Trosolwg o ddata COVID-19 ac effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol cysylltiedig ar feysydd fel cymdeithas a'r economi.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae COVID-19 yn achosi niwed i iechyd, yr economi, gwasanaethau cyhoeddus ac i gymdeithas. Cynlluniwyd y safle hon i roi trosolwg gweledol am amryw o ddangosyddion ar y niwed uniongyrchol a'r niwed ehangach yn sgil COVID-19 y gellir eu defnyddio i ddeall y niwed hwn ymhellach.
Rydym yn cyflwyno'r wybodaeth hon i gefnogi tryloywder ac ennyn diddordeb y cyhoedd gyda data COVID-19.
Nodyn terfynu
Yn unol ag egwyddorion pontio o bandemig i endemig, bydd diweddaru'r dangosfwrdd hwn yn rheolaidd yn dod i ben dydd Llun 1 Awst 2022. O ganlyniad, dyma yw diweddariad olaf y dangosfwrdd hwn.
Bydd ystadegau eraill sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn parhau i gael eu diweddaru ar ein tudalen we Ystadegau ac ymchwil. Mae cynnwys sy'n debyg i'r hyn a gasglwyd ar y dangosfwrdd yma yn parhau i gael eu diweddaru'n wythnosol ar y dangosfwrdd gwyliadwriaeth COVID-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Adroddiadau
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.