Mae'r gwneuthurwr batri byd-eang GS Yuasa yn creu 105 o swyddi newydd ac yn diogelu 360 o swyddi eraill yn ei ffatri gynhyrchu yng Nglynebwy diolch i hwb gwerth £2.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r cwmni'n un o brif weithgynhyrchwyr y byd o asid plwm a reoleiddir gan falfiau (VRLA) a batris Lithiwm. Bydd yr arian yn helpu'r cwmni i gynyddu’r cynhyrchiant a gweithredu prosesau uwchraddio fel eu bod yn defnyddio ynni'n fwy effeithlon.
Mae GS Yuasa yn arwain o fewn y farchnad ar gyfer ystod eang o fatris cerbydau a diwydiannol, ac mae modd eu defnyddio at ddibenion mor amrywiol â cheir a charafanau i ddiogelwch a thelathrebu.
Mae eu ffatri yng Nglynebwy yn cynhyrchu batris asid plwm wrth gefn a reoleiddir gan falfiau a ddefnyddir yn bennaf mewn systemau Cyflenwad Pŵer Di-dor (UPS) a marchnadoedd diwydiannol eraill. Yn ystod pandemig y coronafeirws, roedd y batris hyn hefyd yn rhoi pŵer i ysbytai enfys y GIG a phrosiectau meddygol allweddol eraill.
Bydd llinell gynhyrchu newydd yn cael ei gosod i gynhyrchu modiwlau batri Lithiwm newydd, gyda phrosesau allweddol yn cael eu gwneud yn rhai lled-awtomataidd yng nghanolfan y cwmni ar Ystâd Ddiwydiannol Rasa.
Bydd y cymorth ariannol, sy'n dod o Gronfa Dyfodol yr Economi Llywodraeth Cymru, yn allweddol i greu cyfleoedd gwaith newydd a diogelu dyfodol hirdymor y safle.
Dywedodd Andrew Taylor, Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Swyddog Gweithredol GS Yuasa Battery Europe Ltd:
"Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn newyddion gwych i ddatblygiad a thwf parhaus ein busnes batris diwydiannol ledled Ewrop. Mae ein cyfleuster gweithgynhyrchu yng Nglynebwy yn cynhyrchu dewis mwyaf blaenllaw Ewrop o fatris asid plwm diwydiannol a reoleiddir gan falfiau sy’n uchel eu bri o ran eu perfformiad uchel, dibynadwyedd ac ansawdd dros y 40 mlynedd diwethaf.”
"Bydd yn ein helpu i ddiogelu ein gweithlu presennol o dros 360 o weithwyr a bydd hefyd yn ein cynorthwyo i greu dros 100 o swyddi lleol newydd wrth i ni ehangu ein gweithrediadau dros y tair i bum mlynedd nesaf.
"Mae ein cynlluniau uchelgeisiol yn cynnwys gosod offer cynhyrchu newydd sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, ffynonellau ynni adnewyddadwy a sefydlu cyfleuster gwasanaeth ac ymchwil a datblygu ar gyfer modiwlau batri Lithiwm o'r radd flaenaf. Bydd hyn oll yn cyfrannu at bolisi byd-eang GS Yuasa o leihau allyriadau carbon ac yn helpu i adeiladu cymdeithas fwy cynaliadwy."
Ers 1981 mae GS Yuasa wedi bod yn gyflogwr allweddol ym Mlaenau Gwent, ac mae nifer cynyddol o gwmnïau eraill sy'n gysylltiedig â batris wedi ymuno ag ef, gan gynnwys rhai fel Envirowales, PMB Battery a Deragallera.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Mae GS Yuasa yn gyflogwr hynod bwysig yng Nglynebwy ac mae'r newyddion bod y busnes yn buddsoddi yn ei ddyfodol i'w groesawu'n fawr.
"Rwy'n falch iawn ein bod yn cefnogi cynlluniau'r cwmni ac y bydd cymaint o swyddi newydd o safon yn cael eu creu.
"Mae ein Cronfa Dyfodol yr Economi yn parhau i fod yn hanfodol i gefnogi busnesau ledled Cymru a bydd yn allweddol i helpu busnesau fel GS Yuasa i ffynnu ar ôl pandemig. Bydd hyn yn amhrisiadwy wrth i'r cwmni baratoi i ymateb i heriau a chyfleoedd yn y dyfodol.
"Mewn cyfnod economaidd mor eithriadol o anodd, bydd yr hwb ariannol hwn hefyd yn hwb gwirioneddol i drigolion a'n gweledigaeth uchelgeisiol ond cyraeddadwy ar gyfer Cymoedd Technoleg er mwyn sbarduno twf ar draws blaenau'r cymoedd. Mae ymchwil a datblygu, arloesi a datgarboneiddio wrth wraidd ein rhaglen Cymoedd Technoleg, felly mae'r gwaith arloesol y mae GS Yuasa yn ei wneud yn enghraifft wych o’r camau hyn ar waith.
"Mae cyhoeddiad heddiw hefyd yn cefnogi gweledigaeth ein Cenhadaeth Cydnerthedd ac Ailstrwythuro Economaidd i sicrhau bod ein heconomi'n fwy llewyrchus, teg a gwyrdd nag erioed o'r blaen."