Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi croesawu llwyddiant y Gronfa Triniaethau Newydd, gwerth £80m, wrth leihau'r amser y daw meddyginiaethau sy'n newid bywyd ar gael ar y GIG yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ben-blwydd cyntaf y cynllun blaenllaw, datgelodd y Prif Weinidog mai'r amser cyfartalog i feddyginiaethau newydd a argymhellir fod ar gael oedd 10 diwrnod yn unig, ymhell cyn y terfyn amser o 60 niwrnod.

Ac yntau'n ymweld ag ysbyty Llandochau cyfarfu'r Prif Weinidog â chleifion sydd wedi elwa ar gael migalastat, meddyginiaeth newydd i drin clefyd Fabry, cyflwr difrifol a chynyddol sy'n achosi poen difrifol ac sy'n gallu effeithio'n ddifrifol ar ansawdd bywyd pobl. Mae Migalastat yn caniatáu i bobl sydd â chlefyd Fabry gael rhyddid rhag yr ymweliadau aml â'r ysbyty sy'n angenrheidiol gyda'r gwahanol ddewisiadau triniaeth, gan eu galluogi i fyw bywyd mwy normal.

Yn ôl y Prif Weinidog: 

“Mae'r Gronfa Triniaethau Newydd yn un o'n prosiectau blaenllaw ac yn un o ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru. Rydym yn buddsoddi £80m dros bum mlynedd i sicrhau y gall cleifion â chyflyrau sy'n bygwth bywyd gael mynediad llawer cynt i'r meddyginiaethau diweddaraf. Mae cyrraedd a rhagori ar ein targed o 60 niwrnod yn dipyn o gamp ac yn gwneud gwahaniaeth o bwys i fywydau pobl. 

“Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn wedi dileu ansicrwydd ynghylch cyllid ac fe fydd yn sicrhau bod GIG Cymru yn y sefyllfa orau i ddarparu'r meddyginiaethau diweddaraf a argymhellir. Mae llawer o'r rhain yn cynnig cam sylweddol ymlaen o ran trin clefydau lle mae ddewisiadau triniaeth wedi bod yn brin, tan yn awr. Mae'n glir o'r cleifion dw i wedi siarad â nhw heddiw fod y gronfa hon yn helpu i weddnewid bywydau.”

Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd; 

“Dw i wrth fy modd âr cynnydd sydd wedi bod ym mlwyddyn gyntaf y Gronfa Triniaethau Newydd.  Mae cleifion bellach yn gallu cael mynediad i 82 o feddyginiaethau, a hynny'n llawer cynt nag y byddent, pe na bai'r gronfa wedi bodoli. Mae'r rhain yn cynnwys meddyginiaethau i drin clefyd Crohn's, uveitis, ffeibrosis systig, psoriasis, asthma, osteoporosis a chlefyd Gauchers. Trefnwyd bod mwy na 20 o feddyginiaethau newydd ar gael i drin ystod eang o ganserau gan gynnwys canserau'r fron, y pen a'r gwddf, yr ysgyfaint, y colon, y chwarren thyroid a'r pancreas.

“Rwy'n edrych ymlaen at weld y gronfa'n parhau i gyflwyno'r meddyginiaethau arloesol diweddaraf i gleifion y mae arnynt eu hangen, gan wneud gwahaniaeth go iawn i'w bywydau.”