Neidio i'r prif gynnwy

Gofyn am adolygiad

Gallwch ofyn i'ch cais gael ei adolygu os ydych chi'n teimlo bod un o'r rhesymau canlynol yn berthnasol i’ch cais

  • ni roddwyd unrhyw wobr - roedd y cais yn aflwyddiannus oherwydd nad oedd y meini prawf yn cael eu bodloni
  • ni roddwyd unrhyw wobr - roedd y cais yn aflwyddiannus ond mae gwybodaeth bellach neu newid i amgylchiadau yn golygu eich bod yn teimlo y gellid newid y penderfyniad
  • ni credwch nad yw y wobr a gafodd ei ddyfarnu yn ddigon i gwrdd â'ch anghenion
  • nid oedd yr eitem a ddyfarnwyd yn ddisgwyliedig - ee nwyddau gwyn neu gerdyn rhodd, pan ddisgwylir arian parod

Gallwch gael eich cynorthwyo wrth ofyn am Adolygiad Mewnol o'ch penderfyniad gan:

  • aelod o’r Rwydwaith Partner Y Gronfa Gymorth Dewisol
  • gallwch enwebu trydydd parti arall i weithredu ar eich rhan, e.e. eich gweithiwr cefnogi

Mae prosesu adolygiad yn broses 2 gam

  1. Adolygiad Mewnol gan Northgate Public Services: yn yr adolygiad hwn bydd aelod o staff Northgate yn adolygu eich cais a gall gysylltu â chi am wybodaeth ychwanegol i gefnogi eich cais.
  2. Adolygiad allanol gan Family Fund Services: yn yr adolygiad hwn bydd aelod o staff Family Fund Trust yn adolygu eich cais a gall gysylltu â chi am wybodaeth ychwanegol a allai gefnogi eich cais. Rydym yn gofyn bod unrhyw wybodaeth y gofynnir amdano yn cael ei ddychwelyd yn brydlon.

Gallwch ofyn am Adolygiad Mewnol o fewn 20 diwrnod gwaith i dderbyn eich penderfyniad gwreiddiol trwy:

  • ebost at daf.review@necsws.com
  • yn Ysgrifenedig at Cronfa Cymorth Dewisol, Blwch Post 2377, Wrecsam, LL11 0LG
  • gallwch hefyd ofyn am adolygiad o benderfyniad Taliad Cymorth Brys dros y ffôn ar 0800 859 5924 oherwydd natur frys y cais

Pryd fydd penderfyniad yn cael ei wneud?

Taliad Cymorth Brys

Fe'ch hysbysir o benderfyniad canlyniad yr adolygiad o fewn 24 awr (Dydd Llun – Dydd Gwener) gan eich dull cyfathrebu orau e.e. yn ysgrifenedig, trwy e-bost neu gyfeiriad post, neu dros y ffôn

Taliad Cymorth Unigol

Fe'ch hysbysir o benderfyniad canlyniad yr adolygiad o fewn 15 diwrnod gwaith o ofyn am adolygiad. Bydd hyn yn ysgrifenedig, trwy e-bost neu gyfeiriad post, dibynnu ar y dull cyfathrebu gorau gennych.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus â'ch penderfyniad ar ôl eich adolygiad cam cyntaf, gallwch wneud cais am Adolygiad Ail Gam gan Tîm Family Fund trwy'r dull a amlinellwyd yn flaenorol. Bydd eich cais cyflawn yn cael ei adolygu ac unrhyw wybodaeth ychwanegol a gesglir i sicrhau bod adolygiad tryloyw ac agored yn cael ei ddilyn o fewn yr un amserlen ag adolygiad cam cyntaf.