Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Gorau’n byd yw sgiliau pobl, gorau’n byd fydd eu rhagolygon o sicrhau gwaith a gwneud cynnydd yn y gwaith hwnnw, a pho gryfaf yw’r sylfaen sgiliau yng Nghymru, mwya’n byd o gyfle sydd gennym i ddenu busnesau newydd a datblygu rhai presennol i wella ffyniant.

Mae ein 'Cynllun Cyflogadwyedd' yn nodi sut y byddwn yn cefnogi pobl i wella eu sgiliau ac ennill hyder er mwyn darganfod a chadw gwaith sy'n rhoi boddhad iddynt.

Nid darganfod gwaith yw diwedd y gân o ran ein hagenda gyflogadwyedd; mae cadw swydd a gwneud cynnydd ynddi yn hanfodol bwysig hefyd. Mae angen strwythur sylfaenol arnom i sicrhau bod dysgu gydol oes a datblygu sgiliau gydol gyrfa yn bosibilrwydd i bawb.

Rydym wedi ymrwymo i wneud Cymru'n genedl o waith teg, ac rydym yn cydnabod sut mae TUC Cymru ac undebau llafur yn allweddol i wireddu'r uchelgais honno. Rydym yn glir mai ymuno ag undeb llafur yw'r ffordd orau y gall unrhyw weithiwr wella ei brofiad o waith, diogelu ei hawliau, a sicrhau bod ei lais yn cael ei glywed. 

Ein huchelgais yw darparu cyfleoedd i bobl o bob cefndir ddatblygu eu sgiliau a chyflawni eu potensial yn llawn. 

Mewn byd sy'n mynd yn fwyfwy cymhleth, lle mae sero net yn gyfle yn ogystal ag yn her, a lle mae technolegau newydd yn trawsnewid y ffordd rydym yn byw ac yn gweithio, bydd cyflogadwyedd trosglwyddadwy a sgiliau sylfaenol yn hanfodol ac mae gan undebau gyfle unigryw i gyfrannu mewn ffyrdd a fydd o fantais i Gymru nawr ac yn y dyfodol.

Mae ein dull partneriaeth gymdeithasol yn seiliedig ar fanteision cyflogwyr ac undebau llafur yn gweithio fel partneriaid mewn ysbryd o gydweithredu, ymrwymiad cyffredin a pharchu ei gilydd. Mae undebau llafur yn bartneriaid gwybodus, profiadol a dyfeisgar wrth gefnogi sgiliau, hyfforddiant a datblygiad y gweithlu. Mae WULF yn rhoi cyfle pellach i amlygu partneriaeth gymdeithasol fel ffordd o weithio yng Nghymru. 

Drwy brosiectau Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, mae undebau llafur yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o atgyfnerthu cydberthnasau rhwng cyflogwyr a gweithwyr gyda gweithgarwch datblygu sgiliau a datblygu'r gweithlu dan arweiniad undebau mewn gweithleoedd ledled Cymru. Ers 25 mlynedd, mae WULF wedi bod yn esiampl o sut rydym yn gwneud pethau'n wahanol drwy ein ffordd o weithio sy’n seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol – edrychwn ymlaen at y rownd nesaf hon o brosiectau WULF ac at adeiladu ar lwyddiannau'r 25 mlynedd diwethaf. 

Image
Image

 

Jack Sargeant

Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Hydref 2024

Trosolwg atrategol

Mae Cronfa Ddysgu Undebau Cymru wedi bod yn gweithredu ers 25 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi ennill ei phlwyf fel elfen allweddol o gynnig cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru ac mae mewn sefyllfa unigryw i gefnogi pobl mewn gwaith i wella eu sgiliau a gwneud cynnydd yn eu gwaith. 

Mae amcanion y rhaglen yn cyd-fynd yn agos ag uchelgeisiau strategol Llywodraeth Cymru yn yr agendâu cyflogadwyedd, partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg. Mae'r adran ganlynol yn nodi'r amcanion strategol hyn a dylai undebau cyflawni WULF fod yn ymwybodol ohonynt wrth baratoi ar gyfer cyflawni yn ystod rhaglen 2025-28.

Partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg

Yng Nghymru, mae yna hanes hir a balch o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â chyflogwyr ac undebau llafur, mae'n rhan o'n DNA, gan gyd-fynd â'n gwerthoedd o undod a gweithredu ar y cyd. Partneriaeth gymdeithasol yw ein ffordd o weithio yng Nghymru, ac yn sgil pasio'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn 2023, rydym wedi gosod partneriaeth gymdeithasol ar sail ddeddfwriaethol. Mae'r Ddeddf yn rhoi ysgogiad clir i bob rhan o'r system gydweithio'n agos i gydgynhyrchu atebion i'r heriau cyffredin sy'n ein hwynebu. Mae'r heriau hyn yn cysylltu'n uniongyrchol â'r agenda cyflogadwyedd ac mae WULF mewn sefyllfa unigryw i ymateb i lawer ohonynt wrth i ni fynd i'r afael ag anghenion sgiliau yn economi Cymru nawr ac yn y dyfodol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn credu'n gryf y dylai pob gweithiwr gael ei drin ag urddas a pharch ac y dylid clywed llais gweithwyr ynghylch materion sy'n effeithio arnynt. Mae’r rhain yn cynnwys sgiliau a dysgu a datblygu. Wrth ddarparu dysgu a arweinir gan undebau, mae WULF yn gyfrannwr pwysig i'n dull gwaith teg. 

Gwaith Teg yw lle mae gweithwyr yn cael eu gwobrwyo, eu clywed a’u cynrychioli mewn ffordd deg, bod eu sefyllfa yn ddiogel, a’u bod yn gallu gwneud cynnydd mewn amgylchedd iach a chynhwysol, lle mae hawliau yn cael eu parchu. Mae ein 'Canllaw i Waith Teg' (Canllaw i waith teg | LLYW.CYMRU yn darparu rhagor o wybodaeth am beth yw gwaith teg, pam ei fod yn bwysig, a sut y gellir ei weithredu. 

Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: Cynllun ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau

Mae Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn 2022 yn nodi pum prif faes gweithredu:

1. Pobl ifanc yn Gwireddu eu Potensial 

Buddsoddi yn y dull system gyfan o ddarparu'r Warant i Bobl Ifanc, a'i gryfhau, i'w gwneud yn hawdd i bawb dan 25 oed gael mynediad at gynnig gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth.

2. Mynd i'r afael ag Anghydraddoldeb Economaidd 

Blaenoriaethu a chyfnerthu cymorth cyflogadwyedd cenedlaethol a arweinir gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl. Gan dargedu'r rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur, mae'r rhai sydd mewn gwaith (a'r rhai nad ydynt mewn gwaith) sydd â chyflyrau iechyd tymor hir, i ddod o hyd i waith a gwneud cynnydd mewn cyflogaeth.

3. Gwaith Teg i Bawb 

Cefnogi ac annog cyflogwyr i greu cyflogaeth o safon uchel, gwella'r cynnig i weithwyr, hyrwyddo arferion cyflogaeth teg, sicrhau gwerth cymdeithasol buddsoddiad ac annog y sector cyhoeddus i ymgorffori'r blaenoriaethau wrth gynllunio'r gweithlu.

4. Gwaith Iach, Cymru Iach 

Cefnogi pobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor i weithio drwy atal pobl rhag mynd allan o gyflogaeth drwy atal ym maes iechyd, ymyrraeth gynnar, gweithleoedd iach a manteisio'n llawn ar rôl y gwasanaeth iechyd fel cyflogwr angori.

5. Dysgu am Oes 

Sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau'n codi, bod cyfranogiad yn y system sgiliau yn cael ei ehangu ar gyfer pobl anabl a grwpiau ethnig leiafrifol, gan fynd i'r afael â chymwysterau isel a chynyddu symudedd gweithwyr.

Sgiliau Sero Net

Yn Cymru Sero Net (2021), ailddatganodd Llywodraeth Cymru yr ymrwymiad i bontio'n deg oddi wrth economi tanwydd ffosil y gorffennol i ddyfodol carbon isel newydd. Bydd pontio teg yn golygu na fyddwn yn gadael unrhyw un ar ôl.

Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Cymru Gryfach, Decach Gwyrddach, mae ein Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net yn blaenoriaethu 7 maes gweithredu allweddol. Mae'r 4 maes blaenoriaeth canlynol yn cyd-fynd yn agos iawn â nodau WULF:

  • meithrin dealltwriaeth gyffredin ledled Cymru ynghylch sgiliau sero net 
  • datblygu gweithlu medrus i gyflawni ein hymrwymiadau sero net
  • dull trawslywodraethol a phartneriaethau er mwyn cyflawni ein hymrwymiad sgiliau
  • pontio teg. 

Rydym am baratoi pob dysgwr drwy roi'r wybodaeth, yr opsiynau a'r llwybrau gyrfa cywir iddynt. Llwybrau sy'n annog ac yn ysgogi ein gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol ac yn cynrychioli amrywiaeth ein cymunedau.

Cenhadaeth economaidd

Cafodd gweledigaeth strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer economi'r genedl ei hadnewyddu ym mis Tachwedd 2023. Ar wahân i gamau gweithredu i hybu cynhyrchiant a mewnfuddsoddiad yn y wlad, mae'r blaenoriaethau i alluogi economi gryfach yn cynnwys ffocws penodol ar y canlynol:

  • blaenoriaethu pobl ifanc, gwaith teg a sgiliau, a
  • gwireddu'r cyfleoedd Sero Net enfawr ledled Cymru o'i hamgylchedd naturiol i gefnogi twf busnes ac ymgysylltu â busnesau a phobl i symud tuag at bontio teg. 

Cymraeg 2050

Ein huchelgais fel Llywodraeth Cymru yw gweld nifer y bobl sy’n gallu mwynhau siarad a defnyddio’r Gymraeg yn cyrraedd miliwn erbyn 2050. Er mwyn cyflawni hyn byddwn yn:

  • cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg trwy lwybrau addysg statudol ac ôl-orfodol
  • hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg drwy darparu gwasanaeth, yn y gweithle ac ar draws cymdeithas yn gyffredinol
  • creu’r amodau gorau i hybu’r iaith a’i helpu i ffynnu

Dylai undebau llafur sy'n cyflwyno cynigion ar gyfer prosiectau WULF ystyried y cyd-destun strategol uchod, gyda llawer ohono'n cael ei adlewyrchu yn y tair thema a nodir isod.

Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF): 2025 i 2028

Mae Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) wedi bod yn weithredol ers 1999 ac mae wedi bod yn allweddol wrth ddarparu amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu i bobl mewn cyflogaeth. 

Drwy gyfrwng gwaith prosiectau WULF, mae'r undebau llafur sy'n cymryd rhan wedi dangos eu gallu unigryw i annog amrywiaeth eang o ddysgu ymhlith gweithwyr, boed yn y gweithle, gyda gweithwyr hunangyflogedig neu weithwyr llawrydd. Mae'r dysgu hwn yn helpu gweithwyr i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i wneud eu gwaith hyd eithaf eu gallu, gan ddatgloi cyfleoedd iddynt symud ymlaen yn y gweithle a llwyddo yn eu bywydau bob dydd. 

