Neidio i'r prif gynnwy

Sut i greu a golygu'r cynnwys ar ffurf 'cyhoeddiad: deddfwriaeth' ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i'w ddefnyddio

Cyn bod modd creu neu olygu cynnwys, mae angen i chi ddarllen a deall y canlynol:

Dylech hefyd gael fersiwn o'r cynnwys yn barod i'w gyhoeddi.

Mae'r math yma o gynnwys ar gyfer deddfwriaeth Gymreig a chyhoeddiadau deddfwriaethol. Mae hyn yn cynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir yn o dan Ddeddf gan Senedd Cymru a Mesurau'r Cynulliad. Mae hefyd yn cynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a wnaed gan neu ar ran Gweinidogion Cymru.

Defnyddiwch ar gyfer:

  • offerynnau statudol lleol, gan gynnwys gorchmynion traffig y ffordd dros dro a pharhaol
  • offerynnau statudol cyffredinol
  • is-ddeddfwriaeth arall, gan gynnwys:
    • gorchmynion cau
    • gorchmynion hawliau tramwy cyhoeddus
    • gorchmynion prynu gorfodol
    • cyfarwyddydau a wnaed gan Weinidogion Cymru
    • penderfyniadau a wnaed gan Weinidogion Cymru
    • codau, gan gynnwys codau ymarfer
    • hysbysiadau a wnaed gan Weinidogion Cymru
  • dogfennau sy'n dangos deddfwriaeth ddiwygiedig (cyfeirir atynt fel "keeling-type schedules" weithiau)

Peidiwch â'i ddefnyddio ar gyfer unrhyw gyhoeddiad arall.

Sut i'w greu

Creu cyhoeddiad: deddfwriaeth newydd

  1. Mewngofnodwchi i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
  2. Dewiswch y wedd Workbench yn LLYW.CYMRU (rhaid i chi ddechrau ar y wefan Saesneg).
  3. Dewiswch Create content.
  4. Dewiswch Publication.
  5. Dewiswch Legislation o'r maes Publication.
  6. Llenwch y maes Title.
  7. Llenwch y maes Summary.
  8. Os yw eich dogfen yn un HTML, dewiswch HTML document o'r ddewislen PUBLICATION DOCUMENTS a dewiswch Add new publication document.
  9. Cwblhewch y maes Name gyda document title.
  10. Teipiwch enw'r ddogfen HTML i'r maes HTML document a dewiswch y ddogfen gywir.
  11. Os yw'r ddogfen ond ar gael yn Gymraeg neu Saesneg yn unig, dewiswch yr iaith honno o'r fwydlen Language availability.
  12. Pan fo pob maes wedi cwblhau, dewiswch Create publication document.
  13. Dilynwch gamau 8 i 12 i ychwanegu mwy o ddogfennau HTML.
  14. I ychwanegu dogfen nad yw'n HTML, dewiswch Publication document o'r ddewislen PUBLICATION DOCUMENTS a dewiswch Add new publication document.
  15. Cwblhewch y maes Name gyda document title. Gwnewch yn siŵr bod eich dogfen yn cydymffurfio gyda'r canllawiau enwau dogfennau. Defnyddiwch y maes File i lanlwytho eich ffeil.
  16. Os yw eich dogfen mewn fformat PDF, dewiswch Generate thumbnail i greu cryno-lun yn awtomatig.
  17. Os nad yw'r ddogfen yn PDF, rhaid i chi greu cryno-lun a'i lanlwytho. Dylai'r cryno-lun fod yn 160px (Ll) x 230px (U). Defnyddiwch y maes Thumbnail i lanlwytho cryno-lun.
  18. Os yw'r ddogfen ond ar gael yn Gymraeg neu Saesneg yn unig, dewiswch yr iaith honno o'r fwydlen Language availability.
  19. Pan fo pob maes wedi cwblhau, dewiswch Create publication document.
  20. Dilynwch gamau 14 i 19 i ychwanegu mwy o ddogfennau sydd ddim yn HTML.
  21. Os oes mwy o gynnwys gyda chi, dewiswch Add Content a gludo cynnwys y dudalen i'r maes Content. Bydd y cynnwys yma'n ymddangos o dan y dogfennau ar y dudalen.
  22. Tagiwch i'r Topics perthnasol.
  23. Os yw cynnwys wedi dod gan sefydliad, neu os yw'n sôn am sefydliad, llenwch y maes EXTERNAL ORGANISATIONS.
  24. Ychwanegwch hyd at 5 dolen fewnol INTERNAL LINKS (NODE) i gynnwys sy'n uniongyrchol berthnasol i anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan y cyhoeddiad: deddfwriaeth.
  25. Ni ddylech fel arfer lenwi'r maes INTERNAL LINKS (TERMS). Mae'r cyhoeddiad: deddfwriaeth naill ai'n berthnasol i bwnc felly wedi'i dagio iddo, neu'n cynnwys dolenni at dudalennau sy'n diwallu anghenion penodol defnyddwyr.
  26. Er mwyn creu dolen i wefan arall, dewiswch Add External Link.
  27. Cwblhewch y dyddiadau First Published a LAST UPDATED i gyd-fynd â'r dyddiadau yn y ddogfen gyhoeddedig.
  28. Dewiswch Save and Create New Draft.
  29. I ychwanegu'r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
  30. Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
  31. Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
  32. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and publish (this translation).
  33. Unwaith i chi gyhoeddi'r Gymraeg a'r Saesneg, gwnewch yn siŵr bod y ddwy iaith yn gywir o ran gosodiad y dudalen, a bod y dolenni i gyd yn gweithio.

Golygu cyhoeddiad: deddfwriaeth presennol

  1. Mewngofnodwchi i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
  2. Dewch o hyd i'r cyhoeddiad: deddfwriaeth presennol naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
  3. Agorwch y cyhoeddiad: deddfwriaeth.
  4. Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
  5. Golygwch y cyhoeddiad: deddfwriaeth.
  6. Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
  7. Newid y dyddiad LAST UPDATED o dan AUTHORING INFORMATION. Mae camau 6 a 7 ar gyfer newidiadau cynnwys yn unig. Peidiwch â defnyddio ar gyfer typos a newidiadau fformat.
  8. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and publish (this translation).
  9. Gwnewch yr un newidiadau i'r fersiwn Cymraeg o'r cyhoeddiad: deddfwriaeth.

Yr elfennau sydd ar gael

Rhestr o ba elfennau sydd ar gael a sut i'w defnyddio os oes hawl gwneud hynny.

Paragraphs: content

Mae'r paragraff cynnwys yn ddewisol ar gyfer cyhoeddiad: deddfwriaeth. Gellir ei ddefnyddio i roi mwy o wybodaeth i sicrhau'r defnyddiwr eu bod wedi dod o hyd i'r wybodaeth y maent eu heisiau. 

Paragraphs: accordion

Peidiwch â defnyddio'r paragraff acordion ar gyhoeddiad: deddfwriaeth.

Paragraphs: related links

Peidiwch â defnyddio'r paragraff dolenni perthnasol ar gyhoeddiad: deddfwriaeth.

Paragraphs: contact details

Peidiwch â defnyddio'r paragraff manylion cyswllt ar gyhoeddiad: deddfwriaeth.

Paragraphs: call out message

Peidiwch â defnyddio'r paragraff neges alw ar gyhoeddiad: deddfwriaeth.

Paragraphs: iFrame

I’w ddefnyddio’n unig i fewnblannu fideo YouTube.