Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ddechrau 2020, rhoddodd y Comisiwn Ewropeaidd wybod i Awdurdodau Rheoli y gellid defnyddio arian Cronfeydd Strwythurol i ymateb i Bandemig COVID-19. Adolygodd Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) yr opsiynau a nodwyd gan y CE a chynnig Echel Blaenoriaeth newydd - 'Cyfyngu Covid drwy Gapasiti’ - y cynigiwyd i’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru ar gyfer y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (PMC) [troednodyn 1] ac a gafodd ei chymeradwyo ganddo. Prif swyddogaeth Pwyllgor Monitro’r Rhaglen yw monitro gweithrediad Rhaglenni ESI 2014-2020 sy’n gweithredu yng Nghymru yn unol â gofynion rheoleiddiol yr Undeb Ewropeaidd (UE) [troednodyn 2].

Prif flaenoriaeth y gweithrediad oedd prynu cyfarpar diogelu personol gydag elfen eilaidd, ar yr amod bod cyllid ar gael i recriwtio staff dros dro.

Ym mis Gorffennaf 2023, penodwyd Opinion Research Services (ORS) gan WEFO i gynnal gwerthusiad o’i weithrediadau ‘Cefnogi’r GIG a Gofal Cymdeithasol drwy Covid’. Y nod oedd llunio gwerthusiad sy’n fethodolegol gadarn ac annibynnol, gan asesu’r ddarpariaeth a’r canlyniadau a gyflawnwyd gan y gweithrediad.

Mae’r adroddiad cryno hwn yn rhoi trosolwg o’r gwerthusiad a’i ganfyddiadau.       

Methodoleg

Cynhaliwyd y gwaith maes gwerthuso rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2023 ac roedd yn cynnwys cyfweliadau cwmpasu, adolygiad data a dogfennau, a chyfweliadau manwl rhithiol gyda rhanddeiliaid a gynhaliwyd drwy Microsoft Teams. Defnyddiwyd dull sy’n seiliedig ar theori wrth ddylunio’r gwerthusiad, er mwyn adolygu’r model theori newid a luniwyd gan WEFO.

Yn gyffredinol, cwblhawyd tri chyfweliad cwmpasu, a chymerodd saith rhanddeiliad arall ran yn y cyfweliadau manwl. Mae’n bwysig nodi bod y rhain wedi cael eu recriwtio o restr gychwynnol fach o 20 o randdeiliaid. Roedd y gwaith yn ôl-weithredol ei natur, sy’n golygu mai ychydig iawn o randdeiliaid oedd â gwybodaeth ymarferol amdano.

Roedd elfennau sensitif hefyd ynghylch ymchwiliad COVID-19 parhaus y DU, sydd fel petai wedi arwain at amharodrwydd i gymryd rhan ymysg rhanddeiliaid. Gofynnodd rhai rhanddeiliaid a wahoddwyd i gymryd rhan am gyngor cyfreithiol ynghylch a ddylent gymryd rhan oherwydd pryderon yn ymwneud ag Ymchwiliad Covid, a’i broffil cyhoeddus uchel pan oedd y gwerthusiad yn cael ei gynnal.

Canfyddiadau’r gwerthusiad

Rhesymeg a dyluniad y gweithrediad

Oherwydd natur ôl-weithredol y dyfarniad cyllid, roedd y rhanddeiliaid a gymerodd ran yn y cyfweliadau manwl yn ystyried bod rhesymeg gyffredinol y gweithrediad yn syml: “rhoi arian i’r GIG i dalu am gyfarpar diogelu personol a mwy o staff yn ystod y pandemig” (rhanddeiliad WEFO). Felly, roedd y targedau’n rhai rhifiadol ar y cyfan, yn canolbwyntio ar nifer yr unigolion a recriwtiwyd a nifer y cyfarpar diogelu personol a brynwyd.

Er bod rhanddeiliaid bellach yn ymwybodol bod cyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop wedi cael ei ddyfarnu’n ôl-weithredol i helpu i dalu am gost ychwanegol Cyfarpar Diogelu Personol a staff yn ystod y pandemig, roedd gwybodaeth ymysg staff byrddau iechyd a darparwyr addysg uwch am argaeledd cyllid yn gyfyngedig yn nyddiau cynnar y pandemig. Fodd bynnag, roedd rhywfaint o ddealltwriaeth y byddai cymorth yn debygol o fod ar gael, gan Lywodraeth Cymru mae’n debyg.

