Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Economi, wedi cwrdd â grŵp o asiantwyr teithio o Japan sydd yng Nghymru ar gyfer taith pum niwrnod o amgylch y wlad i gasglu syniadau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cynhaliwyd y cyfarfod yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant - ar ddiwrnod llawn cyntaf y grŵp yng Nghymru - ar ôl ymweld â Chaerdydd ar gyfer gêm rygbi Cymru yn erbyn Japan ddydd Sadwrn. 

Grŵp o asiantaethau teithio dylanwadol allweddol yw Cymdeithas Asiantaethau Teithio Japan (JATA).  Yn 2015, fe wnaethant ddewis Conwy fel un o'r 30 lle mwyaf prydferth yn Ewrop a sbardunodd hyn ymgyrch ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, JATA a phartneriaid lleol i hyrwyddo Cymru a Chonwy. 

Mae ymchwil flynyddol Croeso Cymru gyda diwydiant teithio'r DU a thramor yn dangos bod gweithio gyda chwmnïau o Japan bellach yn arwain at ganlyniadau. Gwariwyd oddeutu £42,000 yn 2015, er gwaethaf gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr sy'n dod i'r DU o Japan yn gyffredinol. 

Mae ystadegau a ddarperir gan JATA hefyd yn dangos yr effaith gadarnhaol y cafodd gwobr 2015 ar nifer yr ymweliadau â Chonwy.  Ar ôl ennill y wobr, gwnaeth 8 Asiantaeth Teithio gynnwys Conwy yn eu teithiau rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2016 a arweiniodd at gyfanswm o 592 o ymwelwyr - o'i gymharu â dim un ymwelydd ar deithiau JATA o Japan yn y chwe mis blaenorol. 

Cafodd Ysgrifennydd yr Economi gyfarfod ag Is-Lywydd JATA, Jungo Kikuma, sydd hefyd yn gadeirydd Asahi Travel International Inc. yn ystod ei ymweliad â Japan ym mis Hydref.  Wrth groesawu'r grŵp nôl i Gymru, dywedodd: 

"Roedd gêm dydd Sadwrn yn gyfle arall i ni ddathlu'r cysylltiadau gwych sydd gan Gymru â Japan – yn ogystal â'r ffaith fod ein hallforion i Japan yn cynyddu o un flwyddyn i'r llall. Rydym hefyd yn gweld mwy o ddiddordeb yng Nghymru fel cyrchfan gwyliau.   

"Mae ymweliad JATA yn dilyn y newyddion gwych a gawsom fis diwethaf pan enwyd gogledd Cymru yn un o'r deg lle gorau yn y byd i ymweld ag ef yn 2017. Mae hyn yn gamp i ogledd Cymru ac mae'n offeryn marchnata gwych ar gyfer blwyddyn nesaf. 

"Mae ffigurau ymwelwyr tramor chwe mis cyntaf 2016 yn edrych yn gadarnhaol iawn gyda thwf o 15% yn nifer yr ymweliadau o dramor. Mae'r ffigurau hefyd yn dangos er bod ychydig llai o wariant ar draws y DU yn gyffredinol, bod gwariant ymwelwyr tramor yng Nghymru wedi cynyddu dros 8%.  Mae ymweliadau ymgyfarwyddo gan gwmnïau teithiau tramor, yn ogystal â phresenoldeb mewn digwyddiadau allweddol y diwydiant teithio megis y World Travel Market yn ddiweddar, yn bwysig iawn er mwyn ein helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr tramor sy'n dod i Gymru a'n cyfran ni o ymwelwyr tramor sy'n dod i'r DU.

"Mae'r proffil uwch sydd gan Gonwy yn Japan yn dilyn y wobr gan JATA yn 2015 yn llwyfan gwych i ni hyrwyddo Cymru mewn marchnad eithaf newydd ac i ledaenu'r neges am yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal y berthynas gyda'r grŵp dylanwadol hwn.   

"Flwyddyn nesaf fydd y cyfnod perffaith i ymwelwyr o Japan ddod i Gymru i'n helpu i ddathlu'r Flwyddyn Chwedlau yn 2017.  Yn ystod y flwyddyn rydym yn gobeithio dod â'r gorffennol yn fwy byw nag erioed o'r blaen a chreu chwedlau Cymreig newydd."