Holiadur byr ar farn rhanddeiliaid o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, a ddisodlodd gyllid yr UE rhwng 2022 a 2025.
Ar ôl i gyllid yr UE ddod i ben yng Nghymru, cyflwynodd Llywodraeth y DU y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) fel ei chynllun yn ei le ar draws y DU yn 2022. Gyda'r SPF i fod i gau yn 2026, rydym yn awyddus i glywed barn sefydliadau yng Nghymru ar eu profiad o'r Gronfa.
Gyda Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddatganoli'r broses o wneud penderfyniadau dros gronfeydd rhanbarthol i Lywodraeth Cymru, bydd yr adborth o'r arolwg hwn yn helpu i lywio ein gwaith o ddatblygu rhaglen fuddsoddi ranbarthol newydd yng Nghymru ar ôl 2026 gyda llywodraeth leol a phartneriaid o Gymru.
Bydd unrhyw wybodaeth a roddwch yn cael ei thrin yn gyfrinachol a bydd yr holl ganlyniadau dadansoddol o'r ymarfer hwn yn ddienw (gweler yr Hysbysiad Preifatrwydd).
Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 5.00pm, ddydd Gwener 9 Mai.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr arolwg hwn, e-bostiwch: RegionalInvestmentinWales@llyw.cymru