Roedd natur ôl-weithredol y cam gweithredu yn golygu y gellid osgoi beichiau casglu data ychwanegol ar adeg fwyaf heriol y pandemig.

Roedd cyfranogwyr rhanddeiliaid mewnol yn teimlo bod y dull o gynllunio’r gweithrediad yn un pragmatig, a oedd yn cefnogi dull gweithredu’r llywodraeth gyfan mewn ffordd gadarnhaol. Hwyluswyd hyn gan y ffaith bod y CE wedi cyhoeddi canllawiau ac eglurder yn gyflym wrth esbonio beth oedd o fewn paramedrau’r cyllid, yn enwedig ac ystyried nad oedd cyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi’r sector iechyd yng Nghymru o’r blaen.

Allbynnau

Roedd y gwaith yn llwyddiannus o ran cyflawni ei brif allbynnau: prynwyd mwy o gyfarpar diogelu personol a chynyddwyd capasiti staff yn y sector iechyd. Roedd y targedau rhifol hefyd yn adlewyrchu’n bennaf lefel y prynu neu’r recriwtio a ariannwyd yn y pen draw, a dywedodd rhanddeiliaid strategol nad yw bob amser yn cael ei weld yng nghyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop, lle mae tanwariant yn gyffredin.

Allbwn: caffael PPE

Ar ddechrau’r pandemig, cydnabuwyd yn gyflym bod y cyflenwadau PPE a’r lefelau stoc oedd yn cael eu cadw yng Nghymru yn annigonol ar gyfer yr ymateb oedd ei angen yn erbyn COVID-19.

Darparodd Llywodraeth Cymru gyllid i'r NWSSP i brynu PPE. Bu Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda chenhedloedd eraill y DU, gan gynnwys darparu cymorth ar y cyd ar gyfer PPE. Roedd y gwaith brys a wnaethpwyd mewn ymateb i’r pandemig yn caniatáu cyflenwadau cadarn a diogel o gyfarpar diogelu personol ledled Cymru ac mae data’n dangos nad oedd stociau wedi dod i ben.

O ran y broses gaffael yng Nghymru, er iddi gael ei chyflymu, glynwyd at fesurau llywodraethu da ac mae canfyddiadau Archwilio Cymru yn dystiolaeth o hyn yn ei adroddiad [troednodyn 3] ar y broses gaffael ar gyfer y cyfarpar diogelu personol yng Nghymru, sy’n cymeradwyo’r dull a ddefnyddiwyd.

Yn ôl adroddiad Archwilio Cymru, cafodd 630 miliwn o eitemau o gyfarpar diogelu personol eu cyhoeddi gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru rhwng 9 Mawrth 2020 a 7 Chwefror 2021, ac roedd Llywodraeth Cymru yn disgwyl gwario dros £300 miliwn ar gyfarpar diogelu personol i Gymru yn ystod 2020-21. Mae hyn yn cymharu â gwariant arferol o tua £8 miliwn ar PPE cyn y pandemig yng Nghymru [troednodyn 4]

Mae ffigurau o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn dangos bod cyllideb Cronfa Gymdeithasol Ewrop wedi prynu 352,486,650 o eitemau o gyfarpar diogelu personol, sy’n cynrychioli dros hanner y cyfanswm a brynwyd ledled Cymru, ac wedi cyfrif am wariant o £110,242,777 miliwn, neu dros draean o gyfanswm y gwariant.

Allbwn: recriwtio staff

Pennwyd targedau lefel blaenoriaeth ar sail amcangyfrifon cost rhagamcanol ar gyfer cyfarpar diogelu personol a recriwtio staff, a disgwylir y bydd 60% o ddyraniad ariannol yr Amcan Penodol yn cael ei ddyrannu i recriwtio staff. Pennwyd targedau lefel blaenoriaeth ar gyfer recriwtio staff dros dro ychwanegol ar 2,400 yn rhanbarth Cymoedd y Gorllewin ac 1,800 yn Nwyrain Cymru.

Roedd y newidiadau a gyflwynwyd gan reoleiddwyr proffesiynol gofal iechyd y DU ar gofrestru gweithwyr iechyd proffesiynol mewn argyfwng yn cynnwys newidiadau i safonau addysg er mwyn gallu lleoli myfyrwyr gofal iechyd a staff sydd wedi ymddeol.

Byddai hyn yn galluogi myfyrwyr nyrsio a bydwragedd yn eu blwyddyn olaf i gwblhau chwe mis olaf eu rhaglen mewn lleoliadau priodol a gofynnwyd i gyn-staff a oedd wedi gadael neu wedi ymddeol yn ystod y tair blynedd flaenorol ailgofrestru gyda'u cyrff proffesiynol.

