Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi dros £5 miliwn ar gyfer gweithgarwch newydd i annog a chefnogi entrepreneuriaeth yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Llywodraeth Cymru, wedi'i hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn buddsoddi dros £4 miliwn i weithio gyda'r byd academaidd, diwydiant a phartneriaid lleol i sefydlu pedwar o Ganolfannau Busnes newydd.

Bydd y canolfannau newydd yng Ngogledd-orllewin Cymru, y Canolbarth, Cymoedd y De-orllewin a Chymoedd y De-ddwyrain, a byddant yn anelu at ddechrau rhagor o weithgarwch entrepreneuraidd sy'n cael ei sbarduno gan arloesedd yn eu hardaloedd.   

Bydd sefydlu'r canolfannau newydd yn dilyn gwaith sydd eisoes wedi dechrau i ddatblygu Canolfan Busnes Wrecsam, ac mae disgwyl creu 100 o fentrau newydd a 260 o swyddi newydd dros y ddwy flynedd nesaf. 

Bydd pob un o'r pum canolfan yn rhoi lle i unigolion a chwmnïau rwydweithio, arloesi, sefydlu eu mentrau a defnyddio amrywiol wasanaethau cymorth megis "angylion" busnes, cyngor ar gyflwyno syniadau, gweithdai a chymorthfeydd busnes. 

Bydd y pum canolfan gyda'i gilydd yn anelu at greu o leiaf 700 o fentrau newydd a 1160 o swyddi newydd, ac mae disgwyl i nifer o'r swyddi hyn dalu cyflogau sy'n uwch na'r cyfartaledd i Gymru. 

Yn ogystal â chyllid ar gyfer y canolfannau, mae Gweinidog yr Economi hefyd wedi cyhoeddi £1 miliwn ar gyfer prosiectau entrepreneuriaeth cymunedol fydd yn targedu pobl sy'n byw mewn cymunedau llai breintiedig ledled Cymru. 

Bydd y prosiectau hyn, a ddarperir yng nghanol y gymuned, yn golygu y gall unigolion edrych ar sut y gallai bod yn hunangyflogedig fod o fudd iddynt, gan wella eu bywydau a'u helpu i greu a datblygu syniadau busnes ymarferol, goresgyn rhwystrau a datblygu sgiliau trosglwyddadwy. 

Meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

"Rydym yn gwybod bod cefnogi ac annog entrepreneuriaeth ledled Cymru yn hollol hanfodol os ydym i lwyddo i ddatblygu economi Cymru.  

"Bydd y cyllid ychwanegol hwn ar gyfer entrepreneuriaeth yn ein galluogi i ddatblygu pedair canolfan fusnes newydd yng Ngogledd-orllewin Cymru, y Canolbarth, Cymoedd y De-Orllewin a Chymoedd y De-ddwyrain. 

"Bydd y canolfannau yn ychwanegol i'r ganolfan fusnes yn Wrecsam sydd eisoes yn cael ei sefydlu a bydd yn sicrhau y gall entrepreneuriaid ym mhob rhan o Gymru ddod o hyd i'r lle a'r cymorth y maent eu hangen i droi eu syniadau'n fusnesau gwirioneddol.

"Mae'r dystiolaeth yn dangos inni bod y dull hwn o gydweithio o fewn canolfannau yn dod â llu o fanteision ehangach i'r ardaloedd sydd o amgylch y canolfannau, sy'n newyddion da iawn i economïau rhanbarthol Cymru. 

"Dwi hefyd yn falch o gyhoeddi oddeutu £1 miliwn ar gyfer prosiectau entrepreneuriaeth cymunedol. 

"Defnyddir y cyllid hwn i helpu a datblygu entrepreneuriaid newydd allai fod angen mwy o gymorth i drefnu a datblygu eu cynlluniau ar gyfer hunan-gyflogaeth 

"Dwi'n gobeithio y bydd y cymorth arbenigol hwn, sy'n cael ei ddarparu i rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig yn cynnig y cyngor a'r datblygiad sydd ei angen i ddatblygu entrepreneuriaid llwyddiannus a brwdfrydig."