Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £650,000 yng nghwmni Williams Medical Supplies (WMS) yng Nghaerffili. Bydd 91 o swyddi newydd yn cael eu creu yn y Cymoedd yn sgil y buddsoddiad hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd cwmni WMS ei sefydlu ym 1986 ac erbyn hyn mae’n un o brif ddarparwyr cyflenwadau a gwasanaethau meddygol o fewn marchnad gofal Iechyd y DU. Ar hyn o bryd mae’r cwmni cyflogi 178 o bobl leol yn bennaf yn Rhymni a bydd y nifer hwn yn cynyddu i 269 dros y tair blynedd nesaf.

Mae’r cwmni’n ehangu fel rhan o’i gynllun busnes i dreblu ei werthiant. Bydd yn creu cyfleuster pigo a phacio newydd wedi’i awtomeiddio yn y warws er mwyn cadw’r lefelau uwch o stoc ac er mwyn sicrhau bod ei brosesau’n fwy effeithlon. Mae’r cwmni hefyd yn awyddus i fanteisio ar farchnadoedd newydd.

Mae WMS yn dosbarthu nwyddau i dros 10,000 o feddygfeydd a sefydliadau gofal sylfaenol ar draws y DU ar hyn o bryd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

“Rwy’n falch iawn y bydd cyllid gan Lywodraeth Cymru yn helpu i ddiogelu a chreu swyddi o ansawdd uchel ar gyfer pobl leol gan fwyaf yng Nghwm Rhymni.

“Mae WMS yn enw blaenllaw yn ei faes a bydd cyhoeddiad heddiw yn sicrhau bod y cwmni’n parhau’n gyflogwr amlwg yn y rhanbarth am flynyddoedd i ddod.

“Mae’r cwmni hefyd wedi ymrwymo i’n Contract Economaidd ac mae wedi buddsoddi mewn gwella ei arferion gwyrdd er mwyn cefnogi ein nodau datgarboneiddio.

“Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod lefelau diweithdra yng Nghymru yn is nag erioed ac mae cyhoeddiad heddiw yn enghraifft wych o’r modd y mae camau gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau ac yn creu mwy o gyfleoedd gwaith.”

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi sy’n gyfrifol am Dasglu’r Cymoedd, Lee Waters:

“Gwych yw clywed bod WMS yn bwriadu ehangu o fewn Cwm Rhymni.

“Dyma hwb sylweddol i’r rhanbarth ac mae’n rhan allweddol o waith Tasglu’r Cymoedd i sbarduno twf economaidd a buddsoddiad.

“Mae’r ffaith bod y cwmni’n creu 91 o swyddi newydd yn tystio i’w hyder yn yr ardal a’i phobl.

Dywedodd Rheolwr-Gyfarwyddwr Williams Medical Supplies, Hugh Hamer:

“Mae gan WMS gynlluniau uchelgeisiol iawn ar gyfer ehangu a bydd y buddsoddiad yn ein cyfleuster yn Rhymni o gymorth mawr. Mae’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn y cwmni ac yn wir y gymuned leol yn agwedd allweddol ar lwyddiant y prosiect hwn.