Neidio i'r prif gynnwy

1. Rhanbarth

Cymru

2. Teitl cynllun y cymhorthdal

Cronfa Cadernid Economaidd Cymru

3. Sail gyfreithiol yn y DU

Daw’r pwerau sydd gan Weinidogion Cymru i ganiatáu i Lywodraeth Cymru gefnogi mentrau o dan y Cynllun o’r ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (adran 1) (fel y’i diwygiwyd)
  • Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (adran 126)
  • Deddf Datblygu Diwydiannol 1982 (adran 7), a
  • Deddf Llywodraeth Cymru (adran 60)

Rhaid i bob cymhorthdal a ddarperir o dan y Cynllun hwn gydymffurfio â threfn rheoli cymorthdaliadau'r DU  Mae'r terfynau a nodir yn yr atodlenni rydym wedi’u hatodi isod yn cyd-fynd â throthwyon presennol yr UE i sicrhau cydymffurfiaeth â'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA). Rhaid cael cymeradwyaeth ar gyfer unrhyw gymhorthdal sy'n uwch na'r terfynau a nodir.

Rhaid i bob cymorth o dan y ‘Temporary Framework for State Aid Measures to Support the Economy in the Current COVID-19 Outbreak’  gydymffurfio â'r rheolau a nodir yn y Fframwaith Dros Dro.

Fersiwn llawn o'r fframwaith dros dro ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

4. Diffiniadau

Ystyr "dyddiad rhoi'r cymorth" yw'r dyddiad y rhoddir yr hawl gyfreithiol i’r buddiolwr gael y cymorth o dan y drefn gyfreithiol genedlaethol berthnasol.

Ystyr "menter fawr" yw unrhyw fenter nad yw'n fusnes bach a chanolig (BBaCh) (fel y'i diffinnir isod).

Ystyr "elw gweithredol" yw'r gwahaniaeth rhwng y refeniw wedi’i ddisgowntio a'r costau gweithredu wedi’u disgowntio dros oes economaidd y buddsoddiad, lle mae'r gwahaniaeth hwn yn un cadarnhaol. Mae'r costau gweithredu yn cynnwys costau fel costau personél, deunyddiau, gwasanaethau dan gontract, cyfathrebu, ynni, cynnal a chadw, rhent, gweinyddu, ond nid costau dibrisiant a chostau ariannu os ydynt yn elfennau o’r cymorth buddsoddi. Mae disgowntio refeniw a chostau gweithredu gan ddefnyddio cyfradd ddisgowntio briodol yn ei gwneud yn bosibl gwneud elw rhesymol.

Pennir "elw rhesymol" yn ôl yr elw sy’n nodweddiadol i'r sector dan sylw. P’run bynnag, mae cyfradd enillion ar gyfalaf nad yw’n fwy na'r gyfradd trwco/ffeirio berthnasol ynghyd â phremiwm o 100 pwynt sylfaen yn cael ei ystyried yn elw rhesymol.

Ystyr "blaenswm ad-daladwy" yw benthyciad ar gyfer prosiect sy’n cael ei dalu mewn un rhandaliad neu fwy a bydd yr amodau ar gyfer ei ad-dalu yn dibynnu ar ganlyniad y prosiect.

Ystyr "BBaCh" yw menter sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:

  • Mae'r categori busnesau micro, bach a chanolig ('BBaChau') yn cynnwys busnesau sy'n cyflogi llai na 250 o bobl ac sydd â throsiant blynyddol nad yw'n fwy na EUR 50 miliwn, a/neu nad yw ei fantolen flynyddol yn fwy na EUR 43 miliwn
  • fewn y categori BBaChau, diffinnir menter fach fel menter sy'n cyflogi llai na 50 o bobl ac nad yw cyfanswm ei throsiant blynyddol a/neu ei mantolen flynyddol yn fwy na EUR 10 miliwn
  • fewn y categori BBaChau, diffinnir micro-fenter fel menter sy'n cyflogi llai na 10 o bobl ac nad yw cyfanswm ei throsiant blynyddol a/neu ei mantolen flynyddol yn fwy na EUR 2 miliwn.