Rôl allweddol WULF yw denu gweithwyr at ddysgu a'u cefnogi i wneud cynnydd yn eu gyrfa, drwy godi ymwybyddiaeth, darparu cyfleoedd dysgu a thrwy fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau personol i ddysgu a brofir gan rai gweithwyr a goresgyn y rhwystrau hynny. Mewn llawer o achosion, efallai y bydd angen i unigolion gael cymorth i fynd i'r afael â materion iechyd a lles, cyn y gallant symud ymlaen ar eu taith ddysgu. 

Amcanion WULF

Amcanion WULF yw: 

  • Gwella sgiliau'r gweithlu a hwyluso cynnydd drwy gefnogi gweithgarwch dysgu a arweinir gan yr undebau llafur mewn partneriaeth â chyflogwyr ac eraill, gan ganolbwyntio ar gynyddu sgiliau hanfodol a digidol, cyflogadwyedd, a chefnogi gweithwyr i symud ymlaen i ddysgu pellach a/neu ennill cymwysterau perthnasol. 
  • Cefnogi gweithwyr i ail-ymgysylltu â dysgu, a chodi lefelau hyder i'r rhai nad ydynt wedi gwneud dysgu o unrhyw fath ers amser maith.
  • Cefnogi recriwtio a rhwydweithio Cynrychiolwyr Dysgu'r Undebau (ULRs) i gynyddu'r galw am ddysgu yn enwedig ymhlith gweithwyr â lefelau sgiliau isel, grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, a'r rhai sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol sy'n atal dysgu.
  • Ymateb i anghenion gweithwyr o ran sgiliau a chyflogadwyedd wrth iddynt ddod i'r amlwg a helpu i gyflawni anghenion sgiliau gweithlu'r presennol a gweithlu'r dyfodol.
  • Ymgysylltu â chyflogwyr o ran datblygu'r gweithlu, gan gynnwys sefydlu cytundebau dysgu a fargeiniwyd ar y cyd a darparu cyngor ar bolisïau ac arferion yn y gweithle. 
  • Annog cyflogwyr i gydnabod gwerth datblygu unigolion drwy ddysgu yn y gweithle ac wrth gefnogi cyflogadwyedd a chynnydd.
  • Cynyddu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn dysgu oedolion drwy gael gwared ar rwystrau sy'n atal dysgu a gweithio gyda chyflogwyr i ehangu mynediad at ddysgu a sgiliau yn y gweithle.
  • Annog gweithio mewn partneriaeth ymhlith undebau cyflawni WULF lle bynnag y bo modd. 
  • Cyfrannu at strategaeth Undeb Llafur ar gyfer dysgu ac ychwanegu gwerth ati; e.e. drwy fargeinio am sgiliau a dysgu a sefydlu cytundebau dysgu a phwyllgorau dysgu yn y gweithle.
  • Hwyluso gweithgarwch partneriaeth dysgu effeithiol rhwng cyflogwyr, undebau llafur eraill, darparwyr dysgu a sefydliadau yn y gymuned gyda'r nod o annog mwy o weithwyr i gymryd rhan mewn dysgu.
  • Darparu dysgu cynaliadwy drwy gael mynediad effeithiol at adnoddau a chymorth gan gyflogwyr ac eraill i gynnal gweithgarwch y tu hwnt i’r cyfnod cychwynnol o gyllid WULF. 

Cyflwyno WULF

Yn unol â'r amcanion a nodir uchod, mae'n rhaid i undebau WULF ddangos sut y byddant yn cyfrannu at y tair thema ganlynol sy'n cyfrannu yn y pen draw at y meysydd gweithredu yn y Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau a nodau ehangach Llywodraeth Cymru ynghylch gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol:

Thema 1: Darparu cymorth cyflogadwyedd wedi'i deilwra i'r unigolyn

Mae'r thema hon yn canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn a dylai ystyried amgylchiadau personol, rhwystrau, doniau ac uchelgeisiau. Bydd rhaglen gymorth sy'n nodi ac yn mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau yn rhoi'r cyfle gorau i lwyddo. Dylai prosiectau fod yn ymwybodol o anghenion y rhai nad ydynt, yn draddodiadol, wedi cael mynediad at gymorth addysg a hyfforddiant a rhoi mesurau ar waith i annog cyfranogiad. Dylai prosiectau gyfeirio cefnogaeth hefyd ar draws amrywiaeth o grwpiau a allai ei chael yn anodd cael mynediad at ddysgu, gan gynnwys menywod, pobl anabl, pobl ifanc a phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. 

Dyma enghreifftiau o sut y gall undebau ddangos y thema hon:

  • Datblygu ffyrdd arloesol o annog dysgu. Mae hyn yn cynnwys datblygu ffyrdd newydd neu wahanol o hybu manteision mynd i'r afael â sgiliau cyflogadwyedd a sgiliau hanfodol, anghenion dysgu ac annog dysgu pellach drwy drefniadau gyda darparwyr dysgu. Lle bo'n ymarferol, nodi arferion da o brosiectau a'u lledaenu i'r gweithlu ehangach.
  • Darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth ychwanegol i ddysgwyr. Gellir darparu hyn mewn partneriaeth â chyflogwyr a dylai ychwanegu at yr amrywiaeth bresennol o wasanaethau cefnogi.
  • Gwella sgiliau hanfodol yn sylweddol yn y gweithlu, er enghraifft drwy ddarparu cyfleoedd i weithwyr ddysgu ar bob lefel mewn ffordd berthnasol a hyblyg, drwy ddatblygu a/neu ddarparu dysgu priodol yn y gweithle sy'n diwallu anghenion y dysgwr.
  • Ehangu cyfranogiad a chwalu rhwystrau sy'n atal dysgu yn y gweithle drwy gefnogi ymyriadau sy'n canolbwyntio ar gyfle cyfartal, lleihau allgáu cymdeithasol, ac ymgysylltu â'r rhai sydd wedi cael trafferth gyda dysgu neu sydd heb gymryd rhan mewn dysgu yn flaenorol, yn enwedig pobl anabl a phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
  • Cefnogi unigolion i asesu eu hanghenion dysgu a datblygu a'u cyfeirio at gymorth allanol priodol a chynlluniau a ariennir perthnasol.

Thema 2: Pwysleisio cyfrifoldeb cyflogwyr i uwchsgilio a chefnogi eu gweithlu ac i ddarparu gwaith teg.

Mae'r thema hon yn cydnabod bod gan gyflogwyr rôl allweddol wrth hyrwyddo gweithleoedd iach a chynhwysol a blaenoriaethu'r gwaith o ddatblygu sgiliau fel y gall y rhai mewn cyflogaeth ffynnu mewn gwaith. Mae annog cyflogwyr i gymryd rhan a hyrwyddo gwerth uwchsgilio neu ailsgilio eu gweithlu yn hanfodol i lwyddiant economaidd Cymru ac mae'n cysylltu'n uniongyrchol ag agenda gwaith teg Llywodraeth Cymru.

Dyma enghreifftiau o sut y gall undebau llafur ddangos y thema hon:

  • Annog busnesau i gydnabod yr effaith gadarnhaol y gall dysgu a arweinir gan undebau ei chael ar dwf, cynhyrchiant ac ymroddiad eu gweithlu. 
  • Parhau i gynyddu nifer y cyflogwyr sy'n rhoi pwyslais ar greu gweithleoedd sy'n amgylcheddau cynhwysol a chefnogol i fenywod, pobl anabl, pobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor, a phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. 
  • Hyrwyddo'r Gymraeg yn y gweithle ac annog hyfforddiant yn y Gymraeg
  • Helpu busnesau i hwyluso a chydgysylltu cyfleoedd drwy lwybrau dysgu eraill, lle bo hynny'n bosibl, a chyfeirio gweithwyr atynt.
  • Annog busnesau i gydnabod a chefnogi'r angen am gymorth iechyd meddwl a lles, gan gydnabod bod iechyd meddwl gwael, mewn sawl achos, yn rhwystr sylweddol i unrhyw ddysgu ychwanegol neu ddysgu pellach.
  • Datblygu cytundebau, polisïau ac arferion newydd ar gyfer y gweithle ar ddysgu a sgiliau, cyflogadwyedd a lles yn y gweithle, neu wella’r rhai sydd eisoes yn bodoli, a gwneud hynny drwy fargeinio ar y cyd.
  • Annog cyflogwyr i gyfrannu at uwchsgilio eu gweithlu, gan gynnwys trwy ddarparu amser i ffwrdd â thâl ar gyfer dysgu a datblygu.

Thema 3: Ymateb i fylchau sgiliau presennol a bylchau sgiliau’r dyfodol.

Mae sicrhau bod gan bobl y sgiliau a'r wybodaeth gywir i wneud cynnydd a bodloni anghenion cyflogwyr nawr ac yn y dyfodol yn allweddol i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy.

Mae'r datblygiadau cyflym ym maes awtomatiaeth, deallusrwydd artiffisial a digideiddio yn gofyn am system addysg a hyfforddiant a fydd yn paratoi ein cenedl ar gyfer yr heriau a'r cyfleoedd nid yn unig nawr ond yn y dyfodol hefyd. Mae undebau llafur mewn sefyllfa dda i gefnogi gweithwyr i gynnal a gwella sgiliau a dysgu trosglwyddadwy, ac i helpu i annog cyfranogiad unigolion gan ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol o lenwi bylchau o ran sgiliau, a rhannu arferion gorau.

Dyma enghreifftiau o sut y gall undebau llafur ddangos y thema hon:

  • Bod yn ymatebol i anghenion cyflogaeth a sgiliau a ddaw i'r amlwg yn eu sectorau cysylltiedig drwy eirioli ar ran dysgu galwedigaethol a phrentisiaethau. 
  • Cyd-fynd â'r "Cynlluniau Gweithredu ar gyfer Sgiliau Rhanbarthol" sy'n adlewyrchu anghenion sgiliau lleol a rhanbarthol ac sydd wedi'u datblygu gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol. 
  • Mynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau sy'n ymwneud â'r angen i bontio gweithwyr yn deg i economi sero net
  • Canolbwyntio ar y bylchau posibl o ran sgiliau mewn meysydd a nodwyd fel blaenoriaethau yn y Genhadaeth Economaidd ac yn y sectorau penodol hynny y disgwylir i ddigideiddio ac awtomatiaeth gael effaith arnynt 
  • Ymateb i fylchau mewn sgiliau digidol a sgiliau seiberddiogelwch yn yr economi drwy ddarparu cyfleoedd i uwchsgilio 
  • Ymateb i ddatblygiadau cyflym ym maes awtomatiaeth, Deallusrwydd Artiffisial a digideiddio drwy baratoi'r gweithlu â sgiliau angenrheidiol a throsglwyddadwy. 
  • Cefnogi partneriaethau yn y gweithle sy'n ceisio pontio sgiliau gweithwyr sy'n ymwneud â'r economi werdd.

Rhaid i gynigion ar gyfer prosiectau ddangos yn glir sut maent yn cyd-fynd â'r tair thema allweddol fel y’u hamlinellir uchod ac yn eu cyflawni.

