Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022, yn adeiladu ar fentrau hil a chydraddoldeb blaenorol gan Lywodraeth Cymru, ac yn ailbwysleisio ymrwymiad hirsefydledig Llywodraeth Cymri i sicrhau cydraddoldeb i bawb.

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd cynrychioli ac adlewyrchu hanes a diwylliant pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol er mwyn sicrhau y caiff eu cyfraniad at Gymru ei gydnabod, gan sicrhau hefyd fynediad cyfartal a chyfleoedd cyfartal i gymryd rhan. Bydd hyn yn cyflawni canlyniadau gwell i bawb, ac yn adlewyrchu ac yn hyrwyddo Cymru amlddiwylliannol, fywiog ac amrywiol yn well, sy'n hanfodol i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gwbl wrth-hiliol.

Er mwyn gwireddu'r weledigaeth ar gyfer Cymru gwbl wrth-hiliol, mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn pennu nodau a chamau gweithredu clir. Mae'r adran Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon i'w gweld ar dudalennau 55 i 63 ac mae'n canolbwyntio ar themâu Arweinyddiaeth, Cyllid, Dathlu Amrywiaeth Ddiwylliannol, y Naratif Hanesyddol a Dysgu am ein Hamrywiaeth Ddiwylliannol.

Bydd Cronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Wrth-hiliol yn darparu cyllid grant cyfalaf i helpu sefydliadau i gyflawni'r nodau a'r camau gweithredu mewn perthynas â Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a bennir yn y Cynllun Gweithredu ac ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu.

Dylai ymgeiswyr ddarllen y canllawiau canlynol yn ofalus a datblygu eu cynigion yn unol â'r meini prawf asesu. 

2. Y broses gwneud cais

Bydd y cynllun grant yn cynnwys un cynnwys proses gwneud cais un cam gystadleuol.

Gweler isod yr amserlen ar gyfer cynllun grant 2024 i 2025: 

  • Y Gronfa Ddiwylliant Cymru Wrth-hiliol ar gyfer grant cyfalaf yn agor: 3 Medi 2024
  • Ffenestr gwneud cais: 3 Medi 3024 i 30 Medi 2024
  • Asesu ceisiadau: Hydref 2024
  • Cyhoeddi penderfyniadau: erbyn yr wythnos sy'n dechrau 4 Tachwedd 2024
  • Dechrau'r Prosiect: canol Tachwedd 2024 

3. Pwy sy’n cael gwneud cais

Er mwyn gwneud cais am gyllid, dylech fodloni'r gofynion canlynol:

  • bod yn sefydliad, yng Nghymru, sy'n gweithio gyda sefydliadau perthnasol sydd wedi'u lleoli yng Nghymru neu sy'n gweithredu yma
  • ymwneud â diwylliant: sectorau'r Celfyddydau, Amgueddfeydd, Archifau, Llyfrgelloedd, Treftadaeth neu Chwaraeon, a phrofiad o ymgysylltu neu gyflawni yn y sectorau hyn
  • gallu prynu’r asedau cyfalaf erbyn 14 Mawrth 2025 a hawlio’r grant erbyn 24 Mawrth 2025

Bydd pob cais a gymeradwyir dros dro yn ddarostyngedig i wiriadau ariannol cefndirol. Ni fydd cais am gyllid grant yn llwyddiannus oni lwyddir yn y gwiriadau hyn.

Bydd pob cynnig grant yn ddarostyngedig i delerau ac amodau grant safonol Llywodraeth Cymru.

Polisi Llywodraeth Cymru yw talu drwy ôl-daliadau. Fodd bynnag, mae'n cydnabod na fydd gan rai sefydliadau gronfeydd wrth gefn mawr ac na fydd ganddynt yr adnoddau i ymgymryd â gwaith a chael taliad wedi hynny. Gellir ystyried darparu cyllid ar gyfer gwariant yr ymrwymwyd iddo drwy ragdaliad, ond dim ond os bydd tystiolaeth glir o'r angen i wneud hynny. Rhaid i'r ymgeisydd nodi hyn ar y cam gwneud cais, gan gyflwyno tystiolaeth wedi hynny os bydd y cais yn llwyddiannus. Os na fydd y cyllid wedyn yn cael ei wario yn ôl y bwriad, bydd angen iddo gael ei ad-dalu. 

