Neidio i'r prif gynnwy

Sut i greu a golygu'r cynnwys ar ffurf 'canllaw' ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i'w ddefnyddio

Cyn bod modd creu neu olygu cynnwys, mae angen i chi ddarllen a deall y canlynol:

Dylech hefyd gael fersiwn o'r cynnwys yn barod i'w gyhoeddi.

Defnyddiwch ar gyfer:

  • ateb angen y defnyddiwr i gyflawni tasg benodol
  • cyfarwyddyd y mae dyletswydd ar y llywodraeth i’w ddarparu - nid cynghorion cyffredinol
  • rhoi gwybodaeth  sy’n angenrheidiol i’r defnyddiwr ddeall a rhoi cyd-destun i dasgau

Peidiwch â’i ddefnyddio:

  • i roi cyngor cyffredinol
  • i esbonio polisi’r llywodraeth
  • fel dewis olaf ar gyfer cynnwys nad yw’n ffitio i’r mathau eraill o fformat
  • ar gyfer cyhoeddiadau

Sut i'w greu

Creu canllaw newydd

  1. Mewngofnodi i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
  2. Dewiswch y wedd Workbench yn LLYW.CYMRU (rhaid i chi ddechrau ar y wefan Saesneg).
  3. Dewiswch Create content.
  4. Dewiswch Guide.
  5. Llenwch y maes Title.
  6. Llenwch y maes Teaser, nid yw hwn yn ymddangos ar y dudalen ond mae'n bosibl ei fod yn ymddangos wrth ochr dolen i'r dudalen (er enghraifft chwilio drwy ganlyniadau).
  7. Dewiswch Add Content a gludo cynnwys y dudalen i'r maes Content.
  8. Tagiwch i'r Topics perthnasol.
  9. Os yw cynnwys wedi dod gan sefydliad, neu os yw'n sôn am sefydliad, llenwch y maes EXTERNAL ORGANISATIONS.
  10. Ychwanegwch hyd at 5 dolen fewnol INTERNAL LINKS (NODE) i gynnwys sy'n uniongyrchol berthnasol i anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan y canllaw hwn.
  11. Ni ddylech fel arfer lenwi'r maes INTERNAL LINKS (TERMS). Mae'r canllaw naill ai'n berthnasol i bwnc felly wedi'i dagio iddo, neu'n cynnwys dolenni at dudalennau sy'n diwallu anghenion penodol defnyddwyr.
  12. Er mwyn creu dolen i wefan arall, dewiswch Add External Link.
  13. Ychwanegwch Review Date.
  14. Dewiswch Save and Create New Draft.
  15. I ychwanegu’r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
  16. Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
  17. Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
  18. I gadw newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
  19. Unwaith i chi gyhoeddi'r Gymraeg a'r Saesneg, gwnewch yn siŵr bod y ddwy iaith yn gywir o ran gosodiad y dudalen, a bod y dolenni i gyd yn gweithio.

Golygu canllaw presennol

  1. Dewch o hyd i'r canllaw presennol naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
  2. Agorwch y canllaw.
  3. Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
  4. Golygwch y canllaw.
  5. Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
  6. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed a gwneud y newidiadau yn gyhoeddus dewiswch Save and publish (this translation).
  7. Gwnewch yr un newidiadau i'r fersiynau Cymraeg a Saesneg.

Yr elfennau sydd ar gael

Rhestr o ba elfennau sydd ar gael a sut i'w defnyddio os oes hawl gwneud hynny.

Paragraphs: content

Rhaid i chi ddefnyddio'r paragraff cynnwys ar gyfer y rhan fwyaf o gynnwys y dudalen.

Paragraphs: accordion

Peidiwch â defnyddio'r paragraff acordion ar ganllawiau.

Paragraphs: related links

Peidiwch â defnyddio'r paragraff ar ddolenni cysylltiedig ar ganllawiau.

Paragraphs: call out message

Dylech ddim ond defnyddio'r neges alw ganlynol ar ganllawiau:

Paragraphs: contact details

Dilynwch y diffiniad manylion cyswllt i ychwanegu gwybodaeth gyswllt, er enghraifft, rhif ffôn.

Paragraphs: launcher

Dilynwch y diffiniad lansiwr i ddefnyddio hwn ddim ond fel rhan o dudalen gychwynnol i lansio gwasanaeth.

Paragraphs: local authority lookup

Er mwyn creu gwasanaeth chwilio am awdurdod lleol newydd, cysylltwch â'r Tîm Digidol Corfforaethol.

Paragraphs: webform

Er mwyn creu 'webform' newydd, cysylltwch â'r Tîm Digidol Corfforaethol.

Internal links (node)

Defnyddiwch i greu dolenni at tua 5 o dudalennau sydd â chysylltiad agos ag anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan y canllaw hwn.

Internal links (terms)

Dylech osgoi defnyddio dolenni mewnol ('terms'). Mae'r dolenni hyn yn rhaid at bynciau, ac fel arfer mae'r briwsion bara eisoes wedi dod o hyd i'r pwnc perthnasol.

External links

Dilynwch y diffiniad dolenni bach ochr i greu dolenni at gynnwys sydd â chysylltiad uniongyrchol ag anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan eich cynnwys.