Ystyr "dechrau gwaith" yw'r cynharaf o naill ai ddechrau'r gwaith adeiladu sy'n ymwneud â'r buddsoddiad, neu'r ymrwymiad cyfreithiol rhwymol cyntaf i archebu offer neu unrhyw ymrwymiad arall sy'n gwneud y buddsoddiad yn ddi-droi'n-ôl. Nid ystyrir bod prynu tir a gwaith paratoi megis cael trwyddedau a chynnal astudiaethau dichonoldeb yn ddechrau gwaith. O ran cymryd awenau sefydliad, ystyr 'dechrau gwaith' yw'r foment pan y caffaelir yr asedau sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r sefydliad sy’n cael ei gaffael.

"Cymhorthdal"; mae gan fesur cymorth bedair (4) nodwedd allweddol sy'n debygol o ddangos y byddai'n cael ei ystyried yn gymhorthdal:

  • Yn gyntaf, rhaid i gymhorthdal fod yn gyfraniad ariannol (neu mewn nwyddau) fel grant, benthyciad neu warant.
  • Hefyd, rhaid i'r cyfraniad ariannol gael ei ddarparu gan 'awdurdod cyhoeddus', gan gynnwys llywodraeth ganolog, ddatganoledig, ranbarthol neu leol, ymhlith eraill.
  • Yn drydydd, rhaid i’r cymhorthdal hefyd roi budd dethol i'r derbynnydd, sef mantais economaidd na all ei chael ar delerau'r farchnad.
  • Yn olaf, rhaid i'r cymhorthdal ystumio neu niweidio cystadleuaeth, masnach neu fuddsoddiad.

Ystyr "dwysedd y cymhorthdal" yw swm gros y cymorth wedi’i fynegi fel canran o'r costau cymwys, cyn tynnu treth neu dâl arall

Ystyr "ymgymeriad mewn trafferthion" yw ymgymeriad lle mae o leiaf un o'r amgylchiadau canlynol yn digwydd:

  1. Yn achos cwmni atebolrwydd cyfyngedig (ac eithrio cwmni bach neu ganolig sy’n bodoli ers llai na thair blynedd neu, ar gyfer bod yn gymwys am gymorth ariannu risg, cwmni bach neu ganolig sydd o fewn 7 mlynedd i’w werthiant masnachol cyntaf sy’n gymwys am fuddsoddiadau ariannu risg yn dilyn diwydrwydd dyladwy gan y cyfryngwr ariannol a ddewiswyd), lle mae mwy na hanner ei gyfalaf cyfrannau wedi diflannu o ganlyniad i golledion cronedig. Mae hyn yn wir pan dynnir y colledion cronedig o gronfeydd wrth gefn (a'r holl elfennau eraill a ystyrir yn gyffredinol fel rhan o gronfeydd y cwmni), esgorir ar swm cronnol negyddol sy'n fwy na hanner y cyfalaf cyfranddaliadau sydd wedi’i danysgrifio.
  2. Yn achos cwmni lle mae gan o leiaf rai aelodau atebolrwydd diderfyn am ddyled y cwmni (ac eithrio BBaCh sy’n llai na thair oed neu, at ddiben bod yn gymwys am gymorth cyllid risg, BBaCh y mae llai na 7 mlynedd ers ei werthiant masnachol cyntaf ac sy'n gymwys am fuddsoddiad cyllid risg yn dilyn archwiliad diwydrwydd dyladwy gan y cyfryngwr ariannol a ddewiswyd), lle mae mwy na hanner ei gyfalaf fel y’i dangosir yng nghyfrifon y cwmni wedi diflannu o ganlyniad i golledion cronedig. At ddibenion y ddarpariaeth hon, mae "cwmni lle mae gan o leiaf rai aelodau atebolrwydd diderfyn am ddyled y cwmni" yn cyfeirio'n benodol at y mathau canlynol o gwmni:
    • partneriaethau
    • partneriaethau cyfyngedig, a
    • chwmnïau anghyfyngedig.
  3. Bod yr ymgymeriad yn destun achos o ansolfedd ar y cyd neu'n bodloni'r meini prawf o dan ei gyfraith ddomestig ar gyfer achos o ansolfedd ar y cyd ar gais ei gredydwyr.
  4. Lle mae'r ymgymeriad wedi cael cymorth achub ac nad yw eto wedi ad-dalu'r benthyciad neu wedi terfynu'r warant, neu sydd wedi cael cymorth ailstrwythuro ac yn dal i fod yn destun cynllun ailstrwythuro.
  5. Yn achos ymgymeriad nad yw'n BBaCh, lle, am y ddwy flynedd ddiwethaf:
    1. mae’r gymhareb rhwng dyled yr ymgymeriad ar ei lyfrau a’i ecwiti wedi bod yn fwy na 7,5 a lle
    2. mae cymhareb llog EBITDA yr ymgymeriad wedi bod yn is na 1,0.

5. Amcanion y cynllun

Helpu i gefnogi busnesau sy'n gweithredu ac yn cyflogi staff yng Nghymru ac i ddiogelu swyddi yn ystod argyfwng Covid-19.

6. Y corff llywodraethu sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol Cymru

7. Hyd a Lled y Cynllun

Bydd y cynllun yn agored i bob busnes sy'n gweithredu yng Nghymru, ac eithrio Mentrau Canolig neu Fawr a oedd yn bodloni'r diffiniad o ‘gwmni mewn trafferthion’ ar 31 Rhagfyr 2019 a Busnesau Bach neu Ficrofentrau a oedd yn destun gweithdrefnau ansolfedd ar y cyd ar 31 Rhagfyr 2019 neu sydd wedi cael cymorth achub neu gymorth ailstrwythuro.

Mae busnesau sydd â'u pencadlys mewn gwledydd sy'n 100% yn hafanau treth yn anghymwys. At ddibenion y cynllun hwn, y gwledydd sydd yn 100% yn hafanau treth yw:

  • Ynysoedd Prydeinig y Wyryf
  • Bermuda
  • Ynysoedd Cayman
  • Y Bahamas
  • Ynys Manaw
  • Ynysoedd Turks a Caicos
  • Anguilla

8. Hyd y cynllun

Bydd modd rhoi cymorth o dan y Cynllun hwn rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2021.

9. Cyllideb ar gyfer cymorth dan y Cynllun

Er nad oes cyllideb benodedig ar gyfer y cynllun hwn, amcangyfrifir y caiff cyfanswm o ryw £200 miliwn ei wario rhwng 1 Ionawr 2021 a 31 Rhagfyr 2021.

10. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdal a roddir o dan y Cynllun yn dryloyw.

11. Gweithgareddau cymwys i'w cefnogi dan y cynllun

Gellir talu cymorth sy'n cyd-fynd â’r ‘Temporary Framework for State Aid Measures to Support the Economy in the Current COVID-19 Outbreak’  yn unol â'r Egwyddorion a nodir yn Erthygl 3.4 o'r TCA ac yn unol ag Erthygl 3.2(3) o'r TCA o dan Lwfans Grant Busnes COVID-19 (cymorthdaliadau a roddir am gyfnod dros dro i ymateb i argyfwng economaidd cenedlaethol neu fyd-eang).

Ceir disgrifiadau manwl o'r symiau cyfyngedig o gymhorthdal y bwriedir iddynt fynd i'r afael â phrinder sydyn neu ddiffyg argaeledd hylifedd yn Atodlen 1a.

Ceir disgrifiadau manwl o'r cymorthdaliadau ar ffurf cyfraddau llog â chymhorthdal ar gyfer benthyciadau sydd â'r bwriad o sicrhau mynediad at hylifedd i ymgymeriadau sy'n wynebu prinder sydyn yn Atodlen 1b.

Nodir disgrifiadau manwl o'r cymorthdaliadau i gefnogi costau cyflogau cyflogeion er mwyn osgoi diswyddo yn ystod pandemig COVID-19 yn Atodlen 1c.

Ceir disgrifiadau manwl o'r cymorthdaliadau i gefnogi costau sefydlog heb eu cwmpasu ar gyfer yr ymgymeriadau hynny y mae'r achosion o COVID-19 wedi arwain at atal neu leihau eu gweithgarwch busnes yn Atodlen 2.

