Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio Rebecca Evans wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau i rybuddio am effaith Credyd Cynhwysol ar rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Rebecca Evans:

“Mae’r banciau  bwyd sy’n cael eu defnyddio mewn ardaloedd lle mae Credyd Cynhwysol wedi’i gyflwyno wedi gweld cynnydd o 30% yn y defnydd sy’n cael ei wneud ohonynt yn ôl ystadegau gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol o’i gymharu â chynnydd o 12% mewn ardaloedd lle nad yw Credyd Cynhwysol wedi’i gyflwyno. Mae hyn yn sefyllfa hynod o ofidus.

“Yn ôl arolwg ymhlith pobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol gan adran Esther McVey ei hun roedd pedwar o bob deg oedd yn hawlio yn dioddef o anawsterau ariannol. Hefyd, roedd angen cymorth ar 46% o’r rhai newydd oedd yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol i wneud eu cais ar-lein.

“Rwyf wedi gofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol sicrhau bod Cymorth Cynhwysol ar gael mor eang â phosib i bobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol er mwyn helpu’r bobl hynny sy’n ei chael hi’n anodd rheoli eu sefyllfa ariannol, a hefyd y rheini sy’n ei chael hi’n anodd cael hyd i adnodd digidol.

“Roedd adroddiad diweddar y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn glir; mae awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a landlordiaid oll yn gweld cynnydd mewn dyledion rhent ers cyflwyno Credyd Cynhwysol.

“Mae hyn yn cyd-fynd â’r amryw bryderon sydd wedi’u codi a’u hanfon ata i gan y sector tai yng Nghymru.

“Tynnodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol sylw at y ffaith bod diffygion yn y system o ran canfod pobl sy’n agored i niwed ac mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd gweld sut maen nhw’n cael y cymorth cywir o’r dechrau’n deg pan maen nhw’n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Rwyf wedi gofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol esbonio sut mae’n bwriadu mynd ati i unioni hyn.

“Gall pob sy’n fwy agored i niwed gael cynnig trefniadau talu amgen drwy Gredyd Cynhwysol, ond rydyn ni’n gweld anghysondebau go iawn yn y modd mae hyn yn cael ei gynnig i bobl sy’n hawlio. Yn ôl arolwg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ei hun ymhlith pobl sy’n hawlio, roedd cynifer â 48% o’r rhai a holwyd wedi gorfod gofyn am gymorth eu hunain yn hytrach na’u bod yn cael ei gynnig o’r dechrau’n deg.

“Rwy’n bryderus iawn am ddiffygion Credyd Cynhwysol a’i effaith ar y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru a byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â hyn.”