Cafodd cyfanswm o £64,753,095 ei wario drwy gyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop ar staffio’r GIG. Roedd y swm hwn yn talu cyflogau gros y staff a oedd yn cael eu cyflogi ond nid oedd yn talu am set ehangach o gostau fel hysbysebu’r swyddi, y broses gyflogi, ac unrhyw gostau gweinyddol eraill.

Soniodd rhanddeiliaid am sawl her wrth recriwtio staff, gan gynnwys rheoli ac ymateb i’r diddordeb sylweddol gan aelodau o’r cyhoedd, a rheoli’r ffrydiau recriwtio gwahanol oedd ar waith. Yn y pen draw, ystyriwyd nad oedd modd osgoi’r broses recriwtio gymhleth, ond cafodd ei rheoli cystal â phosibl o dan yr amgylchiadau, yn ôl rhanddeiliad bwrdd iechyd.

Themâu trawsbynciol

Mae gweithrediadau a ariennir gan Ewrop yn cynnwys cyfres o ddangosyddion a elwir yn Themâu Trawsbynciol, y bwriedir iddynt hyrwyddo gweithgarwch o ran y canlynol: Cyfle Cyfartal; Prif-ffrydio Rhywedd a’r Gymraeg; Datblygu Cynaliadwy; a Threchu Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol. Gan fod hwn yn ymateb brys i’r pandemig, a bod arian yn cael ei ddyfarnu’n ôl-weithredol, penderfynwyd peidio â chynnwys dangosyddion ‘ffurfiol’ ar gyfer Themâu Trawsbynciol yn y cynllun busnes.

Fodd bynnag, wrth ystyried Themâu Trawsbynciol, teimlwyd bod ymateb ehangach wedi bod yng Nghymru i effaith y pandemig ar gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a phobl sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, gyda thasglu Llywodraeth Cymru wedi’i sefydlu, gan arwain at adroddiad ar effaith Covid ar leiafrifoedd ethnig [troednodyn 5] ac adnodd asesu staff yn cael ei ddatblygu. Yn ddiweddarach, sefydlwyd yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod y datblygiadau hyn ar waith cyn i’r arian gael ei dalu’n ôl-weithredol.

Er bod cynhyrchion cyfarpar diogelu personol yn cael eu defnyddio unwaith, ac felly nid oedd gweithgarwch caffael yn gallu cyfrannu at dargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwastraff ac ailgylchu yn ei ‘Bolisi Tuag at Ddyfodol Diwastraff’, mae PCGC wedi mynd i’r farchnad yn ddiweddarach i sefydlu Contract Fframwaith ar gyfer unrhyw ofynion a allai ddod i’r amlwg yn y dyfodol, a ddylai sicrhau bod materion fel Caethwasiaeth Fodern ac ôl troed carbon ynghyd â chyfleoedd i gyflenwyr lleol yn cael sylw. Drwy wneud hynny, maent wedi helpu i wneud y gadwyn gyflenwi yn fwy diogel a dibynadwy.

Canlyniadau tymor byr a thymor hir

Byddai gwerthuso canlyniadau ac effaith economaidd-gymdeithasol hirdymor y gwaith hwn yn llawn yn gymhleth iawn ac y tu hwnt i gwmpas y gwerthusiad hwn. Yn y pen draw, roedd y prosiect hwn yn cefnogi’r GIG a Gofal Cymdeithasol drwy ddarparu capasiti ychwanegol ar gyfer cyfarpar diogelu personol a staff, a oedd yn helpu i atal y feirws rhag lledaenu, sicrhau bod gwasanaethau diogel a digonol yn cael eu darparu, ac achub bywydau. Wrth wneud hynny, roedd yn helpu i leihau effeithiau iechyd, economaidd a chymdeithasol negyddol hirdymor y pandemig 

Roedd yr holl randdeiliaid gweithredol yn cytuno, er bod arian yn cael ei wario ar staff a chyfarpar diogelu personol heb gymaint o’r ystyriaeth arferol o fforddiadwyedd ar ddechrau’r pandemig, mae cael cyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn ôl-weithredol yn ogystal â ffynonellau cyllid eraill wedi helpu i dalu’r costau annisgwyl hyn. Roeddent yn teimlo y byddai’n rhaid iddynt wneud penderfyniadau anodd ynghylch sut byddai’n rhaid cyfaddawdu nawr i dalu am gostau’r pandemig.

