Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Pwrpas y Canllaw hwn yw rhoi gwybod i ymgeiswyr y blaenoriaethau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi trwy'r Gronfa Band Eang Lleol yng Nghymru yn 2021 i 2022.

Mae’n esbonio sut y dylai ymgeiswyr gyflwyno ceisiadau, yn unol â’r blaenoriaethau hynny, er mwyn i Lywodraeth Cymru eu hystyried a sut y bydd yn eu hasesu.

Caiff arian ei ddyrannu a’i dalu’n uniongyrchol i ymgeiswyr sy’n bodloni’r canllaw hwn a’r meini prawf cysylltiedig, hynny mewn dau gymal yn 2020 i 2021. Caiff canllaw a meini prawf gwahanol eu cyhoeddi ar gyfer cronfeydd 2021 i 2022 a 2022 i 2023.  Dylai ymgeiswyr sylwi na all Llywodraeth Cymru roi ymrwymiad y bydd grant ar gael ar ôl 2022 i 2023.

Caiff y grantiau eu dyfarnu ar ffurf cymorthdaliadau o dan gynllun Llywodraeth Cymru rhif SC10183.

Canlyniadau

Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, rhaid i gyrff cyhoeddus feddwl mwy am y tymor hir, gweithio’n well â phobl, cymunedau ac â’i gilydd, chwilio am gyfleoedd i osgoi problemau a gweithio mewn ffordd fwy cydgysylltiedig.

Mae Deddf 2015 yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i geisio cyflawni’r nodau a’r amcanion llesiant hyn ym mhopeth a wnânt.

Yn eich cais, rhaid ichi ddangos eich bod wedi datblygu’ch cynnig gan ddefnyddio’r pum ffordd o weithio a bod eich cynnig yn gwneud y gorau posibl o’ch cyfraniad at yr amcanion a’r nodau llesiant.

Mae Ffyniant i Bawb, y strategaeth genedlaethol, yn esbonio gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ‘Symud Cymru Ymlaen’, ac yn disgrifio’r amcanion llesiant o dan bedair thema allweddol. Dyma fydd sail amcanion y grant.

Yn eich cais, rhaid ichi ddangos sut y bydd eich cynnig yn bodloni amcanion hyn y grant.

Amcanion y grant

  • Dod â band eang cyflym a dibynadwy i’r rhannau hynny o Gymru sydd heb gyswllt o’r fath ar hyn o bryd
  • Ymyrryd i helpu i ddod â band eang cyflym a dibynadwy i’r rhannau hynny o Gymru sydd heb gyswllt o’r fath ar hyn o bryd
  • Ymyrryd i gefnogi blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer swyddi a thwf, yn enwedig yn y Dinas-Ranbarthau, Ardaloedd Menter, Bwrdd Uchelgais Economaidd y Gogledd, ardaloedd twf lleol ac ardaloedd adfywio
  • Ymyrryd i wella ansawdd bywyd, yn enwedig y rheini sy’n byw mewn ardaloedd tan anfantais ac ardaloedd gwledig, trwy ddod â band eang cyflym a dibynadwy i ardaloedd sydd heb gyswllt o’r fath ar hyn o bryd.

Pwy sy’n gallu cael grant

Dyma’r gweithgareddau cymwys:

  • Creu a galluogi seilwaith band eang gan gynnwys ceblau cludo data
  • Gwella’r seilwaith band eang presennol
  • Rhoi seilwaith digidol ar waith, er enghraifft gosod seilwaith goddefol (e.e. gwaith peirianyddol sifil, fel pibellau ac elfennau eraill y rhwydwaith megis ffeibr tywyll ac ati), a hefyd ar y cyd â seilwaith arall (ynni, trafnidiaeth, dŵr, carthffosydd ac ati)
  • Dod â band eang cyflym a dibynadwy i’r rhannau hynny o Gymru sydd heb gyswllt ar hyn o bryd (h.y. NGA “gwyn”)

O gadarnhau’r cyllidebau, disgwylir y bydd oddeutu swm dangosol o £10,000,000 o gyllid CYFALAF ar gael ar gyfer cynlluniau FY202-23 yng Nghymru.

O gadarnhau’r cyllidebau, disgwylir y bydd oddeutu swm dangosol o £1,000,000 o gyllid REFENIW ar gael ar gyfer cynlluniau FY2020-23 yng Nghymru.

Gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno hyd at ddau gais.  Dylai ymgeiswyr nodi pa un ddylai gael blaenoriaeth.

Wrth baratoi cynlluniau, dylai awdurdodau lleol ystyried eu cyfrifoldebau hefyd o dan Adran 6 – y Ddyletswydd am Fioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae’r ddyletswydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth cyn belled ag y gwneir hynny mewn ffordd briodol sy’n gyson â’u swyddogaethau a’u bod drwy hynny, yn gwneud ecosystemau’n fwy cydnerth.  Ceir arweiniad ar y Ddyletswydd yn y fan hon: Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Rhan 1 – Adran 6 - Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau: canllawiau adrodd ar gyfer awdurdodau lleol

Os awdurdod lleol yw’r ymgeisydd, byddwn yn ei annog i weithio gydag awdurdodau lleol eraill a chyflwyno ceisiadau rhanbarthol. Rhaid nodi enw’r awdurdod sy’n arwain y cynllun. Yr awdurdod sy’n arwain fydd yn cael yr arian.

Os awdurdod lleol yw’r ymgeisydd, byddwn yn ei annog i weithio gyda mentrau cymdeithasol a mudiadau’r 3ydd sector.  Yr awdurdod lleol fydd yn gyfrifol am arfarnu pob mudiad y mae’n cynnig gweithio gydag ef, a sicrhau ei ddiwydrwydd dyledus.

Dylai ymgeiswyr holi barn y cymunedau a’r rhanddeiliaid y bydd y cynllun yn effeithio arnyn nhw. Dylent nodi yn eu cais y broses a ddilynwyd a’r adborth a gafwyd, neu os yw’r cynlluniau newydd ddechrau, sut y byddant yn gwneud hynny.

Bydd cynlluniau sy’n cynnwys ymyriadau a fydd yn cael effaith bositif ar dai cymdeithasol yn cael mwy o sgôr yn y broses arfarnu.

Byddwn yn ariannu costau cynnal gwaith a gwaith rhagbaratoi ar gyfer cynlluniau a chaiff costau monitro ac arfarnu cynlluniau eu cynnwys hefyd.  Bydd modd ystyried ariannu hefyd cynlluniau sy’n cynnwys gwaith rhagbaratoi yn unig.

Gellir gwneud cais ar gyfer prosiectau unigol neu ar gyfer pecyn o brosiectau cysylltiedig.  Fel rhan o’r cais ar gyfer pecyn o brosiectau, dylid cynnwys rhestr wedi’i chostio o’r prosiectau yn nhrefn eu blaenoriaeth.

Swm hyd at y swm a ddyrannwyd ar gyfer gwariant cymwys gwirioneddol y cynllun dan sylw fydd y swm gaiff ei dalu.  Ni chaiff mwy na’r swm a ddyrannwyd ei dalu a’r ymgeisydd fydd yn atebol am unrhyw orwariant.  Lle gwelir cynnydd yn y costau oherwydd amgylchiadau eithriadol y tu allan i reolaeth yr ymgeisydd, gallai Llywodraeth Cymru ystyried neilltuo arian ychwanegol.

Disgwylir i ymgeiswyr ddarparu’r cynlluniau dan sylw yn unol â’u cais.  Bydd angen adroddiadau cynnydd o dro i dro gydol y flwyddyn ariannol. Cynhwysir rhagor o wybodaeth am hyn yn y llythyr dyfarnu.

Gallai swyddogion Llywodraeth Cymru neu ei chynrychiolwyr enwebedig ofyn am gynnal cyfarfodydd neu ymweliadau â’r safle i drafod hynt y cynllun fel y gwelir yn dda. Os gwelir na fu cynnydd priodol, gellid tynnu’r cynnig ariannol yn ôl a gofyn i’r ymgeisydd ad-dalu’r arian sydd wedi’i hawlio ganddo hyd at y pwynt hwnnw.

Bydd cynlluniau sy’n cynnwys arian cyfatebol yn cael sgoriau uwch yn y broses arfarnu. Mwya’n y byd o arian cyfatebol a geir, ucha’n y byd y bydd y sgôr.

Rhaid i geisiadau nodi’n glir faint o arian cyfatebol a geir ac o ble y daw, a rhaid cadarnhau y bydd yr arian wedi cyrraedd i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau ym mlynyddoedd ariannol 2020-23.  Caniateir arian cyfatebol o ffynonellau mewnol ac allanol, a gallai gynnwys amser swyddog.

Ar gyfer grantiau y cyflwynir mwy nag un cais ar eu cyfer, dylid rhoi pob cynllun o fewn pob grant yn nhrefn ei flaenoriaeth.

Amodau a thelerau grantiau

Ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol a chyda chytundeb ymlaen llaw. bydd pob cais i ariannu gwaith yn 2021 i 2022 yn dangos bod unrhyw fater sy’n ymwneud â thir wedi’i unioni a bod pob gorchymyn wedi’i roi a chaniatâd wedi’i gael er mwyn i’r gwaith allu mynd yn ei flaen.

