Neidio i'r prif gynnwy

Unwaith eto bydd Cymru yn rhoi croeso i Rali Cymru GB pan fydd 160 o geir yn rasio ar ffyrdd byd-enwog Cymru yn ystod y penwythnos, yn rownd gynderfynol gyffrous Pencampwriaeth FIA Rali’r Byd

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Erbyn hyn, mae Rali GB Dayinsure wedi dod yn ddigwyddiad poblogaidd iawn yn y calendr chwaraeon. Bydd y rali’n dechrau ar ôl y seremoni agor yn Nir Prince, Tywyn, Conwy.  Gan siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd yn bresennol ar gyfer yr agoriad swyddogol:

“Eleni, mae Cymru wedi bod yn dathlu Blwyddyn y Chwedlau, gan ddod â’r gorffennol yn fyw mewn modd unigryw, dathlu campau arwyr newydd ac annog ymwelwyr i greu eu chwedlau eu hunain yng Nghymru.  Mae argoelion y bydd Rali Cymru GB 2017 yn ddigwyddiad trawiadol arall ac mae’n ben llanw priodol iawn i Flwyddyn y Chwedlau yng Nghymru.  Mae Cymru yn gartref i rai o rannau rali fwyaf enwog y byd. Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle inni arddangos tirweddau a golygfeydd godidog Cymru wrth i rai o arwyr y gamp brofi’u sgiliau a mynd i’r afael â’r heriau a ddaw i’w rhan yng nghefn gwlad ysblennydd Cymru.  Hoffwn estyn croeso cynnes iawn i Gymru i’r holl gystadleuwyr a gwylwyr. 

“Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r Rali yn dangos hefyd ein bod yn parhau’n ymrwymedig i’r digwyddiad hwn, sydd â chysylltiadau pwysig â’r sector ceir. Mae Cymru yn gartref i ryw 150 o gwmnïau sy’n gwneud cydrannau a systemau. Cyflogir 18,500 o bobl ym maes gweithgynhyrchu moduron ac mae trosiant blynyddol y sector yn £3.4 biliwn.”

Cyn yr agoriad swyddogol, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld ag arddangosfa ‘Y Glec Fawr’, a gynhelir ym Mhentref y Rali, ar gyfer codi ymwybyddiaeth y diwydiant ceir o STEM. Hwn yw canolbwynt cyffrous y digwyddiad ar gyfer holl dimau Rali Cymru GB yn ystod y digwyddiad.  Bydd mwy na 1,500 o fyfyrwyr sy’n astudio pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) mewn sefydliadau addysgol ledled Cymru a Swydd Gaer yn ymweld â ffair y Glec Fawr ddydd Iau a dydd Gwener. Bydd yr arddangosfa ar agor i bawb sy’n ymweld â Phentref y Rali, ac mae’n un ymhlith nifer o gyfleoedd rhad ac am ddim. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn dadorchuddio car sbort newydd Toyota sydd â chynllun lliwiau a ddyluniwyd fel rhan o gystadleuaeth i ysgolion.   

Dywedodd Ben Taylor, Rheolwr Gyfarwyddwr Rali Cymru GB Dayinsure:

“Mae’n ymddangos y byddwn ni’n cael digwyddiad ardderchog. Mae rhagolygon y tywydd yn argoeli’n dda ac mae’r gyrwyr eisoes wedi ymarfer gyrru drwy’r coedwigoedd. Mae cyfle i weld cenhedlaeth newydd o geir rasio, yn ogystal â’r frwydr rhwng y pencampwyr, wedi denu llawer o wylwyr i Gymru. Mae mwy o docynnau wedi’u gwerthu’n barod o’i gymharu â’r llynedd, sy’n golygu y bydd llawer o wylwyr ym mhob cymal. Mae’n mynd i fod yn benwythnos cyffrous iawn ac mae’n rhaid diolch i Lywodraeth Cymru am ei brwdfrydedd a chymorth parhaus."