Nid oedd defnyddio cronfeydd Cronfa Gymdeithasol Ewrop at ddibenion iechyd yn rhywbeth a ragwelwyd cyn y pandemig ac mae’r berthynas ‘newydd’ a ffurfiwyd rhwng Llywodraeth Cymru/WEFO a byrddau iechyd yn rhywbeth y gobeithir y bydd yn agor drysau yn y dyfodol.

Gwersi a ddysgwyd, arferion da a chynaliadwyedd hirdymor

Ar gyfer tîm WEFO, roedd y gwersi allweddol a ddysgwyd yn cynnwys cadarnhad y gall fod hyblygrwydd mewn rhaglenni cyllido tymor hwy; ac mae’r broses a arweiniodd at y gweithrediad hwn yn cael ei gweld fel enghraifft gadarnhaol o gydweithio ar draws sefydliadau.

I lawer o randdeiliaid, mae gwersi allweddol wedi cael eu dysgu ynghylch pwysigrwydd cydweithio a chyd-gynhyrchu effeithiol yn ogystal â defnyddio a phwyso a mesur cysylltiadau sydd wedi hen ennill eu plwyf.

Er y credwyd bod natur ôl-weithredol y rhaglen wedi gweithio’n dda i’r rhan fwyaf o’r rhanddeiliaid a gyfwelwyd, awgrymodd un o randdeiliaid Llywodraeth Cymru, petai sefyllfa pandemig arall, y byddai’n well cael cyllid i’w ddosbarthu o’r cychwyn cyntaf, gyda phroses lywodraethu gref wedi’i llunio o’i amgylch. Teimlwyd y byddai hyn yn dangos bod gwersi wedi cael eu dysgu o bandemig COVID-19.

O ganlyniad i’r gwaith a wnaethpwyd sy’n gysylltiedig â’r gweithrediadau hyn, mae arferion gorau wedi cael eu nodi a’u rhoi ar waith. Mae Adnodd Asesu Risg Gweithlu Cymru wedi cael ei ddatblygu a’i gyflwyno ar draws pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru. Roedd arferion da eraill a nodwyd yn ymwneud â chyflymder caffael cyfarpar diogelu personol.

Daw gwaddol parhaus y gweithrediadau o’r gwersi a ddysgwyd ac a ymgorfforir yng ngwasanaeth ehangach y GIG. Mae hyn yn cysylltu ag Adnodd Asesu Risg Gweithlu Cymru a’r canllawiau a luniwyd i helpu staff i ffitio cyfarpar diogelu personol. Fodd bynnag, dylid nodi nad yw’r rhain yn ganlyniadau uniongyrchol i’r gweithrediad penodol hwn, yn hytrach mae'n fwy o ganlyniadau’r ymateb cyffredinol yr oedd y gweithrediad hwn yn rhan ohono.

Casgliadau a gwersi allweddol

Er ei bod yn anodd gwerthuso canlyniadau’r gweithrediad yn llawn o ran achub bywydau ac effeithiau iechyd, economaidd a chymdeithasol hirdymor, mae canfyddiadau’r gwerthusiad yn dangos bod hwn yn weithrediad a gynlluniwyd ac a gafodd ei roi ar waith yn ofalus, gyda rhesymeg wedi’i hystyried yn ofalus.

Mae tystiolaeth hefyd o gysylltiadau gweithio cadarnhaol rhwng WEFO, Llywodraeth Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, a phartneriaid strategol eraill yn cael eu defnyddio i roi hwb i’r gweithrediad a sicrhau bod targedau rhaglenni’n cael eu cyrraedd.

Yr agwedd fwyaf unigryw ar y gweithrediad oedd natur frys yr ymateb, a oedd yn golygu bod angen gwneud penderfyniadau gweithredol yn gyflym. Ategwyd hyn gan weithgarwch ôl-weithredol, ffactor pwysig arall wrth ystyried llwyddiant y gweithrediad.

Er bod targedau a chanlyniadau gwrthrychol penodol yn fwriadol gul, roedd rhanddeiliaid yn teimlo eu bod wedi cael eu bodloni: roedd digon o gyfarpar diogelu personol ar gael ar gyfer y sector iechyd; ac roedd capasiti staff wedi cael ei gynyddu’n ddigonol, gyda’r data’n cefnogi hyn.

