Neidio i'r prif gynnwy

Bydd croeso cynnes i Eisteddfod yr Urdd, a fydd yn cael ei chynnal yn y Gogledd, wrth i'r mudiad ddathlu ei chanmlwyddiant, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyma’r Eisteddfod yr Urdd gyntaf i’w chynnal wyneb yn wyneb ers pandemig Covid, ar ôl iddi gael ei chynnal yn rhithiol am ddwy flynedd. Mae mynediad i Eisteddfod yr Urdd yn rhad ac am ddim eleni hefyd, ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai cyllid ar gael at y diben hwnnw.

Eisteddfod yr Urdd yw'r ŵyl ieuenctid fwyaf yn Ewrop, ac ymunodd y Prif Weinidog â phobl ifanc yn Norwy yn gynharach yn y mis i hyrwyddo ei neges ryngwladol o heddwch ac ewyllys da.

Cyn ymweld ag Eisteddfod yr Urdd ddydd Llun, dywedodd y Gweinidog: "Mae hon yn flwyddyn arbennig iawn i'r Urdd am sawl rheswm.  Mae'n dathlu’i chanmlwyddiant, sy'n gamp ryfeddol, ac mae pobl yn gallu dod ynghyd yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf ers dwy flynedd a mwy.

Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnig mynediad am ddim i’r digwyddiad eleni. Dyma gyfle inni ddangos ein gwerthfawrogiad o waith yr Urdd dros y ganrif ddiwethaf.

Mae'r Urdd yn fudiad sy'n gweithio ar y llwyfan rhyngwladol ac mae’n cynnig croeso i bawb beth bynnag eu cefndir. Pa ffordd well o ddathlu hynny na chynnig mynediad am ddim i bawb?

Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynd i’r Eisteddfod eleni ac rwy'n gwybod bod croeso cynnes iawn i'r ŵyl yn Sir Ddinbych ac ar draws y Gogledd.