Neidio i'r prif gynnwy

Sut i greu a golygu'r cynnwys ar ffurf 'ymgynghoriad' ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i'w ddefnyddio

Cyn bod modd creu neu olygu cynnwys, mae angen i chi ddarllen a deall y canlynol:

Dylech hefyd gael fersiwn o'r cynnwys yn barod i'w gyhoeddi.

Defnyddiwch ar gyfer:

  • ymgynghoriadau ffurfiol gyda rhif cymeradwyo WG
  • ymgynghoriadau ar y cyd a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru a chorff cyhoeddus arall
  • ymgynghoriadau a gynhelir gan gorff cyhoeddus a restrir fel sefydliad ar LLYW.CYMRU

Peidiwch â'i ddefnyddio:

  • at unrhyw ddiben arall

Sut i'w greu

Creu ymgynghoriad newydd

  1. Mewngofnodi i GOV.WALES and LLYW.CYMRU.
  2. Dewiswch y wedd Workbench yn LLYW.CYMRU (rhaid i chi ddechrau ar y wefan Saesneg).
  3. Dewiswch Create content.
  4. Dewiswch Ymgynghoriad.
  5. Llenwch y maes Title.
  6. Dewiswch Open yn y maes State.
  7. Llenwch y maes Summary .
  8. Cwblhewch y maes Launch date gyda'r dyddiad y mae'r ymgynghoriad i fod i gychwyn, yn y fformat dd/mm/bbbb.
  9. O dan AUTHORING INFORMATION , rhowch yr un dyddiad a'r dyddiad lansio yn y meysydd First published a LAST UPDATED
  10. Cwblhewch y maes End date gyda'r dyddiad y mae'r ymgynghoriad i fod i gau, yn y fformat dd/mm/bbbb.
  11. Dewiswch Add new consultation document.
  12. Dewiswch Consultation document ar gyfer y mwyafrif o ddogfennau mewn ymgynghoriad sydd ar agor.
  13. Cwblhewch y maes Media name. Dylai ddechrau gyda 'Dogfen ymgynghori:'.
  14. Gwiriwch enw ffeil y ddogfen. Dewiswch y ddogfen i'w lanlwytho.
  15. Os yw'r ddogfen yn PDF, ticiwch y blwch Generate thumbnail
  16. Os nad yw'r ddogfen yn PDF, rhaid i chi greu cryno-lun a'i lanlwytho. Dylai'r cryno-lun fod yn 160px (Ll) x 230px (U). Defnyddiwch y maes Thumbnail i lanlwytho cryno-lun.
  17. Os yw'r ddogfen ond ar gael yn Gymraeg neu Saesneg yn unig, dewiswch yr iaith honno o'r fwydlen Language availability.
  18. Pan fo pob maes wedi cwblhau, dewiswch Create consultation document.
  19. Gallwch ailadrodd camau 10 i 17 i ychwanegu mwy o ddogfennau ymgynghori.
  20. I lanlwytho ffurflen ymateb dewiswch |Response form, ac yna dilynwch gamau 12 i 18.
  21. Dewiswch Add Content a gludo cynnwys y dudalen i'r maes Content.
  22. Peidiwch â llenwi'r maes Additional information.
  23. Peidiwch á llenwi'r maes Help and support.
  24. Cwblhewch y maes Respond - email gyda 'Cwblhewch a dychwelyd i rhowch y cyfeiriad e-bost'. Cofiwch gynnwys y cyfeiriad e-bost yn hytrach na rhowch y cyfeiriad e-bost.
  25. Linciwch y cyfeiriad e-bost drwy ei amlygu a dewiswch y botwm @. Dewiswch email o'r fwydlen Link type, ac yna llenwch y maes Email address. Gallwch hefyd lenwi'r meysydd Message subject a Message body.
  26. Cwblhewch y maes Respond - post gyda 'Cwblhewch a dychwelwch i:
    (defnyddiwch y fformat yma, ond newidiwch y manylion)
    Rheoleiddio ac Ansawdd Amgylcheddol
    Parc Cathays
    Caerdydd
    CF10 3NQ'
  27. Rhowch 'Ymateb ar-lein' yn y maes Respond - online.
  28. Edrychwch ar URL y dudalen yr ydych arni. Bydd yn edrych yn rhywbeth fel https://llyw.cymru/node/xxxxx/edit. Copïwch '/node/xxxxx/edit' a rhowch 'respond-online' yn lle 'edit' i greu ‘/node/xxxx/respond-online’.
  29. Amlygwch y testun 'Ymateb ar-lein' a dewiswch y botwm dolen. Pastiwch '/node/xxxx/respond-online' i'r maes URL yn y ffenestr naid, a dewiswch Save.
  30. Yn y maes External online form rhowch URL eich ffurflen ymateb ar-lein Smartsurvey.
  31. Defnyddiwch adran EXTERNAL CONSULTATION LINK pan fo ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar wefan trydydd parti.
  32. Rhowch URL y dudalen lle caiff yr ymgynghoriad ei letya yn y maes URL.
  33. Rhowch enw'r safle, er enghraifft GOV.UK yn y maes Link text. Bydd 'Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar' yn ymddangos cyn enw'r safle.
  34. Dylid gadael maes Outcome summary yn wag wrth greu ymgynghoriad.
  35. Tagiwch i'r Topics perthnasol.
  36. Os yw cynnwys wedi dod gan sefydliad, neu os yw'n sôn am sefydliad, llenwch y maes EXTERNAL ORGANISATIONS.
  37. Ychwanegwch INTERNAL LINKS (NODE) i gynnwys sy'n hanfodol i ddefnyddwyr gwblhau'r ymgynghoriad yn unig.
  38. Ni ddylech fel arfer lenwi'r maes INTERNAL LINKS (TERMS). Mae'r ymgynghoriad naill ai'n berthnasol i bwnc felly wedi'i dagio iddo, neu'n cynnwys dolenni at dudalennau sy'n diwallu anghenion penodol defnyddwyr.
  39. Er mwyn creu dolen i wefan arall, dewiswch Add External Link.
  40. Rhowch Review Date.
  41. Ar ôl i'r ymgynghoriad gau, gallwch ychwanegu crynodeb o ymatebion. Dewiswch Add new consultation document.
  42. Dewiswch Outcome document, ac yna dilynwch gamau 12 i 18.
  43. I arbed ac addasu eto cyn cyhoeddi dewiswch Save and Create New Draft. I arbed a dewis pryd i gyhoeddi yn y dyfodol, rhowch ddddiad ac amser yn SCHEDULING OPTIONS (gallwch ehangu'r maes yma sydd fel arfer i'r dde o'r prif feysydd addasy). Yna dewiswch Save and Approve to go live.
  44. I ychwanegu’r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
  45. Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
  46. Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
  47. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and publish (this translation). I arbed a chyhoeddi ar y dyddiad a ddewiswyd yng ngham 43, ar ôl dewis Save and Make Draft (this translation) dewiswch Save and Approve to go live (this translation).
  48. Gwnewch yn siwr bod y Gymraeg a'r Saesneg yn yr un stâd gyhoeddi a gwiriwch y ddwy iaith, er enghriafft i sicrhau bod y gosodiad yn gywir a bod y dolenni'n gweithio.

Golygu ymgynghoriad presennol

  1. Dewch o hyd i'r ymgynghoriad naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
  2. Agorwch yr ymgynghoriad.
  3. Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
  4. Golygwch yr ymgynghoriad.
  5. Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
  6. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'i gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
  7. Gwnewch yr un newidiadau i'r fersiynau Cymraeg a Saesneg.

Yr elfennau sydd ar gael

Rhestr o ba elfennau sydd ar gael a sut i'w defnyddio os oes hawl gwneud hynny.

Paragraphs: content

Rhaid i chi ddefnyddio'r paragraff cynnwys ar gyfer y rhan fwyaf o gynnwys y dudalen.

Paragraphs: accordion

Peidiwch â defnyddio'r paragraff acordion ar ymgynghoriadau.

Paragraphs: related links

Peidiwch â defnyddio'r paragraff dolenni perthnasol ar ymgynghoriadau.

Paragraphs: call out message

Peidiwch â defnyddio'r paragraff neges alw ar ymgynghoriadau.

Paragraphs: iFrame

I’w ddefnyddio’n unig i fewnblannu fideo YouTube.