Mae teimlo’n unig ac yn ynysig yn gymdeithasol yn cael eu hystyried yn aml yn faterion sy'n effeithio ar bobl hŷn, ond maen nhw'n dod yn fwyfwy pwysig i bob un ohonom.
Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18 gan Lywodraeth Cymru, dywedodd 16% o'r boblogaeth dros 16 oed eu bod yn teimlo'n unig – ac roedd pobl iau yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo'n unig na phobl hŷn.
Heddiw, mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, yn lansio strategaeth gyntaf erioed Cymru ar unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, dan y teitl ‘Cymunedau Cysylltiedig: strategaeth ar gyfer mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a chreu cysylltiadau cymdeithasol cryfach’.
Y tu cefn i’r strategaeth bydd cronfa £1.4 miliwn ar gyfer unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, dros gyfnod o dair blynedd. Bydd y gronfa’n helpu sefydliadau cymunedol i ddarparu, i brofi neu i ddatblygu dulliau arloesol o fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.
Gall bod yn unig a/neu yn ynysig yn gymdeithasol gael effaith fawr ar iechyd corfforol a meddyliol pobl. Mae'r berthynas sydd gennym â ffrindiau, teulu, cydweithwyr a chymdogion yn rhoi ymdeimlad o berthyn a llesiant i ni.
Mae pedwar prif faes i’r strategaeth:
- Cynyddu’r cyfleoedd i bobl ddod i gysylltiad â’i gilydd Mae’r flaenoriaeth hon yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ag eraill i gynyddu’r ystod o gyfleoedd, i i hybu ymwybyddiaeth ohonynt ac i annog a chefnogi pobl i’w defnyddio.
- Gwella seilwaith cymunedol sy’n cefnogi cymunedau cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys cynllunio, tai a thrafnidiaeth er mwyn helpu pobl i ddod at ei gilydd.
- Cymunedau cydlynus a chefnogol. Mae’r nod hwn yn nodi rhai o’r meysydd lle mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau’n barod a sut y gall fynd ymhellach gan weithio mewn partneriaeth.
- Meithrin ymwybyddiaeth a hybu agweddau cadarnhaol. Mae hwn yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn codi proffil unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ac yn lleihau stigma.
Datblygwyd y blaenoriaethau hyn drwy gynnal ymgynghoriad cyhoeddus a thrwy weithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid ledled Cymru.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
Mae teimlo’n unig ac yn ynysig yn deimladau a all ein cyffwrdd ar unrhyw oedran ac mewn unrhyw gyfnod o'n bywyd – o berson ifanc sy'n symud i ffwrdd i'r brifysgol i berson hŷn sy'n gofalu am rywun agos.
Er na all y Llywodraeth ddatrys y materion hyn ar ei phen ei hun, gallwn helpu i feithrin yr amodau cywir er mwyn i gysylltiadau o fewn cymunedau ffynnu. Mae angen inni newid y ffordd yr ydyn ni’n medddwl am unigrwydd ac ynysigrwydd a’r ffordd rydyn ni’n gweithredu arnynt. Mae angen i hynny gael ei wneud o fewn y Llywodraeth, mewn gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a chymunedau, a chan unigolion, er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn.
Dim ond y dechrau yw hyn: dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, rydym yn awyddus i ehangu ein dealltwriaeth, gwella ein hymatebion i unigrwydd ac ynysigrwydd a sicrhau ein bod yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r materion hyn.