Sut i greu a golygu'r cynnwys ar ffurf 'astudiaeth achos' ar LLYW.CYMRU.
Cynnwys
Pryd i'w ddefnyddio
Cyn bod modd creu neu olygu cynnwys, mae angen i chi ddarllen a deall y canlynol:
Dylech hefyd gael fersiwn o'r cynnwys yn barod i'w gyhoeddi.
Dylech ei ddefnyddio ar gyfer enghreifftiau go iawn sy'n helpu pobl i ddeall naill ai:
- proses sy'n cael ei chynnwys ar LLYW.CYMRU (er enghraifft sy'n dangos profiad rhywun o gymryd rhan yn un o raglenni penodol y Llywodraeth)
- agwedd bwysig ar bolisi'r llywodraeth ar LLYW.CYMRU (er enghraifft sy'n dangos profiad rhywun o broblem bolisi rydym yn ceisio ei datrys)
Peidiwch â chreu astudiaeth achos os yw'r canlynol yn berthnasol:
- mae'n ymwneud yn unig â hyrwyddo eich sefydliad
- nid yw'n uniongyrchol gysylltiedig â chanllawiau neu gynnwys polisi LLYW.CYMRU
- nid yw'n mynd i fod yn ddefnyddiol ar lefel barhaol (mae'n well ymdrin â sefyllfaoedd sydd o ddiddordeb dros dro mewn stori newyddion neu ddatganiad i'r wasg)
- mae'n debyg i astudiaeth achos dros dro
Sut i'w greu
Sut i'w greu
- Mewngofnodi i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
- Dewiswch y wedd Workbench yn LLYW.CYMRU (rhaid i chi ddechrau ar y wefan Saesneg).
- Dewiswch Create content.
- Dewiswch Case study.
- Llenwch y maes Title.
- Llenwch y maes Summary.
- Os oes llun, dewiswch Choose File o'r maes Image.
- Dewiswch Add Content a gludo cynnwys y dudalen i'r maes Content.
- Tagiwch i'r Topics perthnasol.
- Os yw cynnwys wedi dod gan sefydliad, neu os yw'n sôn am sefydliad, llenwch y maes EXTERNAL ORGANISATIONS.
- Ychwanegwch hyd at 5 dolen fewnol INTERNAL LINKS (NODE) i gynnwys sy'n uniongyrchol berthnasol i anghenion y defnyddwyr sy'n cael eu diwallu gan y canllaw hwn.
- Ni ddylech fel arfer lenwi'r maes INTERNAL LINKS (TERMS). Mae'r canllaw naill ai'n berthnasol i bwnc felly wedi'i dagio iddo, neu'n cynnwys dolenni at dudalennau sy'n diwallu anghenion penodol defnyddwyr.
- Er mwyn creu dolen i wefan arall, dewiswch Add External Link.
- Ychwanegwch Review Date.
- Dewiswch Save and Create New Draft.
- I ychwanegu’r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
- Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
- Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
- I gadw newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'i gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
- Unwaith i chi gyhoeddi'r Gymraeg a'r Saesneg, gwnewch yn siŵr bod y ddwy iaith yn gywir o ran gosodiad y dudalen, a bod y dolenni i gyd yn gweithio.
Golygu astudiaeth achos bresennol
- Dewch o hyd i'r astudiaeth achos bresennol naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
- Agorwch yr astudiaeth achos.
- Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
- Golygwch yr astudiaeth achos.
- Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
- I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed a gwneud y newidiadau yn gyhoeddus dewiswch Save and publish (this translation).
- Gwnewch yr un newidiadau i'r fersiynau Cymraeg a Saesneg.
Yr elfennau sydd ar gael
Paragraphs: content
Rhaid i chi ddefnyddio'r paragraff cynnwys ar gyfer y rhan fwyaf o gynnwys y dudalen.
Paragraphs: accordion
Dilynwch y diffiniad acordion i ychwanegu acordion.
Paragraphs: related links
Dilynwch ddiffiniad dolenni perthnasol i ychwanegu dolenni cysylltiedig.
Paragraphs: call out message
Dim ond y negeseuon galw canlynol allwch chi ddefnyddio ar astudiaethau achos:
Paragraphs: contact details
Dilynwch y diffiniad manylion cyswllt i ychwanegu gwybodaeth gyswllt, er enghraifft, rhif ffôn.
Paragraphs: inline documents
Defnyddiwch dolenni mewnol i gyhoeddi astudiaeth achos ar fformat gwahanol (PDF er enghraifft).
Internal links (node)
Defnyddiwch i greu dolenni at tua 5 o dudalennau sydd â chysylltiad agos ag anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan yr astudiaeth achos hon.
Internal links (terms)
Dylech osgoi defnyddio dolenni mewnol (terms). Mae'r dolenni hyn yn rhai at bynciau, ac fel arfer mae'r briwsion bara eisoes wedi dod o hyd i'r pwnc perthnasol.
External links
Dilynwch y diffiniad dolenni bar ochr i greu dolenni at gynnwys sydd â chysylltiad uniongyrchol ag anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan eich cynnwys.