Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd, Ken Skates, wedi cyhoeddi bod rhagor na 100 o swyddi'n cael eu creu yn sgil buddsoddiad cwmni ffabricadu dur William Hare yn Rhisga, gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Mae William Hare Limited wedi buddsoddi dros £10m dros 12 mis i brynu a datblygu'r safle yn Rhisga, gyda Llywodraeth Cymru yn rhoi £350,000 i helpu'r cwmni â'i gynlluniau. Mae'r cynlluniau hynny'n cynnwys ehangu'r cyfleusterau, gwella galluoedd cynhyrchu, creu prentisiaethau a defnyddio cyflenwyr lleol, a fydd yn hwb aruthrol i'r economi leol.
Mae William Hare Limited yn rhan o'r William Hare Group - cwmni rhyngwladol sy'n cynhyrchu cynnyrch dur sydd wedi'i beiriannu at ddibenion penodol i sbarduno prosiectau adeiladu ledled y byd. Dyma'r cwmni ffabricadu dur annibynnol mwyaf yn y DU ac ar hyn o bryd, mae'n cyflogi dros 1,700 o bobl ledled y byd. Mae'r gwaith yn Rhisga'n rhan o bortffolio trawiadol o swyddfeydd a chyfleusterau ffabricadu yn y DU a thu hwnt.
Dywedodd David Hodgkiss, Pennaeth y William Hare Group:
Fel busnes, ymfalchïwn yn ein gallu i ateb gofynion cyfnewidiol ein cleientiaid. Trwy brynu'r cyfleuster yn Rhisga a buddsoddi ynddo, byddwn yn gwella cynhyrchiant, ac yn diwallu anghenion ein cleientiaid trwy greu swyddi lleol a chefnogi busnesau eraill yr ardal.
Bydd y 100 a mwy o swyddi newydd yn cael eu creu dros y ddwy flynedd nesaf ac yn golygu twf sylweddol yn nifer ein gweithlu ar y safle yn Rhisga sydd ar hyn o bryd yn cyflogi 23 o bobl.
Yn ystod ei ymweliad â William Hare Limited yn Rhisga, dywedodd Gweinidog yr Economi , Trafnidiaeth a'r Gogledd, Ken Skates:
Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru'n cefnogi cynlluniau William Hare Limited i dyfu yn Rhisga, gan ddiogelu a chreu swyddi.
Fel llywodraeth, rydym wedi dangos dros nifer fawr o flynyddoedd ein bod yn gefnogwr triw i'r diwydiant dur ac mae cyhoeddiad heddiw'n brawf o hynny.
Mae hwn yn gwmni pwysig yn y rhanbarth a bydd y swyddi newydd sy'n cael eu creu yn hwb i'r ardal ac i'w phobl.
Mae William Hare yn enghraifft wych o'r math o gwmni rydym am eu cefnogi yng Nghymru ac mae'n dangos y math o ymddygiad y mae Llywodraeth Cymru am ei ysgogi trwy ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi a'r Contract Economaidd.