4. Yr hyn y byddwn yn ei gyllido

Dylai ceisiadau ddangos sut y bydd y prosiectau a gyllidir yn cyflawni nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol mewn perthynas â Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon.

Ystyrir ceisiadau am £3,000 i £15,000 o gyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 2025 o gyflwyno’r ffurflen gais amgaeedig. Y swm lleiaf y gellir ei roi yw £3,000 a’r swm mwyaf yw £15,000. Ond byddwn yn barod i ystyried ceisiadau os yw’r dystiolaeth yn eithriadol a chryf, am hyd at £20,000.

Cyllidir costau cyfalaf yn unig.

Dyrennir yr holl gyllid drwy'r cynllun grant hwn yn ôl disgresiwn, ac mae'n debyg y bydd cystadleuaeth am y cyllid sydd ar gael. Nid yw cyflwyno cais yn gwarantu y cewch yr holl arian rydych yn gwneud cais amdano, neu ran ohono.

Gan fod y ffenest ar gyfer ei gynnal mor fyr, rydym yn eich cynghori i ystyried sut y byddech yn gallu prynu eitem cyfalaf erbyn 14 Mawrth 2025 a dangos yn glir sut y bydd yn cyflawni amcanion ac yn cynnal gweithredoedd Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Nodwch yn glir yr amcan rydych am ei gyflawni a’r weithred rydych am ei chynnal.

Rhaid gwario’r cyllid erbyn 14 Mawrth 2025.

Os ydych wedi cael grant trwy Gynllun Grant Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Wrth-hiliol a’ch bod yn ystyried gwneud cais am y grant cyfalaf, bydd gennym ddiddordeb arbennig mewn gweld sut y bydd eich cais newydd yn datblygu ac yn cryfhau’r gwaith rydych wedi’i wneud neu yn ei wneud. 

5. Mathau o brosiectau rydym am eu cefnogi

Enghreifftiau o bethau y byddwn yn eu hystyried o dan y cynllun grant hwn (nid yw’n rhestr lawn):

Adeiladu arddangosfeydd

  • Prynu asedau cyfalaf i greu arddangosfeydd newydd sy’n adrodd storïau o safbwynt profiadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (nawr ac yn y gorffennol).
  • Prynu asedau cyfalaf i ehangu neu wella arddangosfeydd sy’n bod er mwyn iddyn nhw gynnwys deunydd mwy cynhwysol a chynrychioliadol.
  • Prynu asedau cyfalaf i ddatblygu arddangosfeydd teithiol.

Prynu blychau arddangos

  • Caffael casys arddangos diogel a diddos
  • Prynu blychau arddangos pwrpasol
  • Buddsoddi mewn casys arddangos symudol i’w defnyddio mewn arddangosfeydd dros dro neu deithiol.

Digideiddio casgliadau

  • Digideiddio archifau a chasgliadau i’w gwneud yn hygyrch i gynulleidfa ehangach ar-lein. Gallai hyn gynnwys gwaith cadwraeth cyn eu digideiddio. 
  • Datblygu platfformau neu apiau digidol sy’n bod er mwyn i ddefnyddwyr weld a chwilio casgliadau wedi’u digideiddio sy’n cynrychioli storïau a hanes pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn ffyrdd fyddai’n eu denu. 
  • Estyn platfformau sy’n bod eisoes i greu arddangosfeydd ar-lein all gyrraedd cynulleidfa fyd-eang a chofnodi’r gwaith gwrth-hiliol a wneir yng Nghymru ym meysydd diwylliant, treftadaeth a chwaraeon. 

Gosodwaith celf

  • Comisiynu gosodweithiau celf cyhoeddus sy’n hyrwyddo negeseuon amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth.
  • Datblygu gosodweithiau celf rhyngweithiol ac amlgyfryngol sy’n ennyn sgwrs â gwylwyr am hil, hunaniaeth a gwrth-hiliaeth.

