“Mae’n rhaid i’r Celfyddydau a Diwylliant yng Nghymru oroesi’r pandemig hwn” meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
Mae Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth hanfodol i theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, orielau, gwasanaethau archifau a sinemâu annibynnol, ledled Cymru - sydd i gyd wedi profi colled ddramatig o refeniw oherwydd pandemig COVID-19.
Hyd yn hyn mae mwy na £30 miliwn wedi ei ddosbarthu drwy Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru, gyda Cyngor Celfyddydau Cymru yn neilltuo pecyn £20 miliwn i’r sector yn Mis Hydref.
Lansiodd Llywodraeth Cymru y Gronfa Llawrydd gyntaf yn y DU, gan benderfynu cynnwys gweithwyr llawrydd fel rhan allweddol o'r Gronfa Adferiad Diwylliannol a chydnabod y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae yn yr economi ac wrth greu a darparu profiadau diwylliannol. Hyd yma, mae wedi cefnogi 2,800 o weithwyr llawrydd gyda £7miliwn, bydd ceisiadau newydd drwy gam 3 yn cael eu cymeradwyo'n fuan.
Mae'r Gronfa Llawrydd wedi cefnogi ystod eang o weithwyr llawrydd yn y sector creadigol. Meddai Eifion Porter o Abertawe sydd yn grefftwr sy'n cefnogi dylunwyr setiau, artistiaid gweledol, lleoliadau diwylliannol a threftadaeth:
"Rwyf wedi bod yn gweithio o fewn y sector diwylliannol am y 10 mlynedd diwethaf ac yn cydweithio ag artistiaid gweledol a chwmnïau theatr, yn ogystal â chefnogi amgueddfeydd a sefydliadau cymunedol drwy ddylunio a chreu arddangosfeydd pwrpasol ar gyfer arddangosfeydd rhyngweithiol. Gyda’r cyfyngiadau, fe ddaeth fy holl brosiectau i ben ar unwaith, ac nid wyf wedi cael unrhyw incwm ers hynny. Mae cefnogaeth y Grant Llawrydd wedi bod yn achubiaeth yn ystod cyfnod ansicr iawn, ac rwy'n ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried y gwahanol fathau o weithwyr llawrydd creadigol yn ystod y pandemig hwn."
Mae'r Gronfa Adferiad Diwylliannol wedi rhoi cyfle i lawer gynllunio ymlaen llaw ac edrych i'r dyfodol. Dywedodd Henry Widdicombe, Gŵyl Gomedi Machynlleth:
"Yn syml, mae’r gefnogaeth oddi wrth y Gronfa Adferiad Diwylliannol gan Lywodraeth Cymru, wedi golygu’r gwahaniaeth rhwng ein sefydliad yn goroesi'r pandemig neu beidio. Collodd y celfyddydau eu gallu i weithredu dros nos yn gynharach eleni, ac mae'r ffydd a roddwyd ynom drwy'r gronfa hon yn golygu y byddwn yn gallu dychwelyd pan fydd yn ddiogel ac yn gyfreithlon i wneud hynny, ac yn rhoi'r gallu inni gynllunio ar gyfer y dyfodol pan y gellir cynnal digwyddiadau eto. Rydym yn croesawu'r holl gefnogaeth i'r celfyddydau yng Nghymru ac rydym yn gobeithio y gall y sector oroesi hyn diolch i raddau helaeth i’r cronfeydd hyn."
Mae Crochendy Nantgarw yn defnyddio’r cyllid i barhau â'r ddarpariaeth ar-lein. Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Crochendy Nantgarw, Dr Eurwyn Wiliam,
"Mae grantiau Llywodraeth Cymru drwy Grantiau Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Ardrethi Busnes Cymru drwy'r awdurdod lleol wedi ein galluogi i gwrdd â'n gwariant am y flwyddyn ac felly I oroesi, ond mae Cronfa Adfer Ddiwylliannol Cymru wedi bod yn fendith i ni wrth edrych i'r dyfodol. Ein hymwelwyr a'r dosbarthiadau a redwn mewn crochenwaith, gwydr a pheintio botanegol yw ein prif ffrydiau incwm a bydd y prosiectau y bydd y grant hwn yn eu hariannu yn ein galluogi i wella ein marchnata a chynnig hyfforddiant ar-lein i'r rhai nad ydynt yn gallu mynychu'r safle yn bersonol."
Mae lleoliadau cerddoriaeth lleol hefyd wedi elwa o'r gronfa. Meddai Alex Luck, Perchennog Diablos SA1, lleoliad cerddoriaeth sy'n hyrwyddo talent ifanc Cymru yn ardal SA1 yn Abertawe:
"Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac ymgysylltiad y sector creadigol mae gan Diablos SA1 ddyfodol erbyn hyn ac mae wedi rhoi'r brwdfrydedd i mi a'm staff agor yn rhannol a pharatoi i hyrwyddo cerddoriaeth fyw ar ôl Covid, mae'r cyfle hwn a roddwyd drwy'r cyllid wedi bod gwneud gwahaniaeth mawr i'r busnes ac wedi rhoi cyfle i'r lleoliad arallgyfeirio a rhoi hyder a dyfodol i'm gweithwyr yn y diwydiant hwn."
Meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:
“Yng Nghymru, rydym am wneud popeth bosib i sicrhau bod ein celfyddydau, diwylliant a chreadigrwydd yn goroesi’r pandemig hwn. I gydnabod pa mor galed y cafodd y sector ei daro, rydym wedi buddsoddi £10.7 miliwn yn ychwanegol i gyrraedd cynifer o rannau’r sector â phosibl. Mae hyn yn mynd â ni ymhell y tu hwnt i’r £59 miliwn o gyllid canlyniadol a gafwyd gan Lywodraeth y DU ym mis Gorffennaf, gan dynnu sylw at y gwerth a roddwn i gyfraniad y sector at fywyd Cymru a’r economi ehangach – ac mae’n rhaid i hynny barhau yn y dyfodol. Rydym yn cydnabod y bydd arnom angen proffesiynoldeb, profiad, brwdfrydedd a gweledigaeth y gweithwyr proffesiynol hyn i helpu inni ddod ynghyd ac ail-adeiladu wedi i’r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn ddod i ben.”