Codi ymwybyddiaeth am y Gymraeg a byw bywyd mewn gwlad ddwyieithog – dyna fwriad y Llyfryn Croeso newydd sy’n cael ei lansio gan Weinidog y Gymraeg heddiw yng Nghanolfan Iaith Moelfre ar Ynys Môn.
Mae Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn a Menter Iaith Môn wedi cydweithio i ddatblygu’r llyfryn ‘Croeso i Gymru/ Croeso i’r Gymraeg’ ar gyfer unigolion a theuluoedd di-Gymraeg sy’n symud i’r ynys. Y nod yw sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth am y Gymraeg, y manteision o ddysgu’r iaith, a’r rôl mae’r Gymraeg yn chwarae ym mywyd dydd i ddydd trigolion yr ynys.
Fel un o’r ardaloedd yng Nghymru ble mae’r iaith ar ei chryfaf, mae hwn yn brosiect peilot, ac os yw’n llwyddiannus bydd yn cael ei ymestyn i ardaloedd eraill o Gymru.
Wrth lansio dywedodd Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:
“Mae’n bleser dod i Ynys Môn ar fy ymweliad cyntaf i’r gogledd fel Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i lansio’r llyfryn Croeso i Gymru/ Croeso i’r Gymraeg. Bydd y llyfryn yn help mawr i bobl sy’n symud i’r ardal i ymgartrefu a deall yr ardal. Gobeithio y byddent yn cael eu hysbrydoli i ddysgu mwy am y diwylliant lleol ac i ddechrau dysgu’r iaith.”
Meddai Helen Williams, Prif Swyddog Menter Iaith Môn:
“Rydym yn falch o allu croesawu’r Gweinidog yma i Moelfre heddiw. Mae hwn yn brosiect allweddol, ac rydym yn ddiolchgar i’r Llywodraeth a Chyngor Môn am eu cefnogaeth fel partneriaid wrth ddatblygu’r adnodd pwysig yma.
“Er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y gynulleidfa berthnasol byddwn yn targedu ysgolion y sir, ac mae nifer o arwerthwyr tai lleol eisoes wedi cytuno i ddosbarthu’r llyfryn. Y gobaith yw ymestyn hyn i sefydliadau a busnesau eraill ar draws yr ynys hefyd. Gyda nifer o ddatblygiadau economaidd sylweddol ar y gorwel – mae’n bwysig ein bod ni’n paratoi, nid yn unig i warchod y Gymraeg yma ar Ynys Môn ond hefyd i roi cymorth i’r rheiny sy’n symud yma i’w haddysgu am yr iaith a’r diwylliant lleol.”
Dywedodd deilydd portffolio Cyngor Sir Ynys Môn dros yr Iaith Gymraeg, y Cynghorydd Ieuan Williams:
“Mae’r Cyngor Sir yn croesawu’r llyfryn hwn. Bydd yn sicr o godi ymwybyddiaeth cynulleidfa ehangach am bwysigrwydd y Gymraeg a’i diwylliant mewn ardal sy’n un o gadarnleoedd yr iaith.”