Sut i greu a golygu’r cynnwys ar ffurf ‘Cynnwys Dogfen HTML’ ar LLYW. CYMRU.
Cynnwys
Pryd i'w ddefnyddio
Cyn bod modd creu neu olygu cynnwys, mae angen i chi ddarllen a deall y canlynol:
Mae angen i chi greu Dogfennau HTML ar gyfer pob tudalen cyn creu’r dudalen Cynnwys Dogfen HTML
Defnyddiwch hyn ar gyfer:
- fersiwn HTML aml-dudalen o gyhoeddiad.
Sut i'w greu
Creu tudalen Cynnwys Dogfen HTML newydd
- Mewngofnodwch i i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
- Dewiswch y wedd Workbench yn LLYW.CYMRU (rhaid i chi ddechrau ar y wefan Saesneg).
- Dewiswch Create content.
- Dewiswch HTML Document Contents.
- Llenwch y maes Teitl.
- Llenwch y maes Crynodeb (pan nad oes ond un ddogfen wedi’i hatodi i’r cyhoeddiad dylai'r crynodeb hwn fod yr un fath â chrynodeb y cyhoeddiad).
- Dechreuwch deipio enw'r ddogfen HTML yr ydych am ei chynnwys yn y maes HTML DOCUMENTS.
- Dewiswch y ddogfen HTML gywir o’r rhestr.
- Os ydych am i’r Cynnwys Dogfen HTML arddangos teitl gwahanol ar gyfer y ddogfen HTML, teipiwch hyn yn y maes testun Custom text.
- Dewiswch Add another item ac ailadrodd camau 7 i 9 i ychwanegu dogfennau HTML eraill.
- Dad-ddewiswch Generate automatic URL alias.
- Rhowch alias URL addas, yn seiliedig ar deitl dogfen, ac ychwanegwch 'contents' i'r alias URL. Darllenwch enwi ffeiliau a dogfennau HTML i gael cyngor ar greu alias URL.
- Gwiriwch y dyddiadau First Published a LAST UPDATED.
- Dewiswch Save and Create New Draft.
- I ychwanegu’r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
- Dewiswch Add o'r rhes â’r label Welsh.
- Diweddarwch bob maes gan ddefnyddio’r testun Cymraeg.
- Dad-ddewiswch Generate automatic URL alias.
- Nodwch alias URL addas, gan ddilyn yr un dull â'r fersiwn Saesneg, ac ychwanegwch '-cynnwys' at yr alias URL. Dilynwch y cyngor yn enwi ffeiliau a dogfennau HTML ar greu alias URL.
- I gadw newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I gadw newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
- Cyhoeddwch y Gymraeg a'r Saesneg a gwiriwch y ddwy iaith, er enghraifft i sicrhau bod y gosodiad yn gywir a bod y dolenni’n gweithio.
Golygu tudalen Cynnwys Dogfen HTML sy’n bodoli’n barod
- Mewngofnodwchi i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
- Dewch o hyd i'r Cynnwys Dogfen HTML presennol naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
- Agorwch HTML Document Contents
- Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT
- Golygwch HTML Document Contents neu Add another item i ychwanegu tudalennau (gweler camau 7 i 9 yn Sut i greu).
- Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
- Newidiwch y dyddiad LAST UPDATED. Mae camau 6 a 7 ar gyfer newidiadau cynnwys yn unig. Peidiwch â’u defnyddio ar gyfer gwallau teipio a newidiadau fformat.
- I gadw newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I gadw newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
- Gwnewch yr un newidiadau i'r fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r Cynnwys Dogfen HTML.
Yr elfennau sydd ar gael
Nid oes elfennau ar gael i’w defnyddio gyda’r math hwn o gynnwys.