Neidio i'r prif gynnwy

Pryd a sut i greu dolenni o fewn brawddegau yn y cynnwys ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i'w defnyddio

Dylech ddefnyddio dolenni mewnol i wneud y canlynol:

Sut i'w defnyddio

Ymgorffori dolenni mewnol perthnasol

Pan fyddwch yn ymgorffori dolenni mewnol yn eich cynnwys, dylech:

Ysgrifennu testun dolenni mewnol

Pan fyddwch yn ysgrifennu testun dolenni mewnol, dylai:

  • fod yn ddisgrifiadol a gwneud synnwyr ar ei ben ei hun, er enghraifft 'gwnewch gais am bàs bws' nid 'cliciwch yma'
  • bod yn llawn termau perthnasol
  • bod yn hawdd ei ddewis; gall dolen un gair fod yn anodd ei ddewis
  • peidio â chael ei ddefnyddio mwy nag unwaith i fynd i wahanol fannau
  • ar gyfer dolenni sy'n mynd at wybodaeth, dylai enwi'r wybodaeth honno
  • ar gyfer dolenni sy'n mynd at dudalennau lle gall defnyddiwr ddechrau ar dasg, dechreuwch gyda berf
  • gwneud yn glir bod defnyddwyr yn gadael LLYW.CYMRU

Enghreifftiau

Dolenni mewnol at wybodaeth

Mae'r wybodaeth ar LLYW.CYMRU:

Nid yw'r wybodaeth ar LLYW.CYMRU:

Dolenni mewnol at dasgau

Mae'r dasg ar LLYW.CYMRU:

Nid yw'r dasg ar LLYW.CYMRU:

Sut i ychwanegu dolenni mewnol yn Drupal

Gwirio dolen

Rhaid ichi agor a gwirio pob dolen yn y teclyn dolenni. Rhaid i ddolenni at dudalennau eraill ar LLYW.CYMRU edrych yn debyg i /node/20648 ac ni ddylent ond dechrau ag https:// os ydynt yn ddolen at angor ar dudalen arall.

Creu dolen fewnol

  1. amlygu testun y ddolen
  2. dewis eicon y ddolen
  3. dechrau teipio teitl y dudalen (neu ludo’r teitl llawn) yn y maes URL a bydd y rhestr awtogwblhau yn ymddangos
  4. dewis y dudalen fewnol yr hoffech greu dolen ati
  5. dewiswch Arbed (eicon tic)

Bydd hyn yn creu dolen sy’n ymddangos yn debyg i /node/20648. Mae hyn yn golygu y bydd y ddolen yn cael ei diweddaru os bydd URL tudalen y gyrchfan yn newid.

Creu dolen allanol neu ddolen at angor ar dudalen arall

  1. amlygu testun y ddolen
  2. dewis yr eicon y ddolen
  3. gludo’r URL llawn yn y maes URL
  4. os ydych yn creu dolen at angor, cynnwys # ac yna ID neu enw’r angor
  5. dewiswch Arbed (eicon tic)

Creu angor a chreu dolen at angor ar yr un dudalen

I greu angor, dylech:

  1. roi’r cyrchwr ar ddechrau’r testun lle’r hoffech i’r angor fod
  2. dewis yr eicon baner
  3. rhoi enw unigryw i’r angor heb unrhyw fylchau na nodau arbennig
  4. dewiswch Arbed (eicon tic)

Dolen at angor:

  1. amlygu y testun fydd yn cysylltu i’r angor
  2. dewis yr eicon dolen
  3. yn URL y Ddolen teipiwch # ac yna enw’r angor (peidiwch â’u gwahanu gyda bwlch)
  4. dewiswch Arbed (eicon tic)