Neidio i'r prif gynnwy

Mae cronfa newydd wedi cael ei lansio yng Nghymru i helpu grwpiau cymunedau i chwalu rhai o'r mythau o ran rhoi organau mewn cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Mae Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG wedi cyhoeddi gwaith ymchwil newydd sy’n dangos bod bron i draean o bobl ddu ac Asiaidd yng Nghymru yn ansicr ynghylch rhoi organau ar ôl iddynt farw ar gyfer trawsblaniadau sy'n gallu achub bywydau.

Dywedodd cyfran debyg ohonynt - 31% -  eu bod yn gwbl bendant nad oeddent eisiau rhoi organau. Dim ond 16% o'r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg ddywedodd y byddent yn bendant yn rhoi pob un neu rai o'u horganau, a dywedodd y gweddill y byddent yn gwneud hynny.

Y prif beth sy'n eu rhwystro yw'r gred bod rhoi organau yn erbyn eu diwylliant neu yn erbyn eu crefydd. Fodd bynnag, mae pob un o brif grefyddau'r DU yn cefnogi rhoi organau a thrawsblannu.

Roedd llai nag un o bob pump (17%) o'r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg yn gwybod mai organau sydd wedi'u cyd-weddu yn ôl ethnigrwydd sydd â'r siawns orau o lwyddo. Dim ond un o bob 10 (11%) a wyddai fod pobl o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o fod angen trawsblaniad organau na phobl groenwyn.

Mae grwpiau cymunedol a grwpiau ffydd ledled Cymru a Lloegr bellach yn cael eu gwahodd i wneud cais am gyllid drwy gynllun buddsoddi cymunedol newydd, i helpu i chwalu'r mythau a'r rhwystrau a chynyddu'r gefnogaeth i roi organau ymhlith cymunedau du, Asiaidd a  lleiafrifoedd ethnig. 

Caiff y cynllun ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a bydd Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG yn ei arwain.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

"Rydym wedi gweld gwelliant aruthrol yn y niferoedd sy'n rhoi caniatâd i roi organau yng Nghymru, ond mae pobl yn marw o hyd wrth aros am drawsblaniad, felly mae angen gymaint o bobl â phosibl arnom o bob cefndir ethnig i gytuno i roi organau. 

"Mae'r gwaith ymchwil diweddaraf yn tynnu sylw at nifer o gamsyniadau sydd gan bobl o ran rhoi organau. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod gan bobl yr holl wybodaeth angenrheidiol wrth iddynt wneud eu penderfyniad, a dyna'r rheswm dros gynnig cyllid i helpu grwpiau cymunedol sôn wrth bobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig am roi organau a'r effaith bositif y gall y penderfyniad i roi organau ei chael."

Dywedodd Anthony Clarkson, Cyfarwyddwr Dros Dro Rhoi Organau a Thrawsblannu Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG: 

"Mae ein gwaith ymchwil wedi dangos pa mor bwysig yw hi i fynd i'r afael â'r mythau a'r rhwystrau ac annog pobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i siarad am roi organau.

Mae gan y grwpiau cymunedol a'r grwpiau ffydd le pwysig yn eu cymunedau, felly mae ganddynt rôl hanfodol i'w chwarae o ran helpu pobl i gefnogi rhoi  organau a’i ddeall.

"Bydd y cynllun buddsoddi cymunedol hwn yn galluogi'r grwpiau hyn i hyrwyddo neges bositif am roi organau ac annog mwy o bobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i benderfynu bod yn rhoddwr organau i achub bywydau a’u hannog i ddweud hynny wrth eu teuluoedd."

Bydd £20,000 ar gael ar gyfer prosiectau yng Nghymru yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun.  Bydd sefydliadau sy'n gweithredu ar lefel leol yng Nghymru a Lloegr yn gallu cyflwyno ceisiadau ar wahân neu ar y cyd er mwyn cynnwys y ddwy ardal.

Bydd cyllid ar gael ar ddwy lefel. Gall ymgeiswyr wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau hyd at £2,499 neu ar gyfer prosiectau sydd werth mwy na £2,500. Caiff yr holl geisiadau eu hadolygu gan banel o feirniaid annibynnol a bydd y panel hefyd yn gweithredu fel grŵp llywio ac yn cadw golwg ar y prosiectau.

Dylai'r ceisiadau ddod i law cyn 5pm, ddydd Llun 24 Medi. Bydd angen cwblhau'r prosiectau cyn diwedd Mehefin 2019.

Mae'r cynllun buddsoddi cymunedol yn rhan o ymgyrch y Llywodraeth o dan arweiniad Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG gyda chefnogaeth gan Gynghrair Trawsblannu BAME Cenedlaethol (NBTA) er mwyn mynd i'r afael â'r angen brys am roddwyr organau o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.