Cyllid ac Amserlen

Tair blynedd fydd oes pob prosiect, sef y blynyddoedd ariannol 2025-26, 2026-27 a 2027-28. Er bod yn rhaid i undebau llafur ddarparu cynllun 3 blynedd sy'n amlinellu'r ddarpariaeth arfaethedig, bydd unrhyw gyllid yn cael ei roi yn flynyddol. Bydd Llythyr Dyfarnu Grant blynyddol yn cael ei roi i undebau llafur cyn pob blwyddyn ariannol, yn cadarnhau'r cyllid y cytunwyd arno a manylion cyflawni. 

Byddwn yn caniatáu 1 cynnig o brosiect (h.y. 1 prosiect) fesul undeb llafur neu le bo hynny'n ymarferol, derbynnir cynigion ar gyfer prosiectau consortiwm. Gallai cynigion prosiectau consortiwm fod o ddiddordeb arbennig i undebau llafur llai, lle gall cydweithio helpu i gynyddu gweithgarwch a/neu gyflawni prosiectau hyfyw. Yn yr achosion hynny, caniateir i undebau llafur fod yn rhan o un cynnig prosiect consortiwm yn unig ac ni allant gyflwyno cynnig unigol eu hunain

Mae swm y cyllid ar gyfer 2025-26 wedi'i nodi isod. Mae tair haen o gyllid yn cydnabod maint aelodaeth undebau a'r ffaith bod mwy o alw o bosibl yn sgil hynny i ddarparu cymorth i undebau mwy:

  • Hyd at 14,999 o aelodau (yng Nghymru) – uchafswm cyllid o £54,375 y flwyddyn
  • 15,000 i 49,999 o aelodau (yng Nghymru) - uchafswm cyllid o £108,750 y flwyddyn
  • 50,000 a mwy o aelodau (yng Nghymru) - uchafswm cyllid o £163,125 y flwyddyn 

Mae'r ffigurau uchod yn ddangosol ac yn destun trafodaethau cyllideb y Llywodraeth Cymru cyn i'r gyllideb ddrafft gael ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr. Mae'n bosibl y bydd y ffigurau uchod hefyd yn cael eu lleihau pe bai'r gronfa wedi'i gordanysgrifio.

Bydd yr holl gyllid yn cael ei dalu fel ôl-daliadau fesul chwarter, ar yr amod bod y gwariant yn rhan o'r prosiect a gymeradwywyd a bod tystiolaeth bod y gost wedi'i hysgwyddo ac wedi cael ei thalu. 

Rhaid i Flwyddyn 1 y prosiectau ddechrau ar 1 Ebrill 2025 a bydd angen eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2026. Rhaid i brosiectau sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl yn yr amser sydd ar gael. Rhaid rhoi ystyriaeth i'r amser sydd ei angen i fynd ati i ennyn diddordeb gweithleoedd a recriwtio dysgwyr, gan roi amser i gyflawni a chwblhau'r prosiect mewn ffordd sy'n annog parhad y dysgu ar ôl i'r prosiect ddod i ben ar ddiwedd y tymor tair blynedd.

Gweithgarwch Cymwys

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cynigion ar gyfer prosiectau WULF sy'n dangos yn glir sut maent yn bodloni'r tair thema a nodir uchod. 

Dylai cynigion WULF ganolbwyntio ar sgiliau hanfodol, sgiliau cyflogadwyedd a chynnydd yn y gwaith. Dylai prif ffocws WULF fod ar lefel 3 ac is. Fodd bynnag, gall WULF gefnogi cyrsiau a gyflwynir ar lefel 4 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau pan fo hynny'n briodol a phan fo'n cefnogi cyflogadwyedd a chynnydd (er enghraifft, gan ddibynnu ar anghenion yr unigolyn a'r sector y mae'r prosiect yn eu cefnogi). Rhaid cytuno ar hyn gyda Llywodraeth Cymru fesul achos.

Rhaid i bob prosiect gynnwys elfen o gydweithio â phartneriaid. Mae'r rhain yn cynnwys sefydliadau gwirfoddol/cymunedol yn y trydydd sector a rhanddeiliaid arbenigol eraill e.e. Mind Cymru, Shelter Cymru, Cymunedau Digidol Cymru. Ni fydd cefnogaeth ar gael i brosiectau sy'n canolbwyntio ar hyfforddi cynrychiolwyr undebau (gan gynnwys Cynrychiolwyr Dysgu Undebau), cyngor ac arweiniad gyrfaoedd ffurfiol, neu brosiectau sy'n ceisio cymryd lle hyfforddiant a gyllidir gan gyflogwyr neu unrhyw rwymedigaethau statudol. 

Dylai prosiectau WULF, lle bo hynny'n ymarferol, annog buddsoddiad gan undebau, cyflogwyr, gweithwyr a phartneriaid perthnasol eraill er mwyn sicrhau bod cyllid WULF yn cael yr effaith fwyaf posibl a chreu modelau dysgu cynaliadwy i'w cyflwyno pan ddaw prosiectau i ben. 

Gellir defnyddio cyllid WULF ar gyfer dysgu anffurfiol, gan gynnwys darpariaeth sy'n arwain at gymwysterau a darpariaeth nad yw'n seiliedig ar gymwysterau. Rhaid i'r holl weithgarwch dysgu ganolbwyntio ar sgiliau a chyflogadwyedd, gan gyfrannu at gynhyrchiant neu gynnydd parhaus yn y gweithle gan yr unigolion sy'n cymryd rhan. Fodd bynnag, gall prosiectau gynnwys cefnogaeth ar gyfer iechyd a lles o ystyried bod galw uwch am gefnogaeth o'r fath. 

