Mae cynigion ar gyfer cyfraith radical newydd i sicrhau bod gweithwyr ym mhob rhan o economi Cymru yn mwynhau manteision twf economaidd, ac nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
Heddiw mae Gweinidogion yn cyhoeddi Papur Gwyn ar ei Bil Partneriaeth Gymdeithasol arfaethedig.
Er bod mwy o bobl mewn gwaith nag erioed, mae'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd yn parhau i ehangu, mae tlodi ymhlith pobl sydd mewn gwaith yn gwaethygu, mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn parhau, ac mae arferion cyflogaeth ansefydlog megis contractau dim oriau bellach yn gyffredin yn rhai rhannau o'r farchnad lafur, gan adael pobl heb sicrwydd ynghylch eu hincwm pob dydd.
Gwaith yw'r ffordd orau o ddianc o dlodi, ac mae gan Lywodraeth Cymru hanes hir o gyflawni rhaglenni i gefnogi poblogaeth iachach sydd wedi derbyn addysg dda, ac sydd mewn sefyllfa well i fanteisio ar gyfleoedd swyddi.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cymryd camau i helpu pobl i gael y gorau o’u hincwm.
Bydd y cynigion ar gyfer Bil Partneriaeth Gymdeithasol, sy'n cael eu cyhoeddi heddiw ac a fydd yn destun ymgynghoriad, yn sicrhau bod pawb mae penderfyniadau'n effeithio arnyn nhw'n rhan o'r broses o wneud y penderfyniadau hynny.
Bwriedir i'r cynigion ar gyfer Bil Partneriaeth Gymdeithasol ategu uchelgeisiau ar gyfer Cymru fwy cyfartal, a byddan nhw'n seiliedig ar ymrwymiad i sicrhau bod busnesau sy'n elwa ar gyllid cyhoeddus yn gweithredu yn unol â'r arferion cyflogaeth gorau.
Mae'r Papur Gwyn yn cynnwys mesurau i gryfhau gallu'r sector cyhoeddus i sicrhau manteision economaidd-gymdeithasol drwy wariant cyhoeddus yn fwy cyson, ac i greu platfform deddfwriaethol ar gyfer trefniadau partneriaeth gymdeithasol rhwng llywodraeth, cyflogwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat a'r undebau llafur yng Nghymru.
Byddwn yn gwneud hyn drwy:
- Roi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i hyrwyddo gwaith teg, gan gynnwys tâl teg am ddiwrnod teg o waith, a chynnwys gweithwyr wrth wneud penderfyniadau;
- Defnyddio caffael cyhoeddus a grantiau yn fecanweithiau i ysgogi arferion gwaith teg;
- Cynnwys yr undebau llafur a chyflogwyr yn y gwaith o lunio polisïau a fydd yn hyrwyddo'r arferion cyflogaeth gorau.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
"Ein gweithlu yw ased economaidd gorau Cymru. Mae'n hanfodol i yrru ein heconomi yn ei blaen mewn marchnad gystadleuol fyd-eang ar y naill law, ac i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddol hanfodol ar y llall.
Mae gennyn ni hanes cryf o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ym meysydd deddfwriaeth, polisi a buddsoddi. O adfer bargeinio sectoraidd drwy'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth, i gyflwyno Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, rydyn ni wedi gweithio mewn modd creadigol i ddiogelu gweithwyr yng Nghymru yn well ac i sicrhau bod ganddyn nhw lais uwch.
"Y cynigion hyn yw'r cam nesaf. Maen nhw'n cydnabod bod llawer o gyflogwyr yng Nghymru yn talu cyflog teg, yn gwerthfawrogi eu staff, yn cynnwys eu gweithlu yn y broses o wneud penderfyniadau ac yn buddsoddi mewn datblygiad staff. Rydyn ni am sicrhau nad yw'r cyflogwyr hyn yn dioddef anfantais wrth gael mynediad at cyllid cyhoeddus, a bod yr arferion hyn yn cael eu hannog mewn modd gweithredol.
“Rydyn ni am i bob gweithiwr yng Nghymru gael yr un profiad. Fel y Prif Weinidog, dw i'n penderfynol o ddefnyddio'r mecanweithiau sydd gennyn ni i wireddu’r nod hwn, ac mae'r cynigion rydyn ni wedi'u hamlinellu heddiw yn ei gwneud yn haws inni weithio mewn partneriaethau effeithiol tuag at yr amcanion cyffredin hyn."
Ychwanegodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:
“Er mai gwaith yw'r ffordd orau o ddianc o dlodi, mae mwy a mwy o bobl sydd mewn gwaith yn ei chael yn anodd cael y ddau ben at ei gilydd. Rydyn ni’n gwrthod derbyn bod rhagor o anghydraddoldeb yn anochel wrth i’n heconomi genedlaethol dyfu.
"Mae economi gynhwysol yng Nghymru lle y gall pawb ffynnu, ac nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, yn hanfodol i'n gweledigaeth i sicrhau bod Cymru yn wlad fodern, garedig a mwy cyfartal.
“Mae'r Papur Gwyn yn amlinellu cynigion i atgyfnerthu ein trefniadau ar gyfer partneriaeth gymdeithasol a chyflawni agenda ddiwygiedig fwy uchelgeisiol, i sicrhau cydraddoldeb cymdeithasol gwell, a fyddai'n cael ei llywio gan ganfyddiadau'r Comisiwn Gwaith Teg a gyhoeddwyd ynghynt eleni.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno Bil Partneriaeth Gymdeithasol erbyn diwedd tymor cyfredol y Cynulliad.
Cymru fwy cyfartal: atgyfnerthu partneriaeth gymdeithasol papur gwyn