Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates Gweinidog yr Economi wedi datgelu bod Cronfa Cadernid Economaidd unigryw Llywodraeth Cymru eisoes wedi cefnogi dros 1800 o fusnesau Gogledd Cymru gyda £34 miliwn o gyllid, gan helpu iddynt warchod dros 14,000 o swyddi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ledled Cymru, mae’r gronfa wedi gweld gwerth £150 miliwn o grantiau hollbwysig yn cael eu darparu i fusnesau, gan helpu iddynt ddelio gydag effaith y coronafeirws.    

Mae dros 1,800 o fusnesau yng Nghogledd Cymru wedi derbyn cymorth drwy’r cynllun unigryrw. 

Meddai Ken Skates:

“Mae’r cyfnod yma yn hynod heriol ac mae’r Gronfa Cadernid Economaidd wedi’i chynllunio i roi cymorth pwysig i fusnesau. 

“Roeddem am gael yr arian allan i fusnesau cyn gynted â phosibl, a hyd yn hyn yng Ngogledd Cymru mae degau o filoedd o bunnoedd wedi mynd allan, gan helpu i ddiogelu dros 14,000 o swyddi.  Cafodd y Gronfa Cadernid Economaidd ei sefydlu i lenwi’r bylchau oedd yng nghymorth Llywodraeth y DU, ac rwy’n falch bod y gronfa yn cefnogi busnesau fyddai wedi eu gadael ar ȏl fel arall.  

“Yng Ngogledd Cymru, rydym yn cydweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid gan gynnwys awdurdodau lleol, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy wrth inni wynebu’r cyfnod heriol hwn gyda’n gilydd.” 

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn rhan o becyn cymorth gwerth £1.7 biliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau sydd y cynnig mwyaf haelionus a chynhwysfawr o gymorth mewn unrhyw ran o’r DU. 

Mae hyn hefyd yn cynnwys dros 65,000 o ddyfarniad gwerth £750 miliwn o ryddhad ardrethi busnes i helpu iddynt ymateb i’r heriau ariannol oherwydd y pandemig.   

Roedd ail gam y Gronfa Cadernid Economaidd, ddaeth i ben ddydd Gwener 10 Gorffennaf, yn ymestyn y cymorth i gwmnïau cyfyngedig a busnesau sydd heb gofrestru ar gyfer TAW a ddechreuodd wedi Mawrth 2019. 

Mae’r gronfa ar wahân gwerth £5 miliwn a sefydlwyd yn benodol i gefnogi cwmnïau newydd sydd heb dderbyn cymorth gan y cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig yn parhau ar agor ar gyfer ceisiadau.  Bydd y cynllun grant yn cefnogi hyd at 2,000 o gwmnïau newydd yng Nghymru gyda grant o £2,500 yr un