Heddiw, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant wedi cyhoeddi y bydd yn darparu £1m i awdurdodau lleol ledled Cymru i helpu pobl ifanc sydd wedi cael profiad o'r system ofal.
Bydd y grant ar gael i bobl ifanc sy'n gymwys rhwng 16 a 25 oed ac naill ai yn dal i fod mewn lleoliadau gofal yn yr awdurdod lleol neu wedi gadael gofal. Nod y grant yw i’w helpu symud tuag at bod yn annibynnol.
Yn 2015/16 roedd 5662 o blant yn derbyn gofal yng Nghymru a 702 wedi gadael gofal.
Dywedodd Carl Sargeant:
"Fel arfer, mae canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn llai cadarnhaol na phobl ifanc sy'n byw gartref gyda'u rhieni neu riant. Rydym wedi ymrwymo i wella cyfleoedd bywyd i blant sy'n derbyn gofal, fel eu bod yn cael y cyfle i ffynnu a gwireddu eu potensial.
"Mae disgwyl i awdurdodau lleol, fel rhieni corfforaethol, helpu'r bobl ifanc dan eu gofal i symud tuag at bod yn annibynnol yn yr un modd â rhieni sydd â phlant yn byw gartref. Mae rhoi'r gefnogaeth a'r arweiniad priodol i berson ifanc yn gynnar yn ei daith tuag at annibyniaeth yn helpu i sicrhau ei fod yn cael y cyfleoedd gorau mewn bywyd.
"Rwy'n gobeithio y bydd y gronfa hon yn cefnogi'r rheini sy'n gadael gofal, ac yn rhywfaint o help wrth iddynt wireddu eu huchelgeisiau a chamu i fywyd llwyddiannus fel oedolion sy'n byw'n annibynnol. Byddwn yn gweithio gyda'r Comisiynydd Plant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal i drafod sut y bydd y gronfa yn gweithio. Rwy'n croesawu adroddiad Sally Holland ar blant sy'n derbyn gofal, a fydd hefyd yn ein helpu wrth wneud penderfyniadau."