Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi hyd at £30 miliwn i gefnogi sector diwylliant amrywiol Cymru drwy'r pandemig sy’n parhau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Caiff y gronfa ei darparu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac awdurdodau lleol.

Darparodd y Gronfa Adferiad Diwylliannol, a lansiwyd yr haf diwethaf, £63.3 miliwn yn 2020 i 2021 i gefnogi theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, digwyddiadau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, orielau, sinemâu annibynnol a gweithwyr llawrydd.

Roedd yn cynnwys tair prif elfen, gweinyddodd Cyngor Celfyddydau Cymru gyllid o fwy na £18 miliwn i gefnogi 170 o sefydliadau, gan gefnogi theatrau ac orielau celf cenedlaethol a lleol. Mae dros 1,000 o swyddi wedi'u cefnogi.

Y Gronfa Gweithwyr Llawrydd oedd y cyntaf o'i bath yn y DU ac mae wedi darparu cyfanswm o £18 miliwn o gymorth grant i 3,500 o weithwyr llawrydd nad ydynt wedi gallu gweithio yn ystod y pandemig ac a fydd yn hanfodol i adferiad diwylliannol Cymru.

Darparodd yr elfen o'r gronfa a weinyddir gan Lywodraeth Cymru £27 miliwn i gefnogi'r sectorau diwylliant, creadigol, digwyddiadau a threftadaeth. Derbyniodd dros 500 o sefydliadau gyllid.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas:

"Rydym yn cydnabod yr heriau digynsail y mae'r pandemig yn eu cael ar wead diwylliannol bywyd Cymru ac rydym yn cymeradwyo'r gwydnwch a'r creadigrwydd a ddangosir.

"Rydyn ni i gyd eisiau bod yn ôl mewn theatrau, sinemâu ac orielau lleol cyn gynted â phosib, ond mae'n rhaid i ni aros yn amyneddgar. Yr ydym wedi bod yn onest ac yn realistig gyda phobl yng Nghymru o'r cychwyn cyntaf, yn hytrach na pheintio'r darlun mwyaf optimistaidd a allwn.

"Gyda hynny mewn golwg rydym wedi gwrando a gweithio gyda'r sectorau i roi'r pecyn cymorth ychwanegol hwn ar waith ac rwy'n sicr y bydd yn darparu rhyddhad i'w groesawu, yn ogystal â blociau adeiladu ar gyfer y dyfodol.

Bydd yr arian newydd yn agor ar gyfer ceisiadau o 6 Ebrill ac yn cael ei ddarparu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac awdurdodau lleol.