Neidio i'r prif gynnwy

Mae croeso i fyfyrwyr a staff o wledydd yr Undeb Ewropeaidd ym Mhrifysgolion Cymru yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams heddiw (dydd Mawrth 5 Gorffennaf).

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth ymateb i’r pryderon yn sgil y refferendwm, aeth ati i ddweud sut mae pobl o wledydd yr Undeb Ewropeaidd sy’n astudio mewn prifysgolion yng Nghymru yn aelodau gwerthfawr ac angenrheidiol o’r gymuned addysg o hyd. Canmolodd yr Ysgrifennydd Addysg hefyd y staff o wledydd yr Undeb Ewropeaidd sy’n hanfodol i’r sector addysg uwch yng Nghymru.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Nid oes dwywaith bod ansicrwydd a phryder wedi deillio o’r refferendwm diweddar. Mewn rhai achosion mae’n bosibl iddo esgor ar deimladau o densiynau hiliol. Rydw i am ddweud yn gwbl glir a chadarn bod croeso i fyfyrwyr a staff o wledydd ledled yr Undeb Ewropeaidd o hyd ym Mhrifysgolion Cymru. I’r rhai hynny sydd yma eisoes yn astudio, ac i’r rhai hynny sy’n cynllunio i ddod yma, mae croeso i chi yma o hyd, mae ein sefydliadau dysg yma i chi o hyd.

“Bydd prifysgolion Cymru yn parhau i recriwtio ac addysgu myfyrwyr o wledydd ar draws y byd. Mae’r traddodiad hir a balch o dderbyn myfyrwyr o Ewrop i Gymru wedi ein helpu ni i feithrin perthynas â nifer o wledydd. Mae gan filoedd o bobl le arbennig yn eu calonnau i Gymru ar ôl bod yma yn astudio. Bydd ein gwlad yn parhau i fod yn lle goddefgar a diogel a fydd yn barod i dderbyn pobl o unrhyw genedl i ddilyn eu huchelgais academaidd. Gadewch i mi ddweud yn gwbl glir, nid ydym yn barod i oddef unrhyw ffurf ar gam-drin hiliol boed ar gampws ein prifysgolion neu yn y cymunedau ehangach y mae ein prifysgolion yn rhan ohonynt.

“Peidiwch ag anghofio bod staff o’r Undeb Ewropeaidd yn hanfodol i weithrediad ein prifysgolion. Rydyn ni’n llwyddo i ddenu rhai o’r bobl â’r meddyliau mwyaf praff ledled Ewrop i addysgu yma a hefyd, yr un mor bwysig, i wneud gwaith ymchwil y bydd pobl Cymru yn elwa arno, o ddatblygu meddyginiaethau i achub bywyd i ynni glân. Ni fydd unrhyw newid yn hynny o beth, a rhaid i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau na fydd unrhyw newid yn hynny o beth. Mae ein prifysgolion yn ganolog i’n dyfodol cymdeithasol ac economaidd ac maent yn ffynnu o ganlyniad i’r amrywiaeth ymhlith y bobl sy’n dod yma i’n prifysgolion.

“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o ddiogelu enw da Cymru fel lle cyfeillgar goddefgar i astudio a gwneud gwaith ymchwil o’r radd flaenaf. Beth bynnag y bo goblygiadau hirdymor y bleidlais, rydyn ni’n parhau i fod yn genedl groesawgar sy’n edrych tuag allan ac yn genedl sy’n gwbl ymrwymedig i rannu gwybodaeth ar draws ffiniau cenedlaethol.”