Os nad oes modd cynorthwyo derbynwyr cymwys yn unol â hynny, gellir dyfarnu symiau bach o gymorth ariannol iddynt yn unol ag Erthygl 3.2 paragraff 4 o Gytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU-UE.

12. Effaith cymhelliant

Bwriad y cymhorthdal yw newid ymddygiad economaidd y buddiolwr. Bernir bod yr egwyddor hon wedi’i bodloni lle bydd y cymorth yn bodloni'r holl amodau a nodir naill ai yn nhrefn rheoli cymhorthdal y DU  neu yn Fframwaith Dros Dro'r UE i gefnogi'r economi o dan y COVID-19 presennol.

13. Cyfuno

Wrth benderfynu a lwyddwyd i gadw o fewn y trothwyon dwysedd unigol a therfyn dwysedd y cymhorthdal, rhaid ystyried yr holl gefnogaeth gyhoeddus sydd wedi’i rhoi i'r gweithgaredd neu’r prosiect a gynorthwyir, ni waeth pwy sydd wedi ariannu’r cymorth hwnnw, boed ffynhonnell leol, rhanbarthol, cenedlaethol neu'r Undeb Ewropeaidd.

Ni fydd modd cyfuno’r cymhorthdal a ddarperir o dan y Cynllun hwn â mathau eraill o gymorth na chyda chymorth sy’n cael ei ystyried yn 'symiau bach o gymorth' ar gyfer yr un costau cymwys os bydd swm hynny’n uwch na’r terfynau cymorth cymwys.

Mae mecanwaith wedi'i sefydlu fel rhan o'r broses ymgeisio i sicrhau nad yw'r cymorth o’i gronni yn fwy na’r dwysedd mwyaf a ganiateir o dan y Cynllun. Cynhelir gwiriadau diwydrwydd dyladwy wrth ddyfarnu.

14. Gofynion monitro ac adrodd

Bydd pawb sy'n cael cymhorthdal o dan y Cynllun yn cael gwybod bod y cymorth wedi'i ddarparu o dan y Cynllun, a fydd wedi’i gofrestru o dan SC10144, 'Cronfa Cadernid Economaidd Cymru' neu Fframwaith Dros Dro'r UE i gefnogi'r economi yng nghyd-destun COVID-19.

Cedwir cofnodion am 10 mlynedd o ddyddiad dyfarnu'r cymhorthdal diwethaf o dan y Cynllun. Bydd y cofnodion yn ddigon manwl i bennu bod amodau’r Cynllun yn cael eu cyflawni.

Bydd manylion unrhyw ddyfarniad sydd â gwerth o  £500,000 neu fwy a roddir o dan y cynllun hwn ar gael i'r cyhoedd eu gweld ar wefan Cronfa Ddata Tryloywder Cymhorthdal y DU o fewn 6 mis ar ôl ei roi.

Cyhoeddir adroddiadau blynyddol neu bob dwy flynedd ar wariant o dan y Cynllun hwn er mwyn cydymffurfio ag ymrwymiadau rhyngwladol y DU o ran cymhorthdal.

Yn unol ag ymrwymiadau'r DU o dan Gytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU-UE, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r holl wybodaeth a dogfennau yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol i bartïon â diddordeb i ddangos eu bod yn cydymffurfio â threfn rheoli cymhorthdal y DU o fewn mis ar ôl i gais gael ei wneud.

Gwybodaeth gysylltu:

Uned Polisi Cymorth Gwladol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Cymru

Ffôn: + 44 (0)3000 253568
E-bost: state.aid@gov.wales

Atodlen 1a: Cymorthdaliadau y bwriedir iddynt fynd i'r afael â phrinder sydyn neu ddiffyg argaeledd hylifedd

Uchafswm y cymorth a ganiateir o dan bob rhan o Atodlen 1 yw £800,000 fesul un gweithredydd economaidd. Mae'r lwfans hwn yn cynnwys unrhyw grantiau sydd wedi'u derbyn ers 1 Ionawr 2021 o dan gynllun grant busnes COVID-19 y DU neu unrhyw gymorth gwladwriaethol sydd wedi'i dderbyn ers 1 Ionawr 2021 o dan Adran 3.1 o Fframwaith Dros Dro'r Comisiwn Ewropeaidd ar draws unrhyw gynllun arall yn y DU.

