Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa o £150,000 i helpu cwmnïau iechyd i ddatblygu ffyrdd newydd o ddefnyddio technoleg ddigidol yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y gronfa fydd treialu’n gyflym brosiectau yn y sectorau iechyd a gofal i hwyluso diagnosis o bell, casglu data a monitro argaeledd cyfarpar amddiffyn personol (PPE).

Rydym yn gobeithio y bydd prosiectau sy’n gwneud cais i Gronfa Atebion Digidol COVID-19 yn newid y ffordd y mae pobl yn cael eu diagnosio, eu trin a’u rheoli.

Bydd y gronfa yn cefnogi treialu a gwerthuso’n gyflym blatfformau digidol newydd, apiau a thechnolegau i benderfynu ar eu defnydd hirdymor a’u posibiliadau o fewn y gwasanaeth iechyd. 

Meddai’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:

“Mae’r pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at yr angen brys am dechnolegau digidol newydd i helpu inni gynnwys ac ymateb i’r feirws.

“Gallai’r galw i weithredu wneud gwahaniaeth enfawr nid yn unig i’n hymateb ar unwaith i’r pandemig, ond i’n gwasanaethau iechyd o ddydd i ddydd.

“Mae’n bwysig ein bod yn croesawu technolegau digidol a defnyddio rhai o’i bosibiliadau i wella gofal arferol.

“Rydym eisoes wedi derbyn dros 180 o gynigion am syniadau, cynnyrch a gwasanaethau newydd gan ddiwydiant, yn cynnig amser staff, aps a gwasanaethau newydd yn ystod y pandemig COVID-19.  

Bydd yr alwad hon i weithredu yn helpu inni werthuso yr opsiynau gorau a’u gwerth hirdymor.” 

Bydd y gronfa gystadleuol hon yn neilltuo hyd at £30k i’r pump i wyth o brosiectau gorau sy’n bodloni’r amodau.

Bydd y prosiectau yn cael eu dewis gan banel, gan gynnwys cynrychiolwyr y GIG, Llywodraeth Cymru a diwydiant. 

Y bwriad yw cynnal y treialon yn gyflym trwy fisoedd Gorffennaf ac Awst gyda’r bwriad i’r dechnoleg newydd gael ei gyflwyno ar ddechrau mis Medi.

Mae’r themâu canlynol wedi’u dewis fel y rhai allai gynnig yr her fwyaf a chael yr effaith fwyaf:

  • Cynnig diagnosis o bell a brysbennu cleifion (triage)
  • Gwella’r modd y caiff data eu casglu a’u prosesu
  • Tracio, rheoli ac adrodd ar y defnydd o PPE a monitro a oes digon ar gael
  • Cefnogi a thrin pobl o bell

Dywedodd Helen Northmore, o’r Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru, a fydd yn trefnu’r ymatebion i’r galwad i weithredu:

“Gall technoleg ein helpu i weddnewid y ffordd y mae y GIG yng Nghymru yn darparu gwasanaethau gofal iechyd.

“Mae’r gronfa her hon yn gyfle perffaith i brofi a datblygu technolegau syn cael yr effaith fwyaf a chynnig yr atebion â’r gwerth gorau dros gyfnod y coronafeirws a thu hwnt. 

“Rydym yn falch iawn o gael cefnogi’r gystadleuaeth hon – bydd yr arian hwn yn ein galluogi i werthuso prosiectau digidol arloesol posibl yn gyflym i’w rhoi ar waith yn y maes iechyd a gofal yng Nghymru.”

Gellir cyflwyno ceisiadau ar www.sdi.click/coviddigidol.  Y dyddiad cau yw 8 Mehefin.