Neidio i'r prif gynnwy

Mae Croeso Cymru a phartneriaid yn bresennol yn sioe fwya'r byd ar gyfer y farchnad deithio - ITB Berlin

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y bwriad yw magu perthynas gyda'r farchnad deithio mewn marchnadoedd pwysig a dangos yr hyn sydd gan Gymru i'w chynnig fel cyrchfan wyliau ar gyfer 2020 a thu hwnt.

  • Presenoldeb rhyngwladol yn bwysicach nag erioed
  • Cyhoeddi 2020 fel Blwyddyn Awyr Agored

Yn ystod y digwyddiad, bydd Croeso Cymru yn cyhoeddi mai ei blwyddyn thematig nesaf o 2020 fydd Blwyddyn Awyr Agored - fydd yn cadarnhau cryfderau Cymru o antur, diwylliant a'r awyr agored.

Bydd Blwyddyn Awyr Agored yn dilyn ymlaen o Blwyddyn Darganfod Cymru 2019, pan bod ymwelwyr yn cael eu gwahodd i ddarganfod rhywbeth newydd am Gymru. Mae 2019 wedi dechrau'n dda iawn, gyda'r Sunday Times Magazine yn dewis Cymru fel un o sêr newydd 2019. Mae Cymru hefyd wedi cael ei rhoi yn 10fed mewn rhestr gan Rough Guides o’r lleoedd harddaf yn y byd ac wedi ei henwi fel y 'next big thing' yng Nghylchgrawn Delta Sky sy'n cyrraedd 6 miliwn o deithwyr, a'r wythnos diwethaf enwodd TripAdvisor dri o draethau Cymru mewn rhestr o’r 10 o draethau gorau’r DU:- Barafundle, Rhosili a Niwbwrch.

Mewn ymateb i adborth gan y diwydiant, bydd y thema o 2020 ymlaen yn para am 2 flynedd. Mae'r blynyddoedd thematig wedi'u cefnogi gan y diwydiant, ac maent yn canolbwyntio'n glir ar gydweithio anewid cynnyrch ledled Cymru - gyda cyfnod hwy yn rhoi mwy o gyfleoedd ar gyfer prosiectau a syniadau mwy.

Meddai yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

"Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod Cymru yn enwog am ei golygfeydd a'i natur - a bydd y thema yn ychwanegu at y cryfder hwn drwy arddangos ein tirweddau naturiol atyniadol.

Mae Cymru hefyd bellach yn adnabyddus am ei hantur arloesol, a bydd Blwyddyn Awyr Agored hefyd yn rhoi platfform ar gyfer arddangos bod ein tirwedd anhygoel, cyffrous yn cynnig gweithgareddau ac anturiaethau. Fe wyddom fod cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yn cynnig manteision sylweddol o ran ein hiechyd, ac fe fydd yr ymgyrch yn annog pobl o Gymru a'n hymwelwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gwneud lles i’r meddwl a’r corff.

Nid dim ond trafod y mannau agored ydy ni chwaith - mae ein tirwedd wedi'i greu gan ein pobl a'n cymunedau, a bydd dathlu'r berthynas rhwng diwylliant, treftadaeth, iaith a lle yn rhan fawr o'rflwyddyn."

Mae'r datblygiadau newydd fydd yn agor yn ystod 2020 wedi cael ei ariannu trwy rhaglen cyllido’r UE, Cyrchfan Denu Twristiaeth, gan gynnwys safle Dŵr Cymru, Llys y Frân yn y gorllewin. Bydd Llysy Frân yn datblygu yn barc sy’n cynnig gweithgareddau awyr agored ar dŵr ac ar y lan ac yn safle hamdden addysgol.

Yn ogystal â hyn, bydd Porthcawl a Saundersfoot yn gwella eu profiadau drwy fuddsoddi mewn canolfan forol ac arfordirol sy'n darparu mwy o bethaui'r ymwelwyr eu gwneud a'u gweld. Bydd Pentywyn yn agor canolfan ymwelwyr a llety eco newydd.

Bydd Blwyddyn Awyr Agored yn dathlu tirweddau naturiol neilltuol Cymru sy'n llawn anturiaethau arloesol a diwylliant unigryw, cyfoes - bydd Llwybr yr Arfordir sy'n 870 milltir; tri Parc Cenedlaethol;600 o gestyll; Gwarchodfeydd Awyr Dywyll ac Ardaloedd y Harddwch Naturiol Eithriadol i gyd yn cael eu mwynhau yn 2020.

Mae bod yn bresennol yn ITB Berlin yn dilyn ymweliad llwyddiannus â Vakantiebeurs yn Utrecht yn ystod mis Ionawr, yn ogystal â chonfensiwn UKInbound. Mae gwaith Croeso Cymru gyda phartneriaid rhyngwladol a bod yn bresennol mewn digwyddiadau amlwg yn rhan bwysig o greu perthynas ac o arddangos yr hyn sydd gan Gymru i'w chynnig.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

"Ni fu erioed yn bwysicach i bontio Cymru â'r byd yn ddiwylliannol, yn ddigidol ac yn gorfforol. Mae'r diwydiant teithio yn bwysig iawn wrth inni geisio hybu twristiaeth i Gymru, yn enwedig ein cyfran o ymweliadau rhyngwladol. Mae meithrin cysylltiadau â chwmnïau teithio yn rhan allweddol o'r gwaith hwn.

Yn ogystal â chael mwy o ymwelwyr ac arian i Gymru, gall y diwydiant teithio ein helpu i fynd i'r afael â heriau penodol, megis sicrhau bod ardaloedd ledled y wlad yn cael ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn, a chael ymwelwyr i dreulio mwy o amser yng Nghymru. Bydd hynny yn arwain at fwy o wariant".

Mae gwaith ymchwil yn dangos manteision hir-dymor gwaith Croeso Cymru gyda'r Diwydiant Teithio. Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer 2017 yn dangos 24% o gynnydd yng ngwerth busnes y 100 o'r prifweithredwyr teithiau sydd wedi'u dylanwadu gan Croeso Cymru. Roedd y ffigur hwn ar gyfer 2017 yn £11.2 miliwn o gymharu â £9 miliwn yn 2016. Cyfanswm gwerth y busnes i Gymru a ddarparwyd gan y grŵp hwn yn 2017 oedd £18.1 miliwn.