Sut i greu a golygu'r cynnwys ar ffurf 'hysbysiad: araith' ar LLYW.CYMRU.
Cynnwys
Pryd i'w ddefnyddio
Cyn bod modd creu neu olygu cynnwys, mae angen i chi ddarllen a deall y canlynol:
Dylech hefyd gael fersiwn o'r cynnwys yn barod i'w gyhoeddi.
Defnyddiwch ar gyfer:
- areithiau cyhoeddus gan weinidogion neu lefarwyr eraill a enwir ac erthyglau sy’n rhoi enw’r awdur
- areithiau lle'r ydych yn disgwyl lefel uchel o ddiddordeb cyhoeddus ym mhopeth a ddywedir, nid dim ond y prif negeseuon
- pan fod ei angen fel cyd-destun er mwyn deall sut mae polisi’n dod ymlaen
Peidiwch â'i ddefnyddio ar gyfer:
- i gyhoeddi datganiad llafar fel cofnod yn unig (mae Cofnod y Cynulliad yn gwneud hynny beth bynnag)
- i wneud datganiadau i’r cyfryngau (defnyddiwch ddatganiad i’r wasg)
Sut i'w greu
Creu hysbysiad: araith newydd
- Mewngofnodi i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
- Dewiswch y wedd Workbench yn LLYW.CYMRU (rhaid i chi ddechrau ar y wefan Saesneg).
- Dewiswch Create content.
- Dewiswch Announcement.
- Dewiswch Speech o'r maes Announcement Type.
- Llenwch y maes Title.
- Llenwch y maes Summary.
- Os oes delwedd, dewiswch Choose File o'r maes Image.
- Peidiwch â defnyddio'r maes META IMAGES.
- Dewiswch Add Content a gludo cynnwys y dudalen i'r maes Content.
- Tagiwch i'r Topics perthnasol.
- Os yw cynnwys wedi dod gan sefydliad, neu os yw'n sôn am sefydliad, llenwch y maes EXTERNAL ORGANISATIONS.
- Ychwanegwch hyd at 5 dolen fewnol INTERNAL LINKS (NODE) i gynnwys sy'n uniongyrchol berthnasol i anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan yr hysbysiad: araith.
- Ni ddylech fel arfer lenwi'r maes INTERNAL LINKS (TERMS). Mae'r hysbysiad: araith naill ai'n berthnasol i bwnc felly wedi'i dagio iddo, neu'n cynnwys dolenni at dudalennau sy'n diwallu anghenion penodol defnyddwyr.
- Er mwyn creu dolen i wefan arall, dewiswch Add External Link.
- I arbed ac addasu eto cyn cyhoeddi dewiswch Save and Create New Draft.
I arbed a dewis pryd i gyhoeddi yn y dyfodol, rhowch ddddiad ac amser yn SCHEDULING OPTIONS (gallwch ehangu'r maes yma sydd fel arfer i'r dde o'r prif feysydd addasy). Yna dewiswch Save and Approve to go live. - I ychwanegu’r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
- Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
- Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
- I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and publish (this translation). I arbed a chyhoeddi ar y dyddiad a ddewiswyd yng ngham 16, ar ôl dewis Save and Make Draft (this translation) dewiswch Save and Approve to go live (this translation).
- Gwnewch yn siwr bod y Gymraeg a'r Saesneg yn yr un stâd gyhoeddi a gwiriwch y ddwy iaith, er enghriafft i sicrhau bod y gosodiad yn gywir a bod y dolenni'n gweithio.
Golygu hysbysiad: araith presennol
- Dewch o hyd i'r hysbysiad: araith presennol naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
- Agorwch yr hysbysiad: araith.
- Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
- Golygwch yr hysbysiad: araith.
- Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
- I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'i gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
- Gwnewch yr un newidiadau i'r fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r hysbysiad: araith.
Yr elfennau sydd ar gael
Rhestr o ba elfennau sydd ar gael a sut i'w defnyddio os oes hawl gwneud hynny.
Paragraphs: content
Rhaid i chi ddefnyddio'r paragraff cynnwys ar gyfer y rhan fwyaf o gynnwys y dudalen.
Paragraphs: accordion
Peidiwch â defnyddio'r paragraff acordion ar hysbysiad: araith.
Paragraphs: related links
Peidiwch â defnyddio'r paragraff dolenni perthnasol ar hysbysiad: araith.
Paragraphs: call out message
Peidiwch â defnyddio'r paragraff neges alw ar hysbysiad: araith.
Paragraphs: contact details
Dilynwch y diffiniad manylion cyswllt i ychwanegu gwybodaeth gyswllt, er enghraifft, rhif ffôn.
Paragraphs: inline document
Defnyddiwch ddogfen fewnol i lanlwytho ffeil sy'n berthnasol yng nghyd-destun yr hysbysiad: araith yn unig.
Peidiwch â'i ddefnyddio i gyhoeddi dogfen:
- sydd eisoes wedi cyhoeddi ar LLYW.CYMRU, yn hytrach rhowch ddolen i'r ddogfen
- ddylai gael ei gyhoeddi fel tudalen ar wahân ar LLYW.CYMRU, hysbysiad er enghraifft
Paragraphs: iFrame
I’w ddefnyddio’n unig i fewnblannu fideo YouTube.
Internal links (node)
Defnyddiwch i greu dolenni at tua 5 o dudalennau sydd â chysylltiad agos ag anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan yr hysbysiad: datganiad cabinet.
Internal links (terms)
Dylech osgoi defnyddio dolenni mewnol ('terms'). Mae'r dolenni hyn yn rhaid at bynciau, ac fel arfer mae'r briwsion bara eisoes wedi dod o hyd i'r pwnc perthnasol.
External links
Dilynwch y diffiniad dolenni bach ochr i greu dolenni at gynnwys sydd â chysylltiad uniongyrchol ag anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan eich cynnwys.