Neidio i'r prif gynnwy

“Rydyn ni’n croesawu’r newyddion gwych bod un o brif sioeau amaethyddol Cymru, Sioe Môn, yn dychwelyd yr wythnos hon” dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths. “Mae hyn yn newyddion da i’r diwydiant ffermio ac i’r gymuned wledig ehangach.”

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r sioe ddeuddydd yn cael ei chynnal rhwng 9 a 10 Awst, a dyma'r tro cyntaf iddi gael ei chynnal wyneb yn wyneb ers 2019.

Bydd y Gweinidog Materion Gwledig yn ymweld â'r sioe heddiw (dydd Mawrth, 9 Awst).

Dywedodd y Gweinidog:

"Rwyf bob amser yn edrych ymlaen at ddod i Sioe Môn ac rwy'n gwybod y bydd yn achlysur mwy arbennig nag arfer eleni.  Rwy'n falch iawn fy mod yn gallu bod yn bresennol yn berson a chwrdd â phobl wyneb yn wyneb unwaith eto, gan fwynhau awyrgylch y sioe.

"Mae'r sioe yn gyfle i'r diwydiant ffermio a'r gymuned wledig arddangos y gorau o fywyd cefn gwlad a rhai o'r cynhyrchion anhygoel o’r radd flaenaf rydyn ni’n ei gynhyrchu mor dda yma yng Nghymru.

"Un o’r prif bethau bydda i’n canolbwyntio arnyn nhw, fel yn y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf, fydd trafod y cynigion ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy amlinellol a gyhoeddwyd gen i fis diwethaf, ac annog ffermwyr i gymryd rhan yn y cydlunio, i'n helpu ni i ddatblygu manylion y cynigion diweddaraf.  Nod y cynigion hyn yw atgyfnerthu'r diwydiant ffermio a'n cymunedau gwledig, a galluogi ein ffermwyr i daclo ac addasu i heriau'r argyfwng natur a'r argyfwng hinsawdd ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. 

"Os hoffech chi ddysgu mwy a chyfrannu at y drafodaeth ewch i drelar Llywodraeth Cymru yn y sioe.

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y sioe ac rwy'n dymuno pob llwyddiant i'r digwyddiad."