Atodlen 1b: Cymorth ar ffurf cyfraddau llog â chymhorthdal ar gyfer benthyciadau sydd â'r bwriad o sicrhau mynediad at hylifedd i ymgymeriadau sy'n wynebu prinder sydyn

Bydd benthyciadau'n ymwneud â buddsoddi a/neu anghenion cyfalaf gweithio. Gellir rhoi benthyciadau ar gyfraddau llog is sydd o leiaf yn hafal i'r gyfradd sylfaenol (IBOR 1 flwyddyn) ynghyd â'r ymylon risg credyd fel y'u nodir yn y tabl isod. Dylai'r gyfradd llog isaf (cyfradd sylfaenol ynghyd â'r ymylon risg credyd) ar gyfer busnesau bach a chanolig a mentrau mawr fod o leiaf 10bps y flwyddyn.

Math o dderbynnydd Ymyl risg credyd am y flwyddyn gyntaf Ymyl risg credyd am 2il -3edd flwyddyn Ymyl risg credyd am y 4edd-6ed blwyddyn
BBaChau 25bps 50bps 100bps
Mentrau mawr 50bps 100bps 200bps

Rhaid i'r contractau benthyciadau gael eu llofnodi erbyn 31 Rhagfyr 2021 fan bellaf ac maent wedi'u cyfyngu i uchafswm o chwe blynedd.

Ar gyfer benthyciadau sy'n aeddfedu y tu hwnt i 31 Rhagfyr 2021, ni fydd cyfanswm y benthyciadau fesul buddiolwr yn fwy na:

  1. dyblu bil cyflogau blynyddol y buddiolwr (gan gynnwys taliadau cymdeithasol yn ogystal â chost personél sy'n gweithio ar safle'r ymgymeriad ond sydd yn ffurfiol ar gyflogres isgontractwyr) ar gyfer 2019 neu am y flwyddyn ddiwethaf sydd ar gael. Yn achos ymgymeriadau a grëwyd ar 1 Ionawr 2019 neu wedi hynny, rhaid i uchafswm y benthyciad beidio â bod yn fwy na'r bil cyflogau blynyddol amcangyfrifedig am y ddwy flynedd gyntaf y buont ar waith; neu
  2. 25% o gyfanswm trosiant y buddiolwr yn 2019.

Ni ddylid cronni cymorth benthyciadau gyda chymorth gwarant benthyciad yn cael ei roi ar gyfer yr un prifswm benthyciad sylfaenol a ddyfarnwyd yn unol ag erthygl 3.2 o'r ‘Temporary Framework for State Aid Measures to Support the Economy in the Current COVID-19 Outbreak’ ((Cymorth ar ffurf gwarantau ar fenthyciadau).

Atodlen 1c: Cymorth ar gyfer cymorthdaliadau cyflog i weithwyr er mwyn osgoi diswyddiadau yn ystod COVID-19

Caniateir darparu cymorthdaliadau i gefnogi costau cyflog ymgymeriadau, a fyddai, oherwydd COVID-19, fel arall yn diswyddo personél neu i incwm cyfwerth â chyflog unigolion hunangyflogedig y cafodd eu gweithgarwch busnes ei atal neu ei leihau yn sgil mabwysiadu mesurau cenedlaethol mewn ymateb i bandemig COVID-19, ar yr amod y bodlonir yr amodau canlynol:

  1. Nod y cymorth yw osgoi diswyddiadau yn ystod yr achosion o COVID-19 (a sicrhau parhad gweithgareddau busnes unigolion hunangyflogedig);
  2. Rhoddir y cymorth ar ffurf cynlluniau i ymgymeriadau mewn sectorau, rhanbarthau penodol neu o faint penodol y mae pandemig COVID-19 yn effeithio'n arbennig arnynt;
  3. Rhoddir dyfarniadau cymorth unigol y cynllun cymhorthdal cyflogau erbyn 31 Rhagfyr 2021 erbyn 31 Rhagfyr 2021, ar gyfer cyflogeion a fyddai fel arall wedi'u diswyddo o ganlyniad i atal neu leihau gweithgareddau busnes oherwydd covid-19 (neu ar gyfer unigolion hunangyflogedig y mae eu gweithgarwch busnes wedi cael ei effeithio'n negyddol gan yr achosion o COVID-19), ac yn ddarostyngedig i'r amod bod y personél sy'n elwa yn cael eu cynnal mewn cyflogaeth barhaus am y cyfnod cyfan y mae'r cymorth yn cael ei roi (neu'n ddarostyngedig i'r amod bod gweithgarwch busnes perthnasol yr unigolyn hunangyflogedig yn cael ei gynnal am y cyfnod cyfan y rhoddir y cymorth ar ei gyfer);
  4. Ni fydd y cymhorthdal cyflog misol yn fwy nag 80% o'r cyflog gros misol (gan gynnwys cyfraniadau nawdd cymdeithasol y cyflogwr) o'r personél sy'n elwa (neu 80% o incwm misol cyfartalog cyfatebol yr unigolyn hunangyflogedig);
  5. Gellir cyfuno'r cymhorthdal cyflog â mesurau cymorth cyflogaeth eraill sydd ar gael yn gyffredinol, ar yr amod nad yw'r cymorth cyfunol yn arwain at or-dalu costau cyflog y personél dan sylw. Gellir cyfuno cymorthdaliadau cyflog ymhellach â gohirio treth a gohirio taliadau nawdd cymdeithasol.

Atodlen 2: Cymorth ar gyfer costau sefydlog heb eu cwmpasu ar gyfer yr ymgymeriadau hynny y mae'r COVID-19 wedi arwain at atal neu leihau eu gweithgarwch busnes

Uchafswm y cymorth a ganiateir yw £9,000,000 fesul un gweithredydd economaidd, ar yr amod bod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni:   

  1. Mae'r Lwfans Arbennig yn cwmpasu yn unig gostau sefydlog heb eu cwmpasu yr ymgeisydd  dros y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2021 a 31 Mawrth 2022, gan gynnwys costau o'r fath a ysgwyddir mewn unrhyw ran o'r cyfnod hwnnw ('cyfnod cymwys')
  2. Rhaid i ymgeisydd ddangos iddo weld gostyngiad sylweddol yn ei drosiant dros y cyfnod cymwys o’i gymharu â'r un cyfnod yn 2019. Cyfrifir ei golledion ar sail ei gyfrifon archwiliedig neu ei gyfrifon statudol swyddogol a gafodd eu ffeilio yn Nhŷ'r Cwmnïau, neu ei gyfrifon cymeradwy a gyflwynwyd i CThEM sy'n cynnwys gwybodaeth am elw a cholled yr ymgeisydd
  3. Ystyr ‘costau sefydlog heb eu cwmpasu’ yw costau sefydlog nad yw elw, yswiriant na chymhorthdal arall yn eu cwmpasu
  4. Ni chaiff y taliad grant fod yn fwy na 70% o gostau sefydlog heb eu cwmpasu yr ymgeisydd, ac eithrio microfentrau a mentrau bach (a ddiffinnir at ddibenion y cynllun hwn fel rhai â llai na 50 o weithwyr ac â throsiant blynyddol a/neu fantolen flynyddol o lai na £9,000,000), lle na ddylai'r taliad grant fod yn fwy na 90% o'r costau sefydlog heb eu cwmpasu
  5.  Ni chaiff taliadau grant o dan y lwfans hwn fod yn fwy na £9,000,000 fesul un gweithredydd economaidd. Mae'r lwfans hwn yn cynnwys unrhyw grantiau sydd wedi'u derbyn ers 1 Ionawr 2021 o dan gynllun COVID-19 y DU sy'n darparu cymorth ar gyfer costau sefydlog heb eu cwmpasu neu unrhyw gymorth gwladwriaethol a dderbynnir o dan Adran 3.12 o Fframwaith Dros Dro'r Comisiwn Ewropeaidd; rhai i'r holl ffigurau a ddefnyddir fod yn gros, hynny yw cyn didynnu treth neu daliad arall
  6. Ni fydd modd cyfuno’r grantiau a ddarperir o dan y lwfans hwn â chymorthdaliadau eraill ar gyfer yr un costau.