Diogelu’r dreftadaeth ddiwylliannol

  • Prynu arfau i gynnal gwaith adfer a chadwraeth ar safleoedd neu arteffactau hanesyddol sy’n arwyddocaol i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. 

Gofodau diwylliannol a chymunedol

  • Gwella hygyrchedd mannau diwylliannol i sicrhau eu bod yn croesawgar a chynhwysol. 

Gweithgareddau ymgysylltu a maes

  • Prynu offer i sbarduno ymgysylltiad actif a gwaith maes gyda chymunedau amrywiol (e.e. casglu hanesion llafar).

Ehangu casgliadau a’u gwneud yn fwy amrywiol

  • Prynu adnoddau llyfrgell cynhwysol i wneud y casgliadau sydd ar gael ar gyfer eu benthyg yn fwy amrywiol. 

Caiff pob cais am grant ei asesu gan yr Is-adran Diwylliant yn erbyn y meini prawf blaenoriaeth a restrir yn adran 7 o'r ddogfen hon. 

Dylai ymgeiswyr nodi'r canlynol hefyd: 

  • Gall ymgeiswyr ddefnyddio hyd at 10% o gyfanswm y grant i gefnogi costau rheoli prosiectau (megis costau staff) sy'n gysylltiedig â chyflawni'r prosiect cyfalaf y mae'n rhaid ei hawlio erbyn 24 Mawrth 2025.
  • Rydym yn croesawu ceisiadau lle mae arian cyfatebol gan sefydliad arall ar waith. Dylech gyflwyno tystiolaeth o'ch cynnig arian cyfatebol gyda'ch cais. 

6. Canlyniadau’r grant

Dyma’r prif ganlyniadau rydym am i’r cynllun grant cyfalaf hwn esgor arnyn nhw:

  • cynyddu a gwella’r gynrychiolaeth o fewn casgliadau amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd a threftadaeth
  • gwella gofodau diwylliannol, treftadaeth a chwaraeon fel eu bod yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru
  • sicrhau bod mannau diwylliannol, treftadaeth a chwaraeon yn ffisegol hygyrch ac yn darparu gwasanaethau diwylliannol sensitif sy’n diwallu anghenion pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
  • diogelu hanes presennol a gorffennol diwylliant, treftadaeth a chwaraeon pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol

7. Meini prawf asesu

Caiff ceisiadau eu sgorio gan ddefnyddio'r raddfa sgorio ganlynol. Caiff sgôr pob maen prawf asesu ei luosi â'r ffactor pwysoli cysylltiedig i roi cyfanswm sgôr. Ceir rhagor o fanylion am bob maen prawf yn adrannau 6 i 13. 

Meini prawf asesuSgôrFfactor pwysoli

1. Nodau a Chamau Gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol:

  • Tystiolaeth i ddangos sut mae'r prosiect yn cyfrannu at gyflawni'r nodau a'r camau gweithredu mewn perthynas â Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a bennir yn y Cynllun Gweithredu. 
0 i 4 x 3

2. Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu:

  • Tystiolaeth i ddangos sut mae'r prosiect yn cyd-fynd ag ymrwymiadau penodol y Rhaglen Lywodraethu o ran cydraddoldeb hiliol. 
0 i 4x 2 

3. Cyflawni'r Prosiect a Chostau:

  • Tystiolaeth o sut caiff y broses o gyflawni’r prosiect ei rheoli. 
0 i 4x 2

4. Cydgynhyrchu/Cefnogaeth gymunedol:

  • Tystiolaeth o gefnogaeth gymunedol/cydgynhyrchu ar gyfer eich prosiect.
0 i 4x 2

5. Effaith Hirdymor:

  • Tystiolaeth o effaith hirdymor a chynaliadwyedd y prosiect.
0 i 4x 2

6. Gwerthuso a Mesur Llwyddiant: Ei alinio â chanlyniadau’r grant:

  • Gwybodaeth am y dull o fesur llwyddiant gweithgarwch y prosiect ac adrodd arno. 
0 i 4x 2

