar hyn o bryd disgwylir i’r cynllun bara am ddwy flynedd, rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2022.
Meini prawf cymhwysedd
Yn yr un modd â grant craidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM), ac yn unol â Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, dim ond i Awdurdodau Rheoli Risg sy’n gweithredu yng Nghymru y mae’r Gronfa Rheoli Llifogydd yn Naturiol ar gael. Fodd bynnag, byddem yn annog awdurdodau rheoli risg i weithio gydag unrhyw bartneriaid posibl ac ar draws meysydd cyllid i gael mynediad at arian ychwanegol, i gefnogi prosiectau sy’n cynnwys dalgylchoedd mwy ac yn arwain at fanteision gwell.
Mae’n rhaid i bob ymyriad Rheoli Llifogydd yn Naturiol leihau’r risg i bobl ac eiddo, neu gynnal yr un lefelau o amddiffyn. Mae hyn yn cyd-fynd â’r grant craidd ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, a Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru. Rhaid i’r gwaith hwn fod yn werth chweil o safbwynt economaidd a bodloni’r holl ofynion statudol.
Mae’r gronfa hon ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn cynnig cyfle i Awdurdodau Rheoli Risg a’r Llywodraeth ddysgu. Rhaid i bob prosiect gynnwys monitro. Bydd archwilio asedau’n rheolaidd yn rhoi dealltwriaeth o’u cynaliadwyedd yn y tymor hir, yn ogystal ag unrhyw sgil effeithiau nas gwelwyd. Bydd hyn yn darparu mecanwaith ar gyfer dysgu/rhoi adborth, er mwyn i Lywodraeth Cymru rannu arferion da a gwersi a ddysgwyd.
Rydym yn cydnabod bod anawsterau ynghylch meintioli’r manteision sy’n gysylltiedig â chyflawni cynlluniau Rheoli Llifogydd yn Naturiol, ac rydym yn ceisio ffyrdd arloesol o fonitro a chofnodi allbynnau a manteision. Rydym yn derbyn y bydd rhywfaint o’r gwaith monitro yn defnyddio tystiolaeth storïol, o bosibl gyda chymorth cymunedau neu academia, a dylai hyn gael ei amlinellu yn eich cais. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i wrthod cynlluniau nad ydynt yn rhoi gwerth da am arian, yn ei barn hi.
Gwahoddir Awdurdodau Rheoli Risg i gyflwyno ceisiadau gwerth hyd at gyfanswm o £150,000 ar gyfer pob cynllun. Mae cynlluniau mwy yn parhau i fod yn gymwys, ond dylid trafod y rhain â’r tîm FCERM gyntaf i ystyried a yw Achos Cyfiawnhad Busnes neu Achos Busnes Llawn yn briodol.
Caiff awdurdodau lleol gyflwyno ceisiadau lluosog ar gyfer cynlluniau y gellir eu cwblhau ym mlwyddyn ariannol 2020–2021, neu a fydd yn cael eu cwblhau dros fwy nag un flwyddyn gydag allbynnau clir ar gyfer y flwyddyn hon. Er enghraifft:
- Cynllun 1: £70,000 gyda £10,000 arall yn 2021/22
- Cynllun 2: £20,000 gydag £20,000 arall yn 2021/22
- Cynllun 3: £150,000 i’w gwblhau yn 2021/22
Gwneir penderfyniadau ynghylch cyllid drwy flaenoriaethu prosiectau yn ôl y manteision maent yn eu darparu, gyda chynifer o gynlluniau’n derbyn cyllid ag y mae’r gyllideb yn caniatáu.
Gwaith nad yw’n gymwys ar gyfer cyllid
Cynlluniau sy’n gymwys ar gyfer cyllid drwy raglenni eraill Llywodraeth Cymru – e.e. gwaith yn benodol i leihau risg i’r ffyrdd neu seilwaith arall. Mae lleihau perygl i fywyd yn parhau i fod y flaenoriaeth i Raglen FCERM Llywodraeth Cymru, a dylai pob cynllun leihau’r risg i eiddo; fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd risg is i wasanaethau neu gyfleustodau eraill, er enghraifft ffyrdd, rheilffyrdd neu amaethyddiaeth, yn fantais ychwanegol.