Dylid rhoi ystyriaeth i ansawdd y ddarpariaeth a'r gwerth am arian wrth gyflwyno cynnig WULF. Rhaid i'ch cynnig ddatgan yn glir sut byddwch yn sicrhau bod y ddwy egwyddor yn cael eu hymgorffori yn eich prosiect a bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o angen pan fyddwch yn cyflwyno eich dogfennaeth. 

Ar ôl cymeradwyo cynnig ar gyfer prosiect, rhaid cael cytundeb ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru os oes unrhyw amheuaeth ynghylch a yw gweithgaredd dysgu penodol yn gymwys i gael cyllid WULF o fewn y deilliannau y cytunwyd arnynt ar gyfer y prosiect. 

Os yw ceisiadau'n cynnwys cyfleusterau newydd neu well (gwariant cyfalaf) fel canolfannau dysgu neu offer TG, bydd angen dangos bod cysylltiad uniongyrchol rhwng y rhain a chyflawni'r dysgu. Ym mhob achos, dylid gwneud defnydd llawn o adnoddau presennol, yn enwedig lle mae'r rhain wedi'u prynu drwy ddarpariaeth flaenorol WULF. Os yw offer i gael ei brynu, cyfyngir y gwariant i uchafswm o 5% o gyfanswm gwerth y cynnig. Dylai'r cynnig esbonio sut y bydd yr offer yn cael ei ddefnyddio yn ystod oes y prosiect ac ar ôl i'r prosiect ddod i ben. 

Dylai prosiectau WULF ymrwymo i gyflawni deilliannau dysgu penodol, mesuradwy ac i sefydlu systemau casglu data sy'n cydymffurfio â GDPR er mwyn nodi cynnydd dysgu.

Enghreifftiau o weithgareddau sy'n gymwys i gael cyllid WULF:

  • cefnogi cost darparu dysgu fel datblygu cyrsiau newydd neu ddulliau newydd o ddysgu, prynu darpariaeth ddysgu i wella cyflogadwyedd unigolion a rhoi hwb i'w cynnydd yn y gweithle; lle nad yw'r costau hyn yn cael eu talu drwy ddarpariaeth arall a gyllidir yn gyhoeddus; 
  • cyflogau staff y prosiect a'r costau cysylltiedig ar gyfer oes y contract, ar yr amod bod y rhain yn rhesymol ac yn gydnaws â gweithwyr sy'n ymgymryd â rôl debyg yn y sefydliad (gweler y ddogfen ganllawiau i gael gwybod pa weithgareddau sy'n gymwys); 
  • marchnata, cyhoeddusrwydd a dosbarthu'n gysylltiedig â hyrwyddo'r dysgu, lle mae marchnata a chyhoeddusrwydd yn hyrwyddo'r prosiect WULF neu'r dysgu. Rhaid ystyried yr holl ddeunyddiau marchnata a chyhoeddusrwydd ar gyfer defnydd tymor hir ac nid defnydd tymor byr neu ddefnydd untro;
  • sefydlu canolfannau dysgu a darparu offer ar eu cyfer (yn ddarostyngedig i'r amodau a amlinellir uchod)

Llywodraethu ac Atebolrwydd

Mae unrhyw undebau llafur ardystiedig sydd ag aelodau yng Nghymru, boed yn aelod o Gyngres yr Undebau Llafur ai peidio, yn gymwys i wneud cais am gyllid WULF. Bydd croeso arbennig i gynigion ar gyfer prosiectau gan undebau llafur sy'n gweithio mewn partneriaeth ag eraill, fel undebau eraill, cyflogwyr, darparwyr addysg a hyfforddiant ac Awdurdodau Lleol.

Rhaid i gynigion ar gyfer prosiectau ddangos bod modd cwblhau prosiectau'n llwyddiannus o fewn yr amserlenni a nodir uchod. Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw sicrhau eu bod yn deall yn llwyr y telerau, yr amodau a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â chyllid WULF cyn llofnodi'r cytundeb grant. Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n rheolaidd i gynnal adolygiadau monitro ariannol blynyddol ac adolygiadau rheoli contractau chwarterol gyda'r prosiectau, yn unol â thelerau'r cytundeb grant, er mwyn sicrhau gonestrwydd ariannol, bod gwaith yn digwydd ar amser a bod y gweithgarwch yn cydymffurfio â gofynion y rhaglen. 

Mae disgwyl i holl Brosiectau WULF nodi'r galw am ddysgu ac ymateb iddo. Rhaid cyflwyno tystiolaeth o angen gyda'r cynnig. 

Dylai rhagolygon o'r gyllideb fod mor fanwl a chywir â phosibl. Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro gwariant i sicrhau bod y gwaith yn mynd rhagddo ar amser a bod targedau deilliannau yn cael eu cyflawni. Cofiwch na ellir dwyn ymlaen unrhyw gyllid sydd heb ei wario o un flwyddyn ariannol i'r llall. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro prosiectau wrth iddynt ddatblygu ac, fel rhan o'r broses hon, bydd yn trafod gwariant yn erbyn y gyllideb gyda'r ymgeiswyr llwyddiannus er mwyn nodi tanwariant posibl a/neu newidiadau arfaethedig i'r contract cyn gynted â phosibl. 

Ers mis Mawrth 2016, mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru ddilyn Safonau'r Gymraeg. Bydd yn ofynnol i brosiectau WULF gadw at y gofynion hyn.

