Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r cwmni Dresd, sy'n cynnig gwasanaethau cynaliadwy er budd yr amgylchedd ar gyfer cynyrchiadau, wedi sefydlu math newydd o gyfleuster stiwdio yn Ne Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Defnyddiodd Llywodraeth Cymru fodel a gynlluniwyd i helpu busnesau sy'n dymuno sefydlu safle yng Nghymru, a darparodd cyn weithdy'r RAF a oedd ar gael ar Barc Busnes Picketson yn Sain Tathan. Cytunwyd ar  rent masnachol cystadleuol ar gyfer prydles 10 mlynedd a oedd yn adlewyrchu'r gwaith y byddai angen ei wneud er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn addas i'r diben.

Mae'r gweithdy'n cynnwys cyfanswm o 4,500 metr sgwâr (49,000 troedfedd sgwâr) o ofod mewnol, a hefyd 13,380 metr sgwâr arall (144,000 troedfedd sgwâr) o ofod ffilmio y tu allan. Mae hefyd yn cynnwys nifer o gyfleusterau ychwanegol, gan gynnwys unedau, lle storio, ystafelloedd a swyddfeydd y mae modd eu haddasu at ddibenion cynyrchiadau.

Mae Dresd wedi gweithio o fewn y diwydiant ffilm a theledu, gan gynnig gwasanaethau cynaliadwy i gynyrchiadau, ers 2012. Mae eu gwaith i leihau gwastraff o fewn y diwydiant wedi'i gwneud hi'n bosibl i hyd at 99% o setiau gael eu hailgylchu a'u hailddefnyddio, gan arbed arian i'r cynyrchiadau y maent wedi gweithio arnynt.

Eu nod yw sicrhau bod eu stiwdios yn lleihau ôl troed carbon cynyrchiadau. Mae modd i'r bobl sy'n ffilmio yn y stiwdios elwa ar eu gwasanaethau costeffeithiol, unigryw a chynaliadwy.

Ers i Dresd symud i mewn i'r stiwdios maent wedi cael eu defnyddio ar gyfer ffilmio Requiem, sef cydgynhyrchiad diweddar gan BBC One a Netflix. Yn y gorffennol maent wedi cael eu defnyddio ar gyfer cynyrchiadau teledu fel Doctor Who, Torchwood a Sherlock a ffilmiau fel Mr. Nice a The Killer Elite.

Maent yn cyflogi'n rheolaidd weithwyr sydd wedi'u cofrestru ag asiantaethau cyflogaeth lleol ac maent yn edrych ymlaen at groesawu dau aelod arall o staff pan fydd y swyddi ar gael yn ddiweddarach eleni. Maent hefyd mewn cysylltiad rheolaidd â cholegau a myfyrwyr lleol sy'n awyddus i ennill profiad o fewn y sector creadigol.

Meddai'r Rheolwr Gyfarwyddwr, Lynn McFarlane:

"Ein nod yw darparu hyb cynaliadwy ar gyfer cynyrchiadau teledu a ffilm, lle gall crëwyr ffilmiau fanteisio ar ddeunyddiau sydd eisoes wedi'u defnyddio ar gyfer eu gwaith, gan leihau'r angen i adeiladu setiau newydd sbon.

"Byddai'r rhan fwyaf o'r eitemau a achubwyd wedi mynd i gael eu tirlenwi, ond maent bellach yn rhan o gartref o bropiau ar gyfer y diwydiant cynhyrchu. Maent ar gael ar gyfer cynyrchiadau teledu a ffilm a hefyd ar gyfer cynyrchiadau theatrig, digwyddiadau a'r diwydiant dylunio mewnol.

"Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am ein helpu i sefydlu'r hyb sy'n cynnig y lle sydd ei angen arnom i gynnig ein gwasanaethau i gwmnïau ymhob rhan o'r diwydiannau creadigol."


Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

"Dyma enghraifft wych o'r cymorth y gallwn ei gynnig i fusnesau newydd a busnesau sydd eisoes wedi'u sefydlu sy'n cydnabod y manteision y gallwn eu cynnig.

"Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cynorthwyo Dresd i sefydlu hyb yng Nghymru.

"Mae cynyrchiadau ffilm a theledu sydd wedi'u creu yng Nghymru ac sydd wedi'u cyllido gan Lywodraeth Cymru wedi gwario dros £100 miliwn yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf. Dyma fuddsoddiad mewn economïau lleol, gan greu gwaith uchel ei werth i fusnesau ac unigolion Cymreig. Heb unrhyw amheuaeth mae galw o fewn y sector creadigol am y gwasanaethau cynaliadwy y gall Dresd eu cynnig.

"Bydd y stiwdios yn galluogi'r cwmni i symud ymlaen i faes gwaith newydd, gan greu hyb newydd a chynaliadwy ar gyfer ailgylchu setiau cynyrchiadau. Dyma'r hyb cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae'n syniad clodwiw iawn ac yn gryn gyflawniad. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol."