Sut i greu a golygu'r cynnwys ar ffurf 'person allweddol' ar LLYW.CYMRU.
Cynnwys
Pryd i'w ddefnyddio
Cyn bod modd creu neu olygu cynnwys, mae angen i chi ddarllen a deall y canlynol:
Dylech hefyd gael fersiwn o'r cynnwys yn barod i'w gyhoeddi.
Defnyddiwch i greu proffiliau ar gyfer:
- gweinidogion (siaradwch gyda'r Tîm Digidol Corfforaethol cyn creu gweinidogion)
- swyddog uchaf sefydliad (er enghraifft prif weithredwr neu gadeirydd)
- haen uchaf rheoli sefydliad
- uwch swyddogion gyda rôl arwain gyhoeddus (er enghraifft Prif Ymgynghorydd Gwyddonol, Prif Swyddog Meddygol)
Peidiwch:
- creu tudalennau ar gyfer unrhyw berson arall
Sut i'w greu
Creu person allweddol newydd
- Mewngofnodi i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
- Dewiswch y wedd Workbench yn LLYW.CYMRU (rhaid i chi ddechrau ar y wefan Saesneg).
- Dewiswch Create content.
- Dewiswch Key person.
- Cwblhewch y maes Name.
- Llenwch y maes Summary.
- Llenwch y maes Job title.
- Os yw'r person allweddol yn aelod o'r cabinet, ticiwch y blwch Cabinet member. Os yw'r person allweddol yn weinidog, ticiwch y blwch Minister.
- Os yw'r person o sefydliad, cwblhewch y maes External organisation.
- Darllenwch y wybodaeth ar lluniau ar gyfer pobl allweddol. Dewiswch Choose photo i lanlawytho llun. Dylech ddewis Photo large o'r ddewislen Image size ar gyfer aelodau'r cabinet neu weinidogion yn unig.
- Os nad ydych am i'r llun ymddangos ar brif dudalen key person, dad-diciwch y blwch Show image in bio page.
- Dewiswch Add Content a gludo gwybodaeth y person allweddol i'r maes Content.
- Tagiwch i'r Topics perthnasol.
- I gynnwys cyfrif cyfryngau cymdeithasol, cwblhewch y meysydd SOCIAL MEDIA LINKS .
- Rhowch Review Date.
- Dewiswch Save and Create New Draft.
- I ychwanegu'r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
- Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
- Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
- I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
- Unwaith i chi gyhoeddi'r Gymraeg a'r Saesneg, gwnewch yn siŵr bod y ddwy iaith yn gywir o ran gosodiad y dudalen, a bod y dolenni i gyd yn gweithio.
Manylion lluniau ar gyfer person allweddol
Rhaid i bob llun person allweddol:
- fod yn jpeg
- fod ar ogwydd tirlun
- gael dimensiynau lleiaf o 600px lled x 400px uchder
Dylai'r llun fod yn glir, â chyferbynnedd uchel ac o ansawdd uchel. Dylai fod yn llun pen ac ysgwyddau traddodiadol o'r person allweddol yn unig, lle:
- mae'r pen a'r ysgwyddau'n weladwy, mewn ffocws, ac mewn golau da
- mae'r person yn weladwy'n glir yn erbyn y cefndir
- na ddylai'r pen a'r ysgwyddau gymryd ,wy na 80% o'r holl lun
Dylai'r llun:
- fod wedi posio, ond heb fod yn rhy ffurfiol
- gael cefndir syml ond naturiol - ddim 100% yn wyn, dim llythrennau gweladwy, ac mewn ffocws meddal os oes modd
- fod wedi cael ei dynnu yn y 5 mlynedd ddiwethaf
Golygu person allweddol presennol
- Dewch o hyd i'r person allweddol naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
- Agorwch y person allweddol.
- Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
- Golygwch y person allweddol.
- Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
- I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
- Gwnewch yr un newidiadau i'r fersiynau Cymraeg a Saesneg.
Yr elfennau sydd ar gael
Rhestr o ba elfennau sydd ar gael a sut i'w defnyddio os oes hawl gwneud hynny.
Paragraphs: content section
Defnyddiwch y paragraff adran cynnwys i dorri tudalennau hirach yn llai gyda phenawdau.
Paragraphs: content
Rhaid i chi ddefnyddio'r paragraff cynnwys ar gyfer y rhan fwyaf o gynnwys y dudalen.
Paragraphs: accordion
Peidiwch â defnyddio'r paragraff acordion ar dudalennau person allweddol.
Paragraphs: call out message
Peidiwch â defnyddio'r paragraff neges alw ar dudalennau person allweddol.
Paragraphs: contact details
Dilynwch y diffiniad manylion cyswllt i ychwanegu gwybodaeth gyswllt, er enghraifft, rhif ffôn.
Paragraphs: related links
Dilynwch ddiffiniad dolenni perthnasol i ychwanegu dolenni perthnasol.
Paragraphs: iFrame
I’w ddefnyddio’n unig i fewnblannu fideo YouTube.