Rhaid i bob prosiect sicrhau ei fod yn cydymffurfio'n llawn â'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Cefnogaeth

Bydd cyngor a chefnogaeth ar gael gan eich Rheolwr Contractau yn Llywodraeth Cymru drwy gydol oes y prosiect. Bydd TUC Cymru yn darparu cefnogaeth barhaus wrth ddatblygu'r prosiect ac yn ystod y camau gweithredu. Byddant yn darparu pwynt cyswllt allweddol i staff y prosiectau llwyddiannus, ac yn cynnal cyfarfodydd rhwydwaith WULF er mwyn darparu cyngor, a chefnogaeth i bob prosiect ar unrhyw beth heblaw am gydymffurfiaeth ffurfiol â chontractau.

Asesu Cynigion ar gyfer Prosiectau

Cynllun grant dewisol yw hwn a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ac fe'i gweinyddir gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar eu rhan.

Wrth asesu cynigion ar gyfer prosiectau, gofynnir i Banel Asesu WULF am gyngor. Mae'r panel yn cynnwys enwebeion o Lywodraeth Cymru.

Bydd cynigion ar gyfer prosiectau yn cael eu hystyried a'u hasesu gan y panel yn erbyn y meini prawf yn y prosbectws hwn. Wedyn bydd y panel yn darparu argymhellion i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i'w hystyried a'u cymeradwyo. 

Ychwanegedd

Gellir gwneud cais am gyllid ychwanegol i gefnogi dysgu o ffynonellau eraill fel rhaglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU. Gellir cael cyngor a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a TUC Cymru os oes angen. Os ceisir cyllid ychwanegol, rhaid i'r prosiect gynnal trywydd archwilio clir ac ar wahân a darparu tystiolaeth i ddangos nad oes arian wedi'i hawlio ar gyfer y gweithgaredd o fwy nag un ffynhonnell.

Cynigion ar gyfer Prosiectau

Wrth ddrafftio cynigion ar gyfer prosiectau, ni ddylai undebau gymryd yn ganiataol bod gan Banel Asesu WULF unrhyw wybodaeth flaenorol am eu sector, eu busnes nac unrhyw weithgaredd dysgu a wneir gan yr undebau llafur. 

Asesir pob cais yn erbyn y meini prawf a nodir isod. 

Tystiolaeth o Angen

Rhaid i gynigion ar gyfer prosiectau ddisgrifio'n glir ddiben y prosiect a'r angen amdano, gan gynnwys sut y bydd y prosiect yn cefnogi'r tair thema a amlinellir uchod.

Dylai'r cynnig egluro sut y bydd y prosiect yn ychwanegu gwerth at unrhyw ddarpariaeth bresennol yn hytrach na'i dyblygu.

Rhaid i gynigion prosiect ddangos y dystiolaeth a ddefnyddir fel sail i gyflwyno'r prosiect. Dylai hyn gynnwys tystiolaeth o angen grwpiau targed prosiectau, arolygon o weithwyr a chyflogwyr, a gwaith ymchwil arall fel gwaith a wneir gan academyddion neu Lywodraeth Cymru. 

Dylid darparu manylion hefyd o weithgorau sefydledig, partneriaethau cyflogwyr, grwpiau llywio neu gyrff eraill sydd wedi dod i'r casgliad bod yr angen yn bodoli ac sy'n cymeradwyo'r cynnig. 

Dylai'r cynnig ddangos yn glir sut y bydd yn ymdrin â chyflogadwyedd a chynnydd fel swyddogaeth graidd ei weithgarwch.

Targedau

Yn unol â themâu ac amcanion cyffredinol WULF, disgwylir i undebau adrodd yn erbyn y targedau allweddol canlynol: 

  1. Nifer y dysgwyr sy’n cyflawni cymwysterau wedi'u hachredu'n llawn neu'n rhannol  
  2. Nifer y dysgwyr sy’n cyflawni dysgu nad yw wedi'i achredu  
  3. Nifer y dysgwyr wedi’u hatgyfeirio/cyfeirio at gyfleoedd dysgu eraill 

Yn ogystal, bydd yn ofynnol i undebau roi manylion y cyflogwyr y bwriedir cydweithio â nhw. 

Bydd yn ofynnol i undebau amlinellu'r gweithgareddau penodol a gaiff eu cynnal er mwyn cyflawni'r amcanion hyn, a sut y bydd y rhain yn cael eu rheoli a'u monitro. 

Hyrwyddo Partneriaeth

Rydym yn annog gwaith partneriaeth effeithiol, er enghraifft gydag undebau llafur eraill, darparwyr dysgu a sefydliadau cymunedol, mewn ymdrech i gynyddu i'r eithaf nifer ac ansawdd y cyfleoedd addysg a hyfforddiant sydd ar gael ac i gyflawni arbedion maint lle bo modd. 

Dylai cynigion ar gyfer prosiectau gynnwys rhestr o bartneriaid prosiect a throsolwg o'r cymorth y gallant ei gynnig.

Cynaliadwyedd

Rhaid i'r cynnig ar gyfer y prosiect ddangos sut mae ganddo'r potensial i greu a chefnogi diwylliant dysgu y tu hwnt i gyfnod y prosiect. Dylai cynigion nodi sut y bydd polisïau, systemau ac arferion gwaith undebau llafur a'u gwaith cynllunio adnoddau yn y dyfodol (gan gynnwys staffio) yn esblygu i helpu i gynnal gweithgareddau a gwasanaethau dysgu a chefnogi rôl barhaus Cynrychiolwyr Dysgu'r Undebau (ULRs). 

Dylid darparu gwybodaeth am brosiectau diweddar WULF sydd wedi cael eu cyflwyno drwy eich undeb neu sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, gan esbonio pam fod angen rhagor o gyllid. 

