Neidio i'r prif gynnwy

Mae Sioe Frenhinol Cymru yn fwy arbennig nag arfer eleni a hithau’n cael ei chynnal ”go iawn” am y tro cyntaf ers tair blynedd. Cyn i’r Sioe ddechrau, dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, ei bod yn gyfnod pwysig i’r diwydiant ffermio ac i gymunedau gwledig ym mhob cwr o Gymru ac y byddai’r Sioe yn gyfle inni ystyried sut i sicrhau dyfodol hirdymor ar eu cyfer.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynhaliwyd rhith-ddigwyddiadau yn 2020 a 2021 ond eleni, bydd ffermwyr o bob cwr o Gymru yn dod at ei gilydd unwaith eto ar gyfer un o'r sioeau amaethyddol mwyaf yn Ewrop.

Dywedodd y Gweinidog:

Dw i’n gwybod nad fi yw’r unig un sy’n edrych ’mlaen yn fawr at y Sioe Frenhinol eleni.  Mae’n arbennig bob amser ond mae hynny’n fwy gwir nag arfer eleni wrth inni ddod at ein gilydd am y tro cyntaf ers tair blynedd. Allwn hi ddim gorbwysleisio pwysigrwydd y Sioe Frenhinol yng nghalendr cymdeithasol y Gymru wledig, a gwn fod peidio â chael mynd i’r Sioe a pheidio â gweld ffrindiau ers 2019 wedi bod yn anodd i lawer. Rydyn ni’n falch o gefnogi Cymdeithas Frenhinol Cymru eto eleni.

Yn ogystal â dathlu bywyd cefn gwlad, byddwn ni hefyd yn dod at ein gilydd ac yn trafod yr heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau. Yn ddiweddar, cyhoeddais i amlinelliad o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy rydyn ni’n bwriadu’i gyflwyno. Y prif ffocws imi yn y Sioe yw siarad â phobl am y cynigion hynny, sydd â’r nod o gryfhau'r diwydiant ffermio a'n cymunedau gwledig, a galluogi’n ffermwyr i fynd i'r afael â’r heriau'r sy’n gysylltiedig â’r argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd, ac i addasu er mwyn ymdopi â nhw.

Yr argyfwng hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf i ddiogelwch bwyd, yn fyd-eang ac yma yng Nghymru. Drwy weithio gyda'n gilydd, ac ystyried sut gallwn ni gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, gallwn ni sicrhau dyfodol llwyddiannus i'r diwydiant ffermio. Bydd Pafiliwn Llywodraeth Cymru yn y Sioe yn ganolbwynt i'r trafodaethau hyn, a dw i'n edrych ymlaen at glywed barn pobl.

Mae cynnyrch o Gymru mewn sefyllfa dda i fod yn un o’r rheini sy’n arwain yn fyd-eang ar gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Bydd llawer o enghreifftiau o'r bwyd rhagorol rydyn ni’n ei gynhyrchu yma yng Nghymru yn cael eu harddangos yn y Sioe Frenhinol, a dw i am weld y diwydiant hwn yn mynd o nerth i nerth. 

Rydyn ni i gyd yn gwybod am y rhybudd tywydd Oren prin ynglŷn â’r tymheredd eithriadol o uchel ar hyn o bryd. Hoffwn i annog pawb sy'n dod i fwynhau'r Sioe i gymryd gofal ychwanegol yn y gwres – yn enwedig pobl hŷn, plant ifanc iawn, a phobl â chyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes.

Cofiwch yfed digon o ddŵr a defnyddiwch y gorsafoedd dŵr, gan gynnwys yr un ym Mhafiliwn Llywodraeth Cymru. Treuliwch amser yn y cysgod a diogelwch eich hun rhag yr haul. 

Yn fwy na dim, bydd y Sioe yn ddigwyddiad cymdeithasol i lawer o bobl, a gobeithio y bydd pawb yn cael y cyfle i fwynhau'r digwyddiad gorau yn y calendr gwledig. Mae'n bleser gweld y Sioe yn ôl.