Neidio i'r prif gynnwy

Sut i greu a golygu'r cynnwys ar ffurf 'cyhoeddiad: datganiad FOI' ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i'w ddefnyddio

Cyn bod modd creu neu olygu cynnwys, mae angen i chi ddarllen a deall y canlynol:

Dylech hefyd gael fersiwn o'r cynnwys yn barod i'w gyhoeddi.

Defnyddiwch ar gyfer:

  • ymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn unig

Sut i'w greu

Creu cyhoeddiad: datganiad FOI newydd

  1. Mewngofnodi i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
  2. Dewiswch y wedd Workbench yn LLYW.CYMRU (rhaid i chi ddechrau ar y wefan Saesneg).
  3. Dewiswch Create content.
  4. Dewiswch Publication.
  5. Dewiswch FOI release o'r maes Publication.
  6. Rhowch y rhif atisn yn y maes FOI release ID.
  7. Llenwch y maes Title.
  8. Llenwch y maes Summary.
  9. I ychwanegu dogfen, dewiswch Publication document o'r ddewislen PUBLICATION DOCUMENTS a dewiswch Add new publication document.
  10. Cwblhewch y maes Name gyda theitl y ddogfen. Dylai enw'r ffeil fod y rhif atisn, er enghraifft atisn12345.pdf. Defnyddiwch y maes File i lanlwytho eich ffeil.
  11. Os yw eich dogfen mewn fformat PDF, dewiswch Generate thumbnail i greu cryno-lun yn awtomatig.
  12. Os nad yw'r ddogfen yn PDF, rhaid i chi greu cryno-lun a'i lanlwytho. Dylai'r cryno-lun fod yn 160px (Ll) x 230px (U). Defnyddiwch y maes Thumbnail i lanlwytho cryno-lun.
  13. Os yw'r ddogfen ond ar gael yn Gymraeg neu Saesneg yn unig, dewiswch yr iaith honno o'r fwydlen Language availability.
  14. Pan fo pob maes wedi cwblhau, dewiswch Create publication document.
  15. Dilynwch gamau 7 i 12 i ychwanegu mwy o ddogfennau.
  16. Tagiwch i'r Topics perthnasol. 
  17. Os yw cynnwys wedi dod gan sefydliad, neu os yw'n sôn am sefydliad, llenwch y maes EXTERNAL ORGANISATIONS.
  18. Ychwanegwch hyd at 5 dolen fewnol INTERNAL LINKS (NODE) i gynnwys sy'n uniongyrchol berthnasol i anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan y cyhoeddiad: datganiad FOI.
  19. Ni ddylech fel arfer lenwi'r maes INTERNAL LINKS (TERMS). Mae'r cyhoeddiad: datganiad FOI naill ai'n berthnasol i bwnc felly wedi'i dagio iddo, neu'n cynnwys dolenni at dudalennau sy'n diwallu anghenion penodol defnyddwyr.
  20. Er mwyn creu dolen i wefan arall, dewiswch Add External Link.
  21. I arbed ac addasu eto cyn cyhoeddi dewiswch Save and Create New Draft. I arbed a dewis pryd i gyhoeddi yn y dyfodol, rhowch ddddiad ac amser yn SCHEDULING OPTIONS (gallwch ehangu'r maes yma sydd fel arfer i'r dde o'r prif feysydd addasy). Yna dewiswch Save and Approve to go live.
  22. I ychwanegu'r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
  23. Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
  24. Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
  25. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation). I arbed a chyhoeddi ar y dyddiad a ddewiswyd yng ngham 20, ar ôl dewis Save and Make Draft (this translation) dewiswch Save and Approve to go live (this translation).
  26. Gwnewch yn siwr bod y Gymraeg a'r Saesneg yn yr un stâd gyhoeddi a gwiriwch y ddwy iaith, er enghriafft i sicrhau bod y gosodiad yn gywir a bod y dolenni'n gweithio.

Golygu cyhoeddiad: datganiad FOI

  1. Dewch o hyd i'r cyhoeddiad: datganiad FOI naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
  2. Agorwch y cyhoeddiad: datganiad FOI.
  3. Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
  4. Golygwch y cyhoeddiad: datganiad FOI.
  5. Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
  6. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
  7. Gwnewch yr un newidiadau i'r fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r cyhoeddiad: datganiad FOI.

Yr elfennau sydd ar gael

Rhestr o ba elfennau sydd ar gael a sut i'w defnyddio os oes hawl gwneud hynny.

Paragraphs: content

Peidiwch â defnyddio'r paragraff cynnwys ar gyhoeddiad: datganiad FOI.

Paragraphs: accordion

Peidiwch â defnyddio'r paragraff acordion ar gyhoeddiad: datganiad FOI.

Paragraphs: related links

Peidiwch â defnyddio'r paragraff dolenni perthnasol ar gyhoeddiad: datganiad FOI.

Paragraphs: contact details

Peidiwch â defnyddio'r paragraff manylion cyswllt ar gyhoeddiad: datganiad FOI.

Paragraphs: call out message

Peidiwch â defnyddio'r paragraff neges alw ar gyhoeddiad: datganiad FOI.

Paragraphs: iFrame

I’w ddefnyddio’n unig i fewnblannu fideo YouTube.