Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn ariannu hyd at 37 o leoedd ychwanegol ar gyfer myfyrwyr yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.
Bydd 25 o leoedd ychwanegol i fyfyrwyr is-raddedig yn y flwyddyn academaidd hon, gyda hyd at 12 lle arall y flwyddyn nesaf.
Gwelwyd cynnydd yn nifer y ceisiadau llwyddiannus i astudio meddygaeth a chyrsiau gofal iechyd eleni. Mae angen i Brifysgol Caerdydd gynyddu capasiti ei rhaglenni meddygol i wneud lle i’r nifer ychwanegol o fyfyrwyr.
Bydd y cyllid yn cyfrannu at gostau’r myfyrwyr, yn ogystal â chostau staffio a gorbenion i helpu Prifysgol Caerdydd i ddarparu’r cyrsiau i’r myfyrwyr ychwanegol.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
Mae Prifysgol Caerdydd yn rhan o’n rhwydwaith gadarn o ddarparwyr addysg feddygol a gofal iechyd yma yng Nghymru, sy’n cynhyrchu graddedigion o’r radd flaenaf bob blwyddyn.
Rwy’n falch iawn o fedru helpu Prifysgol Caerdydd i ddarparu’r lleoedd ychwanegol hyn a fydd yn gwneud cyfraniad mor werthfawr i iechyd a lles ein cenedl dros y blynyddoedd nesaf.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
Mae’r coronafeirws wedi rhoi straen ychwanegol ar ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r sector gofal iechyd eleni ac rydyn ni’n disgwyl gweld effaith y feirws ar yr holl system iechyd a gofal dros y blynyddoedd nesaf.
Felly helpu mwy fyth o fyfyrwyr i gofrestru ar gyrsiau meddygaeth a gofal iechyd yma yng Nghymru eleni yw’r ffordd orau o’n helpu i ddiwallu ein hanghenion iechyd a gofal nawr ac yn y dyfodol.
Dywedodd yr Athro Stephen Riley, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd:
Mae’n newyddion ardderchog bod Llywodraeth Cymru yn dangos eu cefnogaeth i fyfyrwyr meddygol sydd wedi cael eu heffeithio gan sefyllfa canlyniadau Safon Uwch eleni.
Nawr gall Prifysgol Caerdydd ddarparu lleoedd i bawb sydd wedi cyrraedd amodau eu cynigion pendant dros y ddwy flynedd nesaf. Byddwn yn gweithio’n galed gyda’n partneriaid yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i roi hyfforddiant clinigol ardderchog iddyn nhw. Gobeithio y byddan nhw’n dewis aros yng Nghymru i fod yn feddygon i ni yn y dyfodol.