Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: scu@gov.wales.

1. Rhanbarth

Cymru

2. Teitl y cynllun cymhorthdal

Cronfa Datblygu Tir ac Adeiladau Llywodraeth Cymru

3. Sail gyfreithiol yn y DU

Mae’r pwerau statudol perthnasol fel a ganlyn:

  • Mae adran 18(1) o Ddeddf Tai 1996 ("y Ddeddf") yn darparu'r pwerau i Weinidogion Cymru roi grantiau i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru ar gyfer gwariant y maent wedi neu'n mynd i fynd iddo mewn perthynas â'u gweithgareddau tai.
  • Mae adran 126 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (cymorth ariannol ar gyfer adfywio a datblygu) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru roi cymorth ariannol i unrhyw berson mewn perthynas â gwariant yr eir iddo mewn cysylltiad â gweithgareddau sy'n cyfrannu at adfywio neu ddatblygu ardal.
  • Mae adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud unrhyw beth sy'n briodol yn eu barn hwy i hyrwyddo neu wella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru, ac mae adran 58A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw  beth y mae angen ei wneud wrth iddynt arfer unrhyw un neu ragor o'u swyddogaethau eraill.

4. Amcan polisi penodol y cynllun

Helpu i ddatblygu cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy.

5. Awdurdodau Cyhoeddus sydd wedi'u hawdurdodi i weithredu'r Cynllun

Llywodraeth Cymru

6. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys

Awdurdodau Lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol, Ymddiriedolaethau Tai ac Elusennau.

7. Sectorau i'w cefnogi

Gweithgareddau eiddo tirol.

8. Hyd y cynllun

18 Hydref 2024 i 31 Mawrth 2030.

9. Y gyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun

£50,000,000

10. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy grantiau.

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Bwriad y cynllun hwn yw helpu i ddatblygu cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy. Mae'r ymyrraeth hon yn ymateb uniongyrchol i Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ystod tymor y llywodraeth hon i wneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd hyd yn oed yn well i fyw a gweithio ynddynt - Adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu.

Mae'n agored i Awdurdodau Lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol. Mae'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau yn ategu uchelgeisiau ymyriadau eraill a gyflawnir gan Lywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus yn ehangach, gyda'r nod o ddatgloi potensial datblygu tir ac adeiladau er budd cyhoeddus, yn enwedig er mwyn ateb y galw am dai cymdeithasol a fforddiadwy. Mae'r cynllun yn agored i Awdurdodau Lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, sefydliadau eraill yn y trydydd sector a chyrff y mae eu gwreiddiau mewn gwerth cymdeithasol h.y. ymddiriedolaethau ac elusennau nid er elw. Nid yw’r rhestr hon yn un gynhwysfawr. Mae'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau yn canolbwyntio ar ryddhau tir ac adeiladau lle mae gwaith adeiladu ar stop neu lle mae angen ymyrryd er mwyn sicrhau bod prosiect yn mynd yn ei flaen. Bwriedir iddi alluogi ymgeiswyr i oresgyn rhwystrau i ddatblygu h.y. pontio'r “bwlch dichonoldeb” a chyflawni newid. Gellir ei defnyddio hefyd i brynu parseli tir neu adeiladau strategol lle y cânt eu defnyddio i ddatblygu cartrefi fforddiadwy. Cyllid i'w hawlio mewn ôl-ddyledion gwariant.

14. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau o dan y cynllun yw'r Bwlch Dichonoldeb.

15. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£5000000

16. Manylion cyswllt

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image