Y broses ymgeisio
Gellir cael mynediad at gyllid ar gyfer cynlluniau Rheoli Llifogydd yn Naturiol (NFM) drwy gwblhau un o’r canlynol:
- Ffurflen cynlluniau bach ar gyfer prosiectau o dan £150,000
- Achos Cyfiawnhad Busnes neu Achos Busnes Llawn ar gyfer prosiectau mwy
(Mae newidiadau diweddar i raglen gradd Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyllid grant gwerth 100% o holl gostau datblygu cynlluniau, o Achos Amlinellol Strategol i Achos Busnes Llawn.)
Achos busnes | Meini prawf | Sut |
---|---|---|
Ffurflen Cynllun Bach | Cyfanswm y costau <£150,000 | Defnyddio ffurflen gais NFM |
Achos Cyfiawnhad Busnes (<£500,000) neu Achos Busnes Llawn |
|
Gwneud cais am gyllid i gwblhau Achos Cyfiawnhad Busnes neu Achos Busnes Llawn |
Rydym yn annog gwaith partneriaeth a gwaith rhwng Awdurdodau Rheoli Risg. Mae’n bosibl y bydd cynllun dalgylch yn cynnwys nifer o brosiectau sydd o fudd i fwy nag un Awdurdod Rheoli Risg.
Bydd cynllun peilot y Gronfa Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn para am ddwy flynedd. O’r herwydd, dylid cyflawni cynlluniau’n gyflym, gyda’r nod o’u cwblhau erbyn Mawrth 2022. Dylai awdurdodau lleol ystyried y gofyniad hwn pan fyddant yn cwblhau ceisiadau, yn enwedig ar gyfer cynigion sy’n cynnwys gwaith ar gyrsiau dŵr. Os yw cynllun yn profi oedi, ac na ellir ei gwblhau mewn pryd, mae’n bosibl y collir y cyllid – ac ni ellir gwarantu y bydd cyllid yn cael ei wneud ar gael i’r cynllun yn ystod blynyddoedd y dyfodol. Fodd bynnag, bydd dyddiad dod i ben y cynllun peilot hwn yn cael ei adolygu gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n bosibl y caiff ei estyn os ystyrir ei fod wedi bod yn llwyddiannus.
Wrth roi blaenoriaeth i geisiadau ystyrir y ffactorau canlynol:
- Tystiolaeth o lifogydd neu ddigwyddiadau a gollwyd o drwch blewyn
- Nifer y bobl a’r adeiladau a fydd yn elwa
- Amcangyfrif o’r gost fesul eiddo
- Manteision ehangach
- Cyfleoedd ar gyfer dysgu a monitro
- Gwaith partneriaeth
Rhaid i gynlluniau ddangos gwerth da am arian y cyhoedd, felly mae’n annhebygol y rhoddir blaenoriaeth i gynlluniau lle mae’r gost fesul eiddo yn uwch na chynlluniau sy’n defnyddio peirianneg draddodiadol, neu lle mae un eiddo yn unig yn elwa.
Gellir cyflawni manteision ehangach y tu hwnt i reoli perygl llifogydd drwy waith a ariennir â grant, a dylid ystyried y rhain yn rhan o’r broses ymgeisio. Er bod y manteision ecolegol ehangach sy’n gysylltiedig ag ymyriadau Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn cael eu cydnabod yn helaeth, dylai ceisiadau gynnwys crynodeb byr o fanteision penodol y cynllun o dan sylw. Gall manteision ehangach gynnwys y canlynol:
- Ansawdd Dŵr
- Ymgysylltu â grwpiau cymunedol lleol a’r trydydd sector
- Defnyddio contractwyr lleol i wneud y gwaith hwn a datblygu sgiliau
- Addysg/codi ymwybyddiaeth drwy waith partneriaeth â thrigolion ac ysgolion
- Cefnogi busnesau lleol
- Gwella bioamrywiaeth
- Gwelliannau i fwynderau sy’n gysylltiedig â’r prosiect NFM.