Mae rhanddeiliaid wedi arsylwi ar nifer o wersi allweddol, sy’n ymwneud ag ymateb Cymru i’r pandemig yn ehangach. Trosolwg:

  • Mae gwerthfawrogiad o’r newydd o sut y gellir defnyddio hyblygrwydd mewn rhaglenni cyllido tymor hir i ymateb i argyfwng.
  • Mae gweithio’n effeithiol ar draws sefydliadau wedi bod yn sbardun allweddol ar gyfer bwrw ymlaen â’r math hwn o weithredu fel rhan o ymateb brys.
  • Mae datblygu perthnasoedd hefyd yn allweddol i fynd i’r afael ag argyfyngau’n llwyddiannus ar lefel weithredol.
  • Mae meysydd i’w harchwilio a’u datblygu o ran gweithgynhyrchu cyfarpar diogelu personol yng Nghymru.
  • Mae’r ymateb i COVID-19 wedi tynnu sylw at yr angen i gefnogi rhagor o staff o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a nodweddion gwarchodedig eraill yn y gweithlu gofal iechyd [troednodyn 6].
  • Mae pandemig COVID-19 hefyd wedi tynnu sylw at sut gall pandemigau gael effeithiau gwahaniaethol ar wahanol grwpiau demograffig yn y boblogaeth. Felly, mae angen i ymatebion iechyd yn y dyfodol ystyried y risg o effaith wahaniaethol wrth ddylunio’r ymateb hwnnw.
  • Mae angen gwelliannau o ran argaeledd ac ansawdd data yn y GIG ac mewn gofal cymdeithasol o ran nodweddion gwarchodedig gan gynnwys ethnigrwydd, anabledd ac iechyd hirdymor. Byddai hyn yn arwain at nodi’n well ffactorau economaidd-gymdeithasol sy’n effeithio ar anghydraddoldeb iechyd ac yn helpu i fynd i’r afael â nhw’n fwy effeithiol [troednodyn 7].
  • Pan fydd cyfyngiadau ariannol yn cael eu llacio, gall newid ddigwydd yn gyflym, ac mae’n debygol y bydd y newidiadau a wneir yn arwain at effeithlonrwydd ariannol yn ddiweddarach.
  • Mae’n bwysig manteisio ar ddatblygiadau technolegol i wella systemau iechyd a modelau gofal, gan gynnwys symud tuag at arferion recriwtio ar-lein.

Troednodiadau

[1] Sefydlwyd Pwyllgor Monitro Rhaglen Cymru gan Lywodraeth Cymru ar ddechrau Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd 2014-2020. Ar y dechrau, roedd Pwyllgor Monitro’r Rhaglen yn cynnwys 27 o Aelodau o’r sectorau cyhoeddus, preifat, addysg uwch a’r trydydd sector; cymdeithas sifil; a chyrff amgylcheddol a chydraddoldeb. Caiff ei gadeirio gan Aelod o’r Senedd.

[2] Rheoliad UE 1303/2013 Senedd Ewrop a'r Cyngor (‘Rheoliad Darpariaethau Cyffredin’ neu ‘CPR’), yn benodol erthyglau 47,48, 49 a 110; rheoliad EU 1304/2013 Senedd Ewrop a'r Cyngor (‘Rheoliad ESF’), yn enwedig erthygl 13(3) a 19; rheoliad UE 1305/2013 Senedd Ewrop a'r Cyngor (‘Rheoliad EAFRD’), yn benodol erthygl 74. Yr hyn sy’n arbennig o bwysig i’r gwerthusiad hwn yw’r gofyniad rheoleiddiol i Bwyllgor Monitro’r Rhaglen archwilio’r gwerthusiad cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd.    

[3] Caffael a Chyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol ar gyfer Pandemig COVID-19 (Archwilio Cymru)

[4] Ni roddir dyddiad penodol fel cymharydd.

[5] Grŵp Cynghori BAME COVID-19 Effaith Bosibl Papur Tystiolaeth COVID-19

[6] Mae’r mater hwn yn cael ei ystyried a’i ddatrys drwy gyflwyno safon cydraddoldeb hiliol y gweithlu – Safon Cydraddoldeb Hiliol y Gweithlu (GIG Cymru)

[7] Mae’r mater hwn yn cael ei ystyried a’i ddatrys drwy gyflwyno safon cydraddoldeb hiliol y gweithlu – Safon Cydraddoldeb Hiliol y Gweithlu (GIG Cymru)

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Lock, K., Moore, N., Davies, A. (Opinion Research Services)

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Emily Rowlands
Ebost: gwerthuso.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 40/2024
ISBN digidol 978-1-83625-188-0

GSR logo