8. Maen prawf 1: Nodau a Chamau Gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Caiff ymgeiswyr eu hasesu drwy ystyried sut y byddant yn cyflawni'r nodau a'r camau gweithredu mewn perthynas â Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a nodir ar dudalennau 55 i 62 yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Rydym yn rhagweld y bydd cynigion ar gyfer prosiectau yn canolbwyntio ar nodau'r Cynllun Gweithredu mewn perthynas â ‘Dathlu Amrywiaeth’, ‘Y Naratif Hanesyddol’ a ‘Dysgu am ein Hamrywiaeth Ddiwylliannol’, ond bydd ceisiadau sy'n cyflawni yn erbyn nodau a chamau gweithredu'r Cynllun Gweithredu mewn perthynas â Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon yn gymwys i gael eu hystyried hefyd.

Mae nodau'r Cynllun Gweithredu mewn perthynas â Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon wedi'u cynnwys isod:

Arweinyddiaeth

Dwyn sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus i gyfrif am roi mesurau a chamau gweithredu gwrth-hiliol ar waith, fel y’u nodir yn y cynllun gweithredu hwn.

Cyllid

Gweithio gyda’r cyrff a noddir gennym i sicrhau eu bod yn defnyddio eu pwerau gwario i roi arferion gwrth-hiliol ar waith, hwyluso mynediad a chanlyniadau cydradd, a chynyddu lefelau cyfranogiad ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i’r eithaf.

Dathlu amrywiaeth 

Helpu pob rhan o gymdeithas yng Nghymru i groesawu a dathlu ei threftadaeth ddiwylliannol amrywiol, gan ddeall a chydnabod yr hawl i ryddid mynegiant diwylliannol.

Y Naratif hanesyddol

Gweithio gyda chyrff cyhoeddus i gydnabod yn llawn eu cyfrifoldeb (yn unigol ac ar y cyd) am gyflwyno’r naratif hanesyddol priodol, gan hyrwyddo a chyflwyno disgrifiad cytbwys, dilys ac wedi’i ddatrefedigaethu o’r gorffennol – disgrifiad sy’n cydnabod anghyfiawnderau hanesyddol ac effaith gadarnhaol cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Dysgu am ein hamrywiaeth ddiwylliannol

Nodi a chyrraedd targedau i gynnig cyfleoedd addysg a dysgu gwrth-hiliol, gan gynnwys deunyddiau dehongli, marchnata ac addysgol sy'n cydnabod ac yn dathlu cymysgedd diwylliannol cyfoethog ac amrywiol ein cymdeithas, yn annog ymgysylltiad corfforol a deallusol eang ac yn hyrwyddo arferion ac egwyddorion gwrth-hiliol drwyddi draw.

Sgôr

  • 4: Rhoddir esboniad clir, cynhwysfawr a chymhellol iawn ynglŷn â sut y bydd y prosiect yn mynd i'r afael â'r nodau a'r cam(au) gweithredu a bennir yn y Cynllun Gweithredu.
  • 3: Rhoddir esboniad clir ac sy’n argyhoeddi ynglŷn â sut y bydd y prosiect yn mynd i'r afael â'r nodau a'r cam(au) gweithredu a bennir yn y Cynllun Gweithredu.
  • 2: Rhoddir esboniad eithaf clir o sut y bydd y prosiect yn mynd i'r afael â nodau a chamau gweithredu o fewn ARWAP, ond mae cynlluniau'n cynnwys mân fylchau y gellid eu datblygu'n gryfach.
  • 1: Ceir cysylltiadau amlwg ynghylch y ffordd y bydd y prosiect yn mynd i'r afael â'r nodau a'r cam(au) gweithredu a bennir yn y Cynllun Gweithredu, ond nid ydynt wedi'u harchwilio'n llawn.
  • 0: Ni roddwyd unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut y bydd y prosiect yn mynd i'r afael â'r nodau a'r cam(au) gweithredu a bennir yn y Cynllun Gweithredu.

9. Maen prawf 2: Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu:

Caiff ceisiadau am grant eu hasesu drwy ystyried sut mae'r prosiect yn cyd-fynd ag ymrwymiadau canlynol Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru: 

  • Sicrhau bod hanes a diwylliant ein cymunedau Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu cynrychioli’n briodol drwy fuddsoddi ymhellach yn ein sector diwylliannol a’n rhwydwaith amgueddfeydd. 
  • Sicrhau bod hanes pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael ei adlewyrchu’n briodol yn ein sectorau diwylliannol a threftadaeth, gan gynnwys yn ein Hamgueddfeydd Cenedlaethol. 
  • Hyrwyddo mynediad cyfartal i chwaraeon a chefnogi athletwyr ifanc a thalentog a chlybiau ar lawr gwlad. 

Sgôr

  • 4: Rhoddir esboniad clir, cynhwysfawr a chymhellol o sut y bydd y prosiect yn cefnogi cyflawni'r ymrwymiadau penodol yn y Rhaglen Lywodraethu.
  • 3: Rhoddir esboniad clir ac argyhoeddiadol o sut y bydd y prosiect yn cefnogi cyflawni ymrwymiadau penodol y Rhaglen Lywodraethu.
  • 2: Rhoddir esboniad eithaf clir o sut y bydd y prosiect yn cefnogi cyflawni ymrwymiadau penodol y Rhaglen Lywodraethu, ond mae'r cynlluniau'n cynnwys mân fylchau a gellid eu datblygu'n gryfach.
  • 1: Ceir cysylltiadau amlwg ynghylch y ffordd y bydd y prosiect yn mynd i'r afael â'r nodau a'r cam(au) gweithredu a bennir yn y Cynllun Gweithredu, ond nid ydynt wedi'u harchwilio'n llawn.
  • 0: Ni roddwyd unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut y bydd y prosiect yn cefnogi cyflawni ymrwymiadau penodol y Rhaglen Lywodraethu.

10. Maen prawf 3: Cyflawni'r Prosiect a Chostau

Bydd ymgeiswyr grant yn cael eu hasesu ar sut mae eu cais yn dangos bod cerrig milltir allweddol y prosiect wedi’u cyflawni trwy gynllun cyflawni clir. Mae’n bwysig nodi bod yn rhaid prynu’r asedau erbyn 14 Mawrth 2025. Er y bydd y gweithgarwch y bydd yr asedau hyn yn ei ganiatáu yn digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw, rhaid i’r cais ddisgrifio’n glir beth fydd canlyniadau ac effeithiau disgwyliedig y gweithgarwch hwn a’r dyddiad y disgwylir iddo fod wedi’i gynnal. Bydd hyn yn cynnwys esboniad clir o’r modd y bydd yr asedau’n cyfrannu at lwyddiant ac amcanion y prosiect.

Bydd pob cynnig yn cynnwys cyllideb a dadansoddiad o'r costau disgwyliedig. O fewn y dadansoddiad cost, dylai cynigion hefyd esbonio sut mae costau'r prosiect yn rhesymol. Bydd angen i hyn gynnwys tystiolaeth glir o sut y pennwyd y costau fel y nodir yn y ffurflen gais.

Dylai ceisiadau ddarparu amserlen dalu sy'n rhoi amserlen amcangyfrifedig ar gyfer cyflwyno hawliadau yn seiliedig ar amserlen a cherrig milltir eich prosiect. Rhaid cyflwyno pob hawliad erbyn 24 Mawrth 2025.

Dylai ceisiadau nodi risgiau allweddol a dangos sut y bydd y rhain yn cael eu lliniaru. 

Sgôr

  • 4: Rhoddir esboniad clir, cymhellol a chynhwysfawr iawn o'r modd y caiff y broses o gyflawni'r prosiect ei rheoli. Bydd hyn yn cynnwys: cerrig milltir allweddol y prosiect ac esboniadau ynghylch sut y cânt eu cyflawni, cyllideb glir gan gynnwys dadansoddiad o gostau â thystiolaeth dda, a chofrestr risg gynhwysfawr yn manylu ar fesurau lliniaru risg priodol.
  • 3: Rhoddir esboniad clir ac argyhoeddiadol o'r modd y caiff y broses o gyflawni'r prosiect ei rheoli. Bydd hyn yn cynnwys: cerrig milltir allweddol y prosiect ac esboniadau ynghylch sut y cânt eu cyflawni, cyllideb glir gan gynnwys dadansoddiad o gostau â thystiolaeth, a chofrestr risg gynhwysfawr yn manylu ar fesurau lliniaru risg priodol. 
  • 2: Rhoddir esboniad eithaf clir o sut y caiff y broses o gyflawni'r prosiect ei rheoli. Bydd hyn yn cynnwys: cerrig milltir allweddol y prosiect ac esboniadau ynghylch sut y cânt eu cyflawni, cyllideb yn cynnwys dadansoddiad o gostau â thystiolaeth, a chofrestr risg yn manylu ar fesurau lliniaru risg posibl. Ond mae'r cynlluniau'n cynnwys mân fylchau y gellid eu datblygu'n gryfach.
  • 1: Darperir manylion ynghylch sut y caiff y prosiect ei reoli ond nid ydynt yn cael eu harchwilio'n llawn. Darperir cerrig milltir, gwybodaeth gyllidebol a/neu risg ond maent yn aneglur, yn anghyflawn neu heb eu harchwilio'n llawn.
  • 0: Ni roddwyd unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut y caiff y gwaith o gyflawni'r prosiect ei reoli.

11. Maen prawf 4: Cydgynhyrchu/Cefnogaeth gymunedol

Cadarnhaodd yr adborth a gafwyd wrth ddatblygu'r Cynllun Gweithredu yn gyson y bydd cyd-ddylunio a chydweithio yn hanfodol i gyflawni'r cynllun. Bydd ceisiadau am gyllid grant yn cael eu hasesu ar sut mae’r cynnig wedi ei gyd-gynhyrchu neu sut y bydd yn cael ei gyd-gynhyrchu a/neu sut mae'r prosiect yn ennyn cefnogaeth y bobl y bwriedir iddo ymgysylltu â nhw.

Sgôr

  • 4: Rhoddir esboniad clir, cynhwysfawr, a chymhellol iawn o sut mae'r cynnig yn dangos cefnogaeth gymunedol/cydgynhyrchu i'r prosiect.
  • 3: Rhoddir esboniad clir ac argyhoeddiadol o sut mae'r cynnig yn dangos cefnogaeth gymunedol i'r prosiect.
  • 2: Rhoddir esboniad eithaf clir o sut mae'r cynnig yn dangos cefnogaeth gymunedol i'r prosiect, ond mae’n cynnwys mân fylchau ac fe ellid eu datblygu'n gryfach.
  • 1: Ceir cysylltiadau clir â'r ffordd y mae'r cynnig yn dangos cefnogaeth gymunedol i'r prosiect, ond nid ydynt wedi'u harchwilio'n llawn.
  • 0: Ni roddwyd unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut mae’r cynnig yn dangos cefnogaeth gymunedol i'r prosiect.

12. Maen prawf 5: Effaith hirdymor

Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais i gyflawni newid trawsnewidiol y gellir ei gynnal dros amser. Caiff ceisiadau am grant eu hasesu drwy ystyried sut mae'r prosiect yn helpu i sicrhau'r newid hwn. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o'r gwahaniaeth y bydd y prosiect yn ei wneud a'r effaith hirdymor y maent yn disgwyl iddo ei chael ar bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru a/neu eu cymdogaeth. Dylai ymgeiswyr ddangos sut y caiff yr effaith hon ei chynnal dros amser. 

Sgôr

  • 4: Rhoddir esboniad clir, cynhwysfawr a chymhellol iawn o sut y bydd y prosiect yn sicrhau newid cadarnhaol y gellir ei gynnal yn y tymor hir.
  • 3: Rhoddir esboniad clir ac argyhoeddiadol o sut y bydd y prosiect yn sicrhau newid cadarnhaol y gellir ei gynnal yn y tymor hir.
  • 2: Rhoddir esboniad eithaf clir o sut y bydd y prosiect yn cyflawni newid cadarnhaol y gellir ei gynnal yn y tymor hir, ond mae’r cynlluniau’n cynnwys mân fylchau a gellid eu datblygu’n gryfach.
  • 1: Ceir cysylltiadau clir â'r ffordd y bydd y prosiect yn sicrhau newid cadarnhaol y gellir ei gynnal yn yr hirdymor, ond nid ydynt wedi'u harchwilio'n llawn.
  • 0: Ni roddwyd unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut y bydd y prosiect yn sicrhau newid cadarnhaol y gellir ei gynnal yn yr hirdymor.

13. Maen prawf 6: Y dull o fesur gweithgarwch y prosiect ac adrodd arno gan gynnwys eu halinio â chanlyniadau’r grant

Caiff ymgeiswyr am y grant eu hasesu yn ôl sut y bydd eu cais yn alinio â chanlyniadau’r grant. Dylai’r cysylltiad rhwng pwrpas y prosiectau a chanlyniad bwriedig y grant fod yn amlwg ac wedi’i ddiffinio’n dda. Caiff ceisiadau am grant eu hasesu drwy ystyried y manylion a roddir ynglŷn â sut y caiff canlyniadau’r prosiect eu monitro, gan gynnwys dangosyddion CAMPUS sy'n mesur i ba raddau y caiff y prosiect ei gyflawni a'i lwyddiant, a chasglu data er mwyn mesur perfformiad yn erbyn amcanion ehangach y Cynllun Gweithredu. Bydd dangosyddion perfformiad CAMPUS yn benodol, yn fesuradwy, yn gyflawnadwy, yn berthnasol ac yn benodol o ran amser.

Rhaid i ymgeiswyr hefyd ymrwymo i gymryd rhan yng ngwaith Llywodraeth Cymru i werthuso'r rhaglen. 

Sgôr

  • 4: Rhoddir esboniad clir iawn, cynhwysfawr a chymhellol o sut y bydd y prosiect yn cael ei fesur a'i adrodd a sut y bydd yn alinio â chanlyniadau’r grant.
  • 3: Rhoddir esboniad clir ac argyhoeddiadol o sut y bydd y prosiect yn cael ei fesur a'i adrodd a sut y bydd yn alinio â chanlyniadau’r grant.
  • 2: Rhoddir esboniad eithaf clir o sut y bydd y prosiect yn cael ei fesur a'i adrodd ond mae'r cynlluniau'n cynnwys mân fylchau y gellid eu datblygu'n gryfach ac esbonio sut y bydd yn alinio â chanlyniadau’r grant.
  • 1: Mae’r cysylltiadau â sut y caiff y prosiect ei fesur a'i adrodd yn amlwg ond nid ydynt wedi'u harchwilio'n llawn ac nid ydynt yn esbonio sut y bydd yn alinio â chanlyniadau’r grant.
  • 0: Ni roddwyd unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut y bydd y prosiect yn cael ei fesur a'i adrodd na sut y bydd yn alinio â chanlyniadau’r grant.

14. Monitro a gwerthuso

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am gasglu data monitro a gwerthuso ac adrodd ar gyfranogiad a pherfformiad, a bydd disgwyl iddynt adrodd yn rheolaidd i Lywodraeth Cymru.

Rhaid i bob ymgeisydd sicrhau bod unrhyw ddata personol a brosesir mewn perthynas â’u cynigion grant yn unol â deddfwriaeth diogelu data’r DU.

Ar ddiwedd eich prosiect, bydd yn ofynnol ichi gyflwyno adroddiad byr yn cadarnhau sut y defnyddiwyd y cyllid. Darperir templed ar ôl dyfarnu grant ac mae'n debygol y bydd yn ofynnol ichi ddangos sut mae eich prosiect wedi cyflawni yn erbyn allbynnau'r Cynllun Gweithredu, pa waith gwerthuso a wnaed, a sut mae amodau'r grant wedi'u bodloni. 

15. Ble y gallaf gael help?

Cynghorir ymgeiswyr sydd ag unrhyw ymholiadau, gan gynnwys os ydynt yn ansicr ynglŷn â'u cymhwysedd i wneud cais am gyllid grant cyfalaf, gysylltu â blwch post canolog yr Is-adran Diwylliant yn diwylliant@llyw.cymru i gael cyngor ar eu darpar brosiect cyn cyflwyno cais.

16. Ffynonellau gwybodaeth eraill