Rhaid i bob corff cyhoeddus gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, mae’n hanfodol bod awdurdodau lleol yn ystyried sut mae’r gwaith arfaethedig yn cyfrannu at y nodau lleisiant ac egwyddorion datblygu cynaliadwy, a dangos hyn mewn ceisiadau. Rhowch enghreifftiau penodol o sut y bydd y gwaith arfaethedig yn cyfrannu at y nodau llesiant ar y ffurflen gais, yn hytrach na dim ond rhestru’r nodau.
Amserlen
- Anfonir ffurflenni cais yn gynnar ym mis Mai 2020
- Ffurflenni cais i’w cwblhau a’u dychwelyd erbyn 27 Mai 2020 (Bydd ceisiadau yn cael eu cysidro ar ôl y dyddiad yma. Mae’r dyddiad gwreiddiol o 27 Mai i annog ceisiadau i gael
- eu cyflwyno er mwyn creu rhaglen o waith i’w ddatblygu. Os bydd gor-danysgrifio, bydd risg na fydd y ceisiadau hwyr yn cael eu cyllido),
- Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal sesiwn ddeialu i mewn i drafod ceisiadau posibl ar y 13 Mai 2020. Os ydych am ymuno â’r sesiwn, cysylltwch â risgllifogyddarfordirol@llyw.cymru a gofyn i gael eich ychwanegu at y gynhadledd fideo.
- Gwahoddiad i Awdurdodau Rheoli Risg i gyflwyno ceisiadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 ym mis Mawrth 2021.
Tystiolaeth i ategu’r cais
Bydd darparu tystiolaeth gyda’r cais yn gwella effeithlonrwydd y broses asesu.
Rhaid i dystiolaeth a gyflwynir gyda ffurflenni cais gynnwys y canlynol (lle bo hynny’n briodol):
- Mapiau’n dangos lleoliad y gwaith arfaethedig
- Mapiau’n dangos y perygl o lifogydd
- Cyfeiriadau at Strategaethau Rheoli Perygl Llifogydd Lleol lle bo hynny’n briodol
Hawlio
Bydd cyfnod hawlio bob chwarter, yn unol ag arferion safonol y Rhaglen FCERM.
Rhaid cyflwyno ffurflenni hawlio erbyn y dyddiad cau chwarterol, a chynnwys y wybodaeth yma:
Hawliadau dros dro:
- Ffurflen hawlio dros dro
- Adroddiad cynnydd
Hawliad terfynol:
- Ffurflen hawlio derfynol
- Adroddiad cynnydd
- Tystiolaeth o wariant e.e. anfonebau ac ati
- Manteisio a nodwyd
- Tystiolaeth o’r gwaith a gwblhawyd e.e. ffotograffau o’r cynllun
Bydd hawliadau a gyflwynir heb y wybodaeth hon yn cael eu dychwelyd a bydd y taliad yn cael ei oedi. Gwnewch yn siŵr bod Gorchmynion Amrywio yn cael eu cyflwyno i’w hystyried cyn gynted ag y bo modd, lle mae’n debygol y bydd costau’r cynllun yn codi/gostwng.
Brandio
Lle bo hynny’n briodol, dylai unrhyw waith a ariennir drwy grantiau Llywodraeth Cymru gael eu brandio a dangos logo Llywodraeth Cymru. Mae’r costau sy’n gysylltiedig â brandio’n gymwys ar gyfer cyllid grant. Mae byrddau dehongli ac allgymorth cymunedol ochr yn ochr â phrosiectau’n cael eu hannog yn weithredol, a byddant yn cael eu hystyried yn ystod y broses blaenoriaethu.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Dîm Brandio Llywodraeth Cymru: BrandingQueries@llyw.cymru
Canllawiau
Mae Cyngor ar Weithio gyda Phrosesau Naturiol a Mapiau Cyfleoedd Rheoli Llifogydd yn Naturiol ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mapiau ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol
Mae rhagor o ganllawiau defnyddiol ar Reoli Llifogydd yn Naturiol hefyd wedi cael eu datblygu gan Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban: