Bydd y gronfa yn helpu i gefnogi digwyddiadau i greu amgylchedd diogel a chroesawus ar gyfer pobl LHDTC+.
Cynnwys
Trosolwg
Rydym yn dymuno ehangu Cronfa Balchder Llawr Gwlad i ardaloedd mwy gwledig a threfi llai. Rydym am helpu i greu cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd a bod yn driw i’w hunain ledled Cymru.
Pwy all wneud cais i’r Gronfa hon?
Bydd y gronfa yn helpu digwyddiadau Balchder llai ledled Cymru i ymgysylltu â phobl LHDTC+ a chymunedau ehangach a’u cefnogi.
Dylid cael un ymgeisydd arweiniol a fydd yn gweithredu fel rheolwr y prosiect ac sy’n gyfrifol am reoli’r dyfarniad cyllid o ddydd i ddydd.
Nodau’r Gronfa
Dyma rai o dargedau’r Gronfa:
- cynnal digwyddiad Balchder LHDTC+ mewn lleoliad yng Nghymru, a all gynnwys cyfleoedd i berfformwyr ac artistiaid LHDTC+
- cynnal gwaith maes gyda chymunedau ehangach, gan ganolbwyntio ar archwilio gofodau mwy diogel a chefnogi gweithgareddau cymdeithasol newydd
- cyfrannu at ein hymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i Gymru fod y wlad fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop
Cymunedau LHDTC+ ac arweinyddiaeth
Fel rhan o’r gronfa hon, rydym am osod lleisiau cymunedau LHDTC+ llawr gwlad yn y man mwyaf blaenllaw wrth ddylunio a datblygu digwyddiadau. Rydym yn annog sefydliadau i ymgysylltu â chymunedau LHDTC+ wrth ddatblygu’r digwyddiad. Bwriad hyn yw helpu i gael mewnbwn cymunedau LHDTC+ i bwyllgor y digwyddiad a/neu rolau arweiniol.
Enghreifftiau o ddigwyddiadau Balchder a gefnogir gan y cynllun hwn
- Pride Y Barri.
- Pride y Bontfaen.
- Glitter Pride gan Glitter Cymru.
- Balchder Gogledd Cymru (Bangor).
- Pride in the Port (Casnewydd).
- Pride Abertawe.