Bydd darparu cymorth cyfalaf i gynllun yn amodol ar gael ymrwymiad yr ymgeisydd i ysgwyddo costau refeniw a chynnal a chadw yn y dyfodol.

Monitro a gwerthuso

Rhaid monitro a gwerthuso pob cynllun.  Caiff ymgeiswyr gynnwys costau hyd at dair blynedd o fonitro yn eu cais ariannol, ond rhaid eu nodi’n glir.

Rhaid monitro’r cynlluniau am dair blynedd ar ôl eu cwblhau a rhaid cyflwyno adroddiad bob blwyddyn i Lywodraeth Cymru.  Fe welwch fwy o wybodaeth am y broses adrodd yn y llythyr dyfarnu.

Hyrwyddo

Caiff y cais gynnwys costau hyrwyddo’r cynlluniau, gan gynnwys arwyddion, deunydd a digwyddiadau, am hyd at dair blynedd ar ôl cwblhau’r cynllun.  Rhaid eu nodi’n glir.

Dylai unrhyw ddeunydd ar gyfer hyrwyddo cynlluniau sydd wedi’u hariannu’n llawn neu’n rhannol trwy’r gronfa hon gydnabod cyfraniad Llywodraeth Cymru at ddarparu’r cynllun dan sylw. Rhaid cyhoeddi unrhyw ddeunydd yn unol â Safonau’r Gymraeg.  Ni chaniateir cyhoeddiadau i’r wasg na chyhoeddusrwydd mewn cysylltiad â’r gronfa na defnyddio enw na brand Llywodraeth Cymru heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru.

Dogfennau’r broses ymgeisio

Dylai ymgeiswyr gyflwyno’u cais gan ddefnyddio’r ffurflen gais a ddarperir.  Caiff pob cynllun ei asesu trwy broses arfarnu.

Yr ymgeisydd fydd yn gyfrifol am sicrhau y cedwir at yr amserlen ac am roi gwybod am unrhyw newid i’r rhaglen waith neu’r proffil gwario.

Rhaid i gais ar gyfer cynllun gynnwys plan sy’n dangos y cynllun mewn cymaint o fanylder â phosibl yn y cam ymgeisio a map i ddangos cyd-destun y cynllun. Rhaid cynnwys cyfeirnod grid OS hefyd.

Rhaid i gais ar gyfer cynllun sy’n darparu band eang cyflym a dibynadwy gynnwys plan sy’n dangos y cynllun mewn cymaint o fanylder â phosibl yn y cam ymgeisio a map i ddangos yr eiddo yr effeithir arno, ynghyd ag UPRN yr eiddo hwnnw.

Gofynnir am y dogfennau ategol canlynol:

  • Mapiau a phlaniau ar gyfer cais cyfalaf (rhaid iddynt ddangos y mesurau arfaethedig yn glir)
  • Rhaid darparu cyn lleied â phosibl o wybodaeth ategol arall sydd yn eich barn chi’n hanfodol ar gyfer y cais ac yn ddienw.

Y broses arfarnu

Caiff ceisiadau eu hystyried gan banel o swyddogion a rhanddeiliaid perthnasol ym maes Seilwaith Digidol Llywodraeth Cymru.

Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch ariannu.

Mae meini prawf asesu’r grantiau ar gael mewn dogfen yma: Asesu Ceisiadau’r Gronfa Band Eang Lleol – Meini Prawf a Phwysoli Cymal 4.  

Cyflwyniadau

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 9 Rhagfyr 2021.

Rhaid cyflwyno copi electronig o bob cais i e-bost: NextGenerationBroadB1@gov.wales

Ni dderbynnir unrhyw wybodaeth newydd neu ddiwygiedig ar ôl y dyddiad uchod, oni bai bod Llywodraeth Cymru yn gofyn amdani.

Asesu ceisiadau’r Gronfa Band Eang Lleol: Meini Prawf a Phwysoli

Meini prawf

Pwysoliad (P)

Achos Strategol – ydy’r cynllun yn cyflwyno achos da dros newid? A yw’n cyd-fynd ag amcanion y grant? Ydy’r cynllun yn gyson â’r NGA?

10

Arloesi – A yw’r cynllun yn dangos arloesedd o ran technegol, rhoi’r cynllun ar waith neu gyllido?

5

Partneriaid – Ydy’r cynllun yn mynd ati’n fwriadol i chwilio am gyfleoedd i gydweithio â chyrff eraill yn yr ardal? Ydy’r cynllun yn cydweithio â mudiadau’r trydydd sector fel mentrau cymdeithasol, mudiadau gwirfoddol, elusennau?

5

Cydweithio – A fydd gwedd rhanbarthol i’r cynllun?

5

Achos Ariannol a Band Eang – ydy canlyniadau’r cynllun yn rhoi gwerth am arian o ran cyfanswm cost y cynllun? Beth yw cyfanswm cost y cynllun fesul eiddo ac a yw’n rhoi gwerth am arian ar sail safonau’r diwydiant/cynlluniau sy’n bod eisoes? Beth yw’r pris fesul metr o ran ôl-drosglwyddo data ac a yw’n rhoi gwerth am arian ar sail safonau’r diwydiant/cynlluniau sy’n bod eisoes?

10

Y Cysylltiad Presennol – A yw’r cynllun yn cael ei gynnal yn ardal awdurdod lleol sydd â llai o gysylltiad na’r arferol ar sail data PMR “gwyn”?

5

Yr Achos Rheoli – A fydd modd darparu’r cynllun ac a yw’r cerrig milltir wedi’u hegluro? A yw’r risgiau wedi’u nodi a’u lliniaru?

10

Arian cyfatebol – A oes arian cyfatebol ar gael? Sgôr: 0% = 0, 1%-9% = 1; 10%-19% = 2; 20%-29% =  3; 30%-39% = 4 ac ati

10

Yr Achos Masnachol – Sut bydd y cynllun yn cael ei gaffael? A yw’n hyfyw? A yw'n  cadw at yr arferion gorau ac at y gyfraith caffael/cystadlu?

10

Tai Cymdeithasol – A fydd y cynllun yn cael effaith bositif ar y band eang fydd ar gael ar gyfer tai cymdeithasol?

3

Monitro a gwerthuso – A yw’n cynnwys cynlluniau ar gyfer monitro a gwerthuso? A yw’r cynlluniau’n darparu gwybodaeth am fesur canlyniadau ac allbynnau?  A yw’r cynlluniau monitro a gwerthuso’n cyfateb i lefel y grant y gofynnir amdano?

5

Nodiadau

a) Sgorio

Ac eithrio cwestiwn 8, caiff ymgeiswyr eu hasesu yn unol â’r tabl yn Atodiad 1 isod:

b) Cyfrif

Lluosir y pwysoliad â sgôr yr asesiad, yna byddwn yn eu hadio at ei gilydd i roi sgôr gyfan pob ymgeisydd.  Caiff yr ymgeiswyr eu rhoi yn eu trefn yn ôl cyfanswm eu sgôr a chaiff yr arian ei rannu yn unol â hynny.

Atodiad: Cynllun marcio a chanllaw gwerthuso

Nodwch yn achos cwestiynau 1, 5, 7, 9 ac 11, bydd gofyn i’r ymgeisydd sicrhau sgôr o 60 neu fwy.

Gallu

Tystiolaeth a ddarparwyd

Sgôr

Sylw

Mae’r ymgeisydd yn debygol o allu diwallu anghenion yr awdurdod.

Mae’r dystiolaeth yn gyson, cynhwysfawr, cryf ac yn berthnasol i’r prosiect ym mhob agwedd ac yn gredadwy iawn (gyda ffynonellau annibynnol yn ei chadarnhau os medrir).

 

100

Cwbl hyderus

Mae’r dystiolaeth yn ddigonol (o ran ei hansawdd), yn argyhoeddi ac yn gredadwy.

80

Hyderus

Mae risg bychan na fydd yr ymgeisydd yn gallu diwallu anghenion yr awdurdod.

 

Mae bylchau mân yn y dystiolaeth neu nid yw i ryw raddau yn argyhoeddi, yn gredadwy neu’n berthnasol i’r prosiect.

60

Mân bryderon

Risg gymedrol na fydd yr ymgeisydd yn gallu diwallu anghenion yr awdurdod.

 

Ceir bylchau cymedrol yn y dystiolaeth.  Nid yw’n argyhoeddi.

40

Pryderon cymedrol

Risg arwyddocaol na fydd yr ymgeisydd yn gallu diwallu anghenion yr awdurdod.

Ceir bylchau mawr yn y dystiolaeth, nid yw’n argyhoeddi mewn llawer ffordd, nid yw’n gredadwy ac mae’n amherthnasol i raddau helaeth i’r prosiect.

 

20

Pryderon mawr

Ni fydd yr ymgeisydd yn gallu diwallu anghenion yr awdurdod.

Nid oes tystiolaeth neu mae’n gamarweiniol.

0

Annerbyniol