Cynllunio a Rheoli Prosiectau

Rhaid cyflwyno amserlen fanwl ar gyfer y prosiect, sy'n nodi cerrig milltir allweddol fel penodi staff y prosiect, sefydlu grwpiau llywio, dyddiad lansio a dyddiadau cyrsiau. Rhaid darparu rhagolwg llawn o'r deilliannau a phroffil gwariant cysylltiedig. 

Rhaid amlinellu mecanweithiau a strwythurau rheoli'r prosiect, gan gyfeirio at rôl unrhyw grwpiau llywio a nodi gweithwyr a rolau allweddol. Rhaid i ymgeiswyr ddangos hefyd sut y bydd eu prosiect yn cysylltu â seilwaith ehangach eu hundeb ac yn cael ei gefnogi ganddo a/neu'n cysylltu â chynlluniau eraill a phartneriaid eraill y prosiect.

Bydd angen cyflwyno cofrestr risgiau yn amlinellu unrhyw risgiau a ragwelir a sut y byddant yn cael eu lliniaru. 

Buddsoddiad gan Gyfranogwyr

Mae'n ofynnol i brosiectau ystyried a dangos lefel addas o fuddsoddiad ariannol gan yr undeb/cyflogwr/gweithiwr wrth gytuno i gyllido gweithgareddau dysgu. Rhaid i'r cynnig ar gyfer y prosiect ddangos yn glir sut y caiff hyn ei weithredu. 

Trefniadau Monitro a Gwerthuso

Rhaid i undebau ddangos sut maent yn bwriadu monitro llwyddiant yn erbyn yr amcanion a'r targedau a bennir a sut maent yn bwriadu gwerthuso llwyddiant a dangos tystiolaeth ohono. 

Rhaid i'r prosiect fod â systemau monitro gweithgarwch cadarn ar waith er mwyn rheoli ac adrodd ar y wybodaeth hon yn effeithiol i Lywodraeth Cymru pan fo angen.   

Os bydd Llywodraeth Cymru yn mynegi pryderon ynghylch cyflwyno hawliadau'n hwyr neu gyflawni ar lefel is na'r disgwyl, efallai y gofynnir i brosiect roi sicrwydd ychwanegol a/neu wynebu rhagor o weithgarwch monitro.   

Bydd Rheolwr y Prosiect yn gyfrifol am gwblhau'r canlynol: 

  • cynnig y prosiect (dechrau'r prosiect)
  • hawliadau chwarterol ac adroddiad cynnydd chwarterol drwy gydol cyfnod y rhaglen

Dylai'r prosiectau sicrhau bod ganddynt systemau ar waith i gasglu a rhannu data dysgwyr a chyflogwyr i gefnogi unrhyw waith gwerthuso yn y dyfodol. Rhoddir rhagor o arweiniad pan gaiff y prosiect ei gymeradwyo.

Dylai prosiectau sicrhau bod ganddynt y systemau/prosesau ar waith i gasglu data categori arbennig. 

Y Broses Gyflwyno

Rhaid defnyddio ffurflen gais swyddogol Llywodraeth Cymru ar gyfer cynigion prosiect i wneud cais am gyllid. Ni allwn dderbyn cynigion nad ydynt yn y fformat hwn. Rhaid i bob cynnig gael ei lofnodi gan uwch swyddog priodol yn y sefydliad. Bydd gwiriadau diwydrwydd dyladwy yn cael eu cynnal gan dimau diwydrwydd dyladwy canolog Llywodraeth Cymru cyn i unrhyw gynnig gael ei gymeradwyo. 

Taliadau

Telir y grant fel ôl-daliad chwarterol ar ôl derbyn hawliad cywir a chyflawn, gydag anfoneb wedi'i chyfeirio at sylw Llywodraeth Cymru ac Adroddiad Cynnydd Chwarterol manwl. Bydd Llywodraeth Cymru yn penodi Rheolwr Contractau i sicrhau bod y prosiect yn parhau i gadw at ei amserlen a bod hawliadau grant yn cael eu cyflwyno mewn da bryd. Gall methu â chyflwyno hawliadau yn brydlon effeithio ar y gyllideb sydd ar gael i'r prosiect. Rhaid ymgynghori â Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau posibl i amserlen y prosiect, ei ddeilliannau, gweithgareddau neu batrymau gwariant. Bydd yn ofynnol i brosiectau sicrhau bod cofnodion gweithgarwch ac ariannol ar gael i gefnogi eu hawliadau yn ystod cyfarfodydd adolygu ariannol rheolaidd. Cyfrifoldeb y Rheolwr Prosiect yw sicrhau bod y cofnodion hyn yn cael eu cynnal a'u cadw a'u bod ar gael ar gais.

Dyddiadau Cau

Rhaid cyflwyno cynigion ar gyfer prosiectau erbyn hanner dydd ar 15 Tachwedd 2024.

Rhaid llenwi a llofnodi copi electronig o’r ffurflen cynnig prosiect a'i hanfon at WULF@llyw.cymru

Y Camau Nesaf

Bydd panel asesu WULF yn cyfarfod i drafod a gwerthuso'r holl gynigion ar gyfer prosiectau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 25 Tachwedd 2024. Bydd undebau yn cael adborth yn sgil yr asesiad hwn a byddant yn cael gwybod drwy lythyr a yw'r prosiect wedi bod yn llwyddiannus, yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 16 Rhagfyr 2024. 

Bydd Llythyrau Dyfarnu Grant Ffurfiol yn cael eu drafftio a'u dosbarthu i bob prosiect llwyddiannus cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ôl y dyddiad uchod.