Mae tua 100,000 o bobl yn byw gyda chyflwr niwrolegol hirdymor yng Nghymru.
Ac yntau'n siarad am y datganiad blynyddol o gynnydd o ran cyflyrau niwrolegol ar gyfer 2016-17, dywedodd Mr Gething:
“Mae angen i bobl â chyflyrau niwrolegol gael mynediad amserol i ofal o ansawdd uchel, lle bynnag maen nhw'n byw. Mae ein cynllun yn anelu at gyflawni hynny, gyda chymorth cyllid ychwanegol.
“Rwy'n falch bod y datganiad blynyddol wedi dangos cynnydd o ran gwella'r gwasanaethau i bobl sydd â chyflwr niwrolegol. Mae enghreifftiau gwych ar gael o welliannau i dimau amlddisgyblaethol ar hyd a lled Cymru er gwaethaf ddelio â galw cynyddol a mwy cymhleth am wasanaethau.
“Yn arbennig, cafwyd gostyngiad yn nifer y derbyniadau brys a faint o amser y mae cleifion yn ei dreulio yn yr ysbyty ar gyfartaledd ar ôl cael eu derbyn i'r ysbyty. Hwn yw prif ganolbwynt ein cynllun ac mae'n dangos bod cleifion a'r GIG yn rheoli cyflyrau pobl yn llawer gwell erbyn hyn.
“Mae cynnydd yn cael ei wneud hefyd ar sefydlu gwasanaeth niwro-adsefydlu ymatebol ac effeithlon i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal y maen nhw ei angen mor lleol â phosibl.”
Mae tua 100,000 o bobl yn byw gyda chyflwr niwrolegol hirdymor yng Nghymru. O'r rheiny, amcangyfrifir bod dros 41,000 o bobl yng Nghymru'n dioddef o glefyd Parkinson, epilepsi, sglerosis ymledol, nychdod cyhyrol, clefyd niwronau motor neu parlys yr ymennydd. Yn ogystal, cafodd 10,000 yn ychwanegol o bobl eu derbyn i'r ysbyty am anaf i'r ymennydd.