Cafodd aelodau Cymru o dîm Worldskills UK eu hanrhydeddu mewn digwyddiad arbennig yn y brifddinas yn ddiweddar
Cynhaliwyd digwyddiad ‘Croeso’n ôl’ yn yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd, i ddathlu llwyddiant y pedwar cystadleuydd o Gymru fu’n cynrychioli’r DU yn WorldSkills; cystadleuaeth sgiliau fwya’r byd, a gynhaliwyd yn Abu Dhabi.
Ar ôl serennu ar lefel genedlaethol yn rowndiau terfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ac yna yn WorldSkills UK, bu’r cystadleuwyr ifanc yn cynrychioli eu gwlad fel rhan o Team UK, gan fynd benben â phobl ifanc medrus o 77 o wledydd ar hyd a lled y byd.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i gydnabod doniau anhygoel y pedwar: Joseph Massey, 23 oed, o Goleg Cambria, a fu’n cystadlu yn y categori Peirianneg Awyrenneg, Alfie Hopkin, 18 oed o Lanelli, yn y categori Dylunio’r We, Elizabeth Forkuoh, 20 oed, o Lanelli, yn y categori Gwasanaethau Bwytai, ac Ethan Davies, 21 oed, o Fynydd Isa, yn y categori melino CNC.
Hefyd, diolchwyd i’w teuluoedd, colegau a chyflogwyr am gefnogi’r cystadleuwyr bob cam o’r ffordd i lwyddiant.
Meddai Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: “Rwy’n falch dros ben o groesawu’r criw ifanc dawnus hyn nôl adre, a dathlu eu llwyddiannau wrth gynrychioli Cymru. Mae Elizabeth, Alfie, Joseph ac Ethan yn glod i’w gwlad a’u diwydiannau.
“Mae’r digwyddiad hwn yn pwysleisio pwysigrwydd meithrin a chefnogi pobl fedrus yma yng Nghymru, er budd economi Cymru. Mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi llwyfan i ddoniau a diwydiannau Cymru.
"Maen nhw’n unigolion o safon byd, yn ysbrydoliaeth i weddill Cymru ac yn dangos ein bod ni’n genedl â safonau diwydiannol uchel gyda gweithlu hyfedr. Gobeithio y bydd y straeon llwyddiant hyn yn ysbrydoliaeth i unigolion eraill ddilyn eu hôl troed, a dod yn arbenigwyr yn eu meysydd eu hunain.”
Gyda chymorth Llywodraeth Cymru trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, mae’r cystadlaethau hyn yn hybu pwysigrwydd datblygu gweithlu hynod fedrus ac unigolion o safon byd.
Rhagor o fanylion: www.worldskillswales.org