Neidio i'r prif gynnwy

Sut i greu a golygu'r cynnwys ar ffurf 'cyhoeddiad: ymateb cyhoeddus' ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i'w ddefnyddio

Cyn bod modd creu neu olygu cynnwys, mae angen i chi ddarllen a deall y canlynol:

Dylech hefyd gael fersiwn o'r cynnwys yn barod i'w gyhoeddi.

Defnyddiwch ar gyfer:

Defnyddio ar gyfer ymatebion cyhoeddus yn unig i:

  • Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru
  • Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Sut i'w greu

Creu cyhoeddiad: ymateb cyhoeddus newydd

  1. Mewngofnodi i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
  2. Dewiswch y wedd Workbench yn LLYW.CYMRU (rhaid i chi ddechrau ar y wefan Saesneg).
  3. Dewiswch Create content.
  4. Dewiswch Publication.
  5. Dewiswch Public response o'r maes Publication.
  6. Llenwch y maes Title.
  7. Llenwch y maes Summary.
  8. Os yw eich dogfen yn un HTML, dewiswch HTML document o'r ddewislen PUBLICATION DOCUMENTS. Yna dewiswch Add new publication document.
  9. Cwblhewch y maes Name gyda document title
  10. Teipiwch enw'r ddogfen HTML i'r maes HTML document a dewiswch y ddogfen gywir.
  11. Os yw'r ddogfen ond ar gael yn Gymraeg neu Saesneg yn unig, dewiswch yr iaith honno o'r fwydlen Language availability.
  12. Pan fo pob maes wedi cwblhau, dewiswch Create publication document.
  13. Dilynwch gamau 7 i 11 i ychwanegu mwy o ddogfennau HTML.
  14. I ychwanegu dogfen nad yw'n HTML, dewiswch Publication document o'r ddewislen PUBLICATION DOCUMENTS. Yna dewiswch Add new publication document.
  15. Cwblhewch y maes Name gyda document title. Gwnewch yn siwr bod eich dogfen yn cydymffurfio gyda'r canllawiau enwau dogfennau. Defnyddwich y maes File i lanlwytho eich ffeil.
  16. Os yw eich dogfen mewn fformat PDF, dewiswch Generate thumbnail i greu cryno-lun yn awtomatig.
  17. Os nad yw'r ddogfen yn PDF, rhaid i chi greu cryno-lun a'i lanlwytho. Dylai'r cryno-lun fod yn 160px (Ll) x 230px (U). Defnyddiwch y maes Thumbnail i lanlwytho cryno-lun.
  18. Os yw'r ddogfen ond ar gael yn Gymraeg neu Saesneg yn unig, dewiswch yr iaith honno o'r fwydlen Language availability.
  19. Pan fo pob maes wedi cwblhau, dewiswch Create publication document.
  20. Dilynwch gamau 13 i 18 i ychwanegu mwy o ddogfennau sydd ddim yn HTML.
  21. Tagiwch i'r Topics perthnasol. Dad-diciwch Include in topic browser.
  22. Cwblhewch EXTERNAL ORGANISATIONS  gyda'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru neu Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
  23. Ychwanegwch hyd at 5 dolen fewnol INTERNAL LINKS (NODE) i gynnwys sy'n uniongyrchol berthnasol i anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan y cyhoeddiad: ymateb cyhoeddus.
  24. Ni ddylech fel arfer lenwi'r maes INTERNAL LINKS (TERMS). Mae'r cyhoeddiad: ymateb cyhoeddus naill ai'n berthnasol i bwnc felly wedi'i dagio iddo, neu'n cynnwys dolenni at dudalennau sy'n diwallu anghenion penodol defnyddwyr.
  25. Er mwyn creu dolen i wefan arall, dewiswch Add External Link.
  26. I arbed ac addasu eto cyn cyhoeddi dewiswch Save and Create New Draft. I arbed a dewis pryd i gyhoeddi yn y dyfodol, rhowch ddddiad ac amser yn SCHEDULING OPTIONS (gallwch ehangu'r maes yma sydd fel arfer i'r dde o'r prif feysydd addasy). Yna dewiswch Save and Approve to go live.
  27. I ychwanegu'r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
  28. Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
  29. Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
  30. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and publish (this translation). I arbed a chyhoeddi ar y dyddiad a ddewiswyd yng ngham 26, ar ôl dewis Save and Make Draft (this translation) dewiswch Save and Approve to go live (this translation).
  31. Gwnewch yn siwr bod y Gymraeg a'r Saesneg yn yr un stâd gyhoeddi a gwiriwch y ddwy iaith, er enghriafft i sicrhau bod y gosodiad yn gywir a bod y dolenni'n gweithio.

Golygu cyhoeddiad: ymateb cyhoeddus

  1. Dewch o hyd i'r cyhoeddiad: ymateb cyhoeddus presennol naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
  2. Agorwch y cyhoeddiad: ymateb cyhoeddus.
  3. Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
  4. Golygwch y cyhoeddiad: ymateb cyhoeddus.
  5. Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
  6. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and publish (this translation).
  7. Gwnewch yr un newidiadau i'r fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r cyhoeddiad: ymateb cyhoeddus.

Yr elfennau sydd ar gael

Rhestr o ba elfennau sydd ar gael a sut i'w defnyddio os oes hawl gwneud hynny.

Paragraphs: content

Mae'r paragraff cynnwys yn ddewisol ar gyfer cyhoeddiad: ymateb cyhoeddus. Gellir ei ddefnyddio i roi mwy o wybodaeth i sicrhau'r defnyddiwr eu bod wedi dod o hyd i'r wybodaeth y maent eu heisiau. Gall hefyd helpu bodloni angen y defnyddiwr heb agor y cynnwys, er enghraifft drwy grynodeb o brif argymhellion adroddiad.

Paragraphs: accordion

Peidiwch â defnyddio'r paragraff acordion ar gyhoeddiad: ymateb cyhoeddus.

Paragraphs: related links

Peidiwch â defnyddio'r paragraff dolenni perthnasol ar gyhoeddiad: ymateb cyhoeddus.

Paragraphs: contact details

Peidiwch â defnyddio'r paragraff manylion cyswllt ar gyhoeddiad: ymateb cyhoeddus.

Paragraphs: call out message

Peidiwch â defnyddio'r paragraff neges alw ar gyhoeddiad: ymateb cyhoeddus.

Paragraphs: iFrame

I’w ddefnyddio’n unig